Back
Addewid strydoedd glanach

 29/10/2020

Bydd Caerdydd yn elwa o strydoedd glanach o dan gynlluniau newydd i newid y ffordd y cesglir gwastraff ac a deunyddiau ailgylchadwy ar draws y ddinas.

Dywed Cyngor Caerdydd y bydd cyflwyno rowndiau casglu newydd ar draws y ddinas yn arwain at:

  • Gasgliadau gwastraff ac ailgylchu'r strydoedd erbyn 3.45pm;
  • Strydoedd glanach; a
  • Diwedd y dryswch i breswylwyr pan fydd diwrnodau casglu yn cael eu gwthio i'r diwrnod nesaf ar wythnosau Gŵyl y Banc.

O dan y drefn newydd bydd y Cyngor yn mabwysiadu model casglu un sifft pedwar diwrnod yr wythnos. Bydd hyn yn galluogi casgliadau rhwng 6am a 3.45pm ar ddyddiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener.

Bydd pob casgliad preswyl ar ailgylchu, gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinol ar ddydd Llun yn peidio.

Disgwylir i'r system newydd fod ar waith erbyn mis Chwefror, 2021.  Bydd yn golygu y bydd yn rhaid ail-gydbwyso rowndiau casglu ar draws y ddinas gyda thua 85,000 o eiddo yn gweld newidiadau i'w diwrnodau casglu presennol.

Bydd preswylwyr yn cael gwybod am union fanylion y newidiadau drwy lythyr ym mis Ionawr.  Bydd gwybodaeth ar gael bryd hynny hefyd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y cyngor, ar wefan y cyngor ac ar ap y cyngor.

Dwedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu gwneud y newid hwn ac rwyf am ddiolch i'r Undebau a'n staff sydd wedi cytuno i'r trefniant newydd.  Maent wedi gwneud gwaith rhagorol yn cadw'r ddinas yn lân drwy'r pandemig, ond gwyddom y bydd y system newydd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n trigolion ac y bydd yn gwella golwg strydoedd a glendid ar draws y ddinas.

"Ar hyn o bryd mae casgliadau'n rhedeg rhwng 6am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.  Mae honno'n ffenestr enfawr i wastraff fod allan ar y stryd, pan all gwylanod neu blâu ymosod arno.  Bydd y system gasglu newydd hon yn gweld gwastraff oddi ar y stryd cyn 3.45pm ar y pedwar diwrnod yr wythnos y byddwn yn ei gasglu. Bydd pobl yn dychwelyd adref o'r gwaith i strydoedd glanach heb fagiau na gwastraff allan ar y stryd.  Dylai wneud gwahaniaeth enfawr ar draws y ddinas."

Er mwyn gwneud i'r system gasglu newydd weithio bydd angen 24 o lorïau sbwriel ychwanegol.  Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn rhedeg 39 ond bydd y fflyd yn awr yn cynyddu i 68, gan gynnwys cerbydau wrth gefn.

Bydd y cynllun cyfathrebu yn gweld preswylwyr yn derbyn:

  • Llythyr i bob cartref yn esbonio pam fod y newidiadau'n digwydd a'r hyn mae'n ei olygu i'w diwrnod casglu.
  • Taflen yn atgoffa preswylwyr o'r eitemau cywir i'w rhoi mewn bagiau ailgylchu gwyrdd/cynwysyddion gwastraff gardd
  • Cerdyn gyda gwybodaeth am y newidiadau y gall y preswylydd eu cadw i'w pinio ar hysbysfwrdd neu eu rhoi yn y cartref i'ch atgoffa
  • Cyfryngau cymdeithasol wedi'u targedu ar draws y ddinas a straeon ar wefannau'r cyngor
  • Gwybodaeth am y newidiadau ym mhob un o'r hybiau
  • Gwybodaeth ddigidol ar wefan Caerdydd, Ap Gov Caerdydd, ac ar sgyrsfot ar-lein y cyngor.

Disgwylir newidiadau i ddiwrnodau casglu Wardiau ym mis Chwefror 2021 - Dyddiadau terfynol i'w cyhoeddi. Er mwyn bod yn weithredol effeithlon, efallai y bydd angen casglu rhai strydoedd yn Sblot, y Mynydd Bychan a Phen-y-lan ar ddiwrnod gwahanol i weddill y ward.  Bydd yr holl aelwydydd yr effeithir arnynt yn cael eu hysbysu gan lythyr.

 

Ward

Diwrnod Casglu Cyfredol

Diwrnod Casglu Newydd

Eiddo

Creigiau

Dydd Llun

Dydd Mawrth

2255

Sain Ffagan

Dydd Llun

Dydd Mawrth

 

Radur/Pentre-poeth

Dydd Llun

Dydd Mawrth

2736

Y Tyllgoed

Dydd Llun

Dydd Mawrth

5321

Pentyrch

Dydd Llun

Dydd Mawrth

1519

Trelái

Dydd Llun

Dydd Mawrth

5890

Caerau

Dydd Llun

Dydd Mawrth

4304

Tongwynlais

Dydd Llun

Dydd Gwener

701

Treganna

Dydd Mawrth

Dydd Mercher

6698

Ystum Taf

Dydd Mawrth

Dydd Mercher

3221

Llandaf

Dydd Mawrth

Dydd Mercher

3770

Grangetown

Dydd Mawrth

Dydd Mercher

6548

Glanyrafon

Dydd Mawrth

Dydd Mercher

6117

Butetown

Dydd Mawrth

Dydd Iau

1754

Gabalfa

Dydd Mercher

Dydd Mercher

2407

Cathays

Dydd Mercher

Dydd Mercher

5781

Plasnewydd

Dydd Mercher

Dydd Iau

7858

Cyncoed

Dydd Mercher

Dydd Gwener

4161

Pentwyn

Dydd Mercher

Dydd Gwener

5340

Pen-y-lan

Dydd Mercher

Dydd Gwener

5195

Pentref Llaneirwg

Dydd Iau

Dydd Iau

4717

Trowbridge

Dydd Iau

Dydd Iau

6396

Llanrhymni

Dydd Iau

Dydd Iau

4580

Adamsdown

Dydd Iau

Dydd Iau

3826

Tredelerch

Dydd Iau

Dydd Iau

3585

Sblot

Dydd Iau

Dydd Iau

5747

Pontprennau

Dydd Iau

Dydd Gwener

 

Y Mynydd Bychan 

Dydd Gwener

Dydd Mawrth

5089

Yr Eglwys Newydd a Felindre

Dydd Gwener

Dydd Mawrth

6824

Rhiwbeina

Dydd Gwener

Dydd Gwener

5117

Llanisien

Dydd Gwener

Dydd Gwener

6901

Llys-faen  

Dydd Gwener

Dydd Gwener

1454

 

 

 

 

 

 

 

85301