Bydd goleudy eiconig Cofeb Scott ym Mharch y Rhath yn cael ei ailbaentio i gofio am ddwy fenyw a arferai, cyn iddynt farw yn anffodus, fwynhau cerdded o amgylch Llyn Parc y Rhath.
Collodd y preswylydd lleol Andy Temple ei fam, Evelyn Temple a'i wraig, Rosemary yr un ar ôl y llall y llynedd ac, wrth chwilio am deyrnged briodol i'r ddwy ohonynt, a fu mewn cysylltiad â'r cyngor i gynnig rhodd i ailbaentio'r Gofeb.
Disgwylir i'r gwaith o ailbaentio'r gofeb ddechrau yn ddiweddarach eleni a chaiff ei gwblhau gan JJ Williams Decorating Services gan ddefnyddio paent a gyflenwir am ddim gan Crown Paints.
Wrth sôn am ei rodd, dywedodd Mr Temple: "Dros y blynyddoedd treuliodd Rose a fi sawl awr yn mynd â'n cŵn am dro o amgylch y llyn, ym mhob tywydd, ac ar sawl achlysur pan ddaeth fy Mam i ymweld â ni, roedd hi bob amser yn mwynhau ymweld â'r parc, ac roedd hi bob amser yn edmygu'r goleudy - hyd yn oed yn 97 oed byddai'n dal i allu cerdded o amgylch y llyn yn ei gyfanrwydd.
"Roeddwn i'n meddwl y byddai'n deyrnged addas i adnewyddu'r goleudy i'w hen ogoniant er cof am y ddwy."
A hithau'n feiciwr brwd pan oedd yn iau, roedd Evelyn, neu Eve fel y'i gelwyd, yn dotio ar ei theulu ac yn teithio'n rheolaidd i Gaerdydd i ymweld â nhw.
Roedd Rose, a fagwyd yn Ne Cymru, yn athrawes ysgol gynradd. Roedd ei swydd gyntaf yn Ysgol Gynradd Lakeside lle arhosodd am rai blynyddoedd cyn dod yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gynradd Coed Glas.
Codwyd Cofeb Scott er cof am archwiliwr yr Antarctig, y Capten R. F. Scott a chriw'r S.S. Terranova, a hwyliodd o Gaerdydd yn 1910 gyda'r bwriad o ddod o hyd i Begwn y De a cholli eu bywydau wrth geisio cyflawni eu nod.
Rhoddwyd y goleudy i ddinas Caerdydd gan Mr F.C. Bowring, perchennog S.S Terranova ac ef a'i cyflwynodd yn swyddogol i'r ddinas ar 14 Hydref 1918.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bydd y rhodd garedig hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i Barc y Rhath ac i'r nifer fawr o bobl sy'n ymweld ag ef bob blwyddyn ac yn bwysig, yn deyrnged wych i fywydau dau berson a oedd yn amlwg yn annwyl iawn."