Back
Newidiadau i Wasanaethau Cyngor Caerdydd yn sgil cyfyngiadau ‘Cyfnod Atal' Llywodraeth Cymru

23/10/20

Aros gartref. Diogelu'r GIG. Achub bywydau.

Daw cyfyngiadau Cyfnod Atal Llywodraeth Cymru i rym am 6pm heno.

Mae hyn yn golygu, o heno:

  • Rhaid i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn, megis ar gyfer ymarfer corff;
  • Rhaid i bobl weithio gartref pan fo hynny'n bosibl;
  • Rhaid i bobl beidio ag ymweld â chartrefi eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydyn nhw'n byw gyda nhw, dan do nac yn yr awyr agored;
  • Ni chaniateir unrhyw gynulliadau yn yr awyr agored;
  • Rhaid i bob busnes manwerthu a lletygarwch, nad ydyn nhw'n rhai bwyd, gwasanaethau cyswllt agos a digwyddiadau a busnesau twristiaeth, megis gwestai, gau;
  • Bydd yn ofynnol i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu gau

Bydd y Cyfnod Atal yn aros yn ei le tan ddydd Llun, 9 Tachwedd, ac oherwydd y cyfyngiadau, mae angen i rai o wasanaethau Cyngor Caerdydd newid.

Mae'r canlynol yn grynodeb o'r newidiadau, a gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar wefan Cyngor Caerdydd yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/newidiadau-i-wasanaethau/Pages/default.aspx

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin ynghylch y Cyfnod Atal Coronafeirws, y gellir eu gweld yma:

https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin

 

Ailgylchu a Gwastraff

Bydd casgliadau gwastraff cyffredinol, ailgylchu a gwastraff bwyd cartrefi yn parhau yn ôl yr arfer yn ystod y Cyfnod Atal.

Mae Canolfannau Ailgylchu Cartrefi wedi gorfod cau oherwydd y cyfyngiadau a byddan nhw'n ailagor ar ddydd Llun 9 Tachwedd.

Fel y cyhoeddwyd eisoes, bydd casgliadau gwastraff gardd yn cael eu hatal ym mis Tachwedd, Rhagfyr a Chwefror i helpu'r cyngor i ddelio â'r pandemig COVID-19 parhaus, ac i sicrhau y gellir parhau i gynnal casgliadau gwastraff, ailgylchu a gwastraff bwyd cyffredinol. Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24917.html

Parciau, Mannau Chwarae a Hamdden

Bydd pob parc a man chwarae yn dal i fod ar agor yn ystod Cyfnod Atal Llywodraeth Cymru.

Mae Canolfannau Hamdden a Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd i gyd wedi gorfod cau gydol y Cyfnod Atal.

Mae Castell Caerdydd hefyd ar gau:

https://www.cardiffcastle.com/news/2020/10/23/closure-firebreak-lockdown/

Mae'r gwaith gwirfoddol o fynd â chŵn am dro yn parhau yng Nghartref Cŵn Caerdydd drwy apwyntiad, ac mae'r cartref yn parhau i dderbyn cŵn strae.  Mae'r cartref ar gau i'r cyhoedd ac mae'r gwaith o ailgartrefu wedi'i atal.

Ysgolion a Phrydau Ysgol am Ddim

Bydd ysgolion yn ailagor ar gyfer disgyblion Blwyddyn 8 ac is ac ar gyfer disgyblion ag Angen Addysgol Arbennig ar ôl yr hanner tymor, ar ddydd Llun 2 Tachwedd.

Bydd disgyblion ym Mlwyddyn 9 ac uwch yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun 9 Tachwedd a darperir dysgu cyfunol gan ysgolion yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar ddydd Llun 2 Tachwedd.

Bydd talebau i'w defnyddio yn ystod wythnos hanner tymor (Dydd Llun 26 Hydref i ddydd Gwener 30 mis Hydref) yn cael eu darparu i blant sy'n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim. Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24995.html

Mae Cwestiynau Cyffredin Ysgolion ar gael yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/cwestiynau-cyffredin-i-rieni-a-disgyblion/Pages/default.aspx

Hybiau, Llyfrgelloedd, Cymorth a Chyngor

Bydd Hyb y Llyfrgell Ganolog, The Powerhouse, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelái a Chaerau ar agor yn ystod y Cyfnod Atal i gwsmeriaid sydd ag apwyntiadau brys wedi'u trefnu ymlaen llaw, ar gyfer gwasanaethau fel Cymorth i Mewn i Waith, cyngor ariannol a chymorth gyda thai a budd-daliadau. Rhaid i bob hyb a llyfrgell arall gau, a byddan nhw'n ailagor ar ddydd Llun 9 Tachwedd.

Gall unrhyw un sydd angen cymorth ffonio Llinell Gynghori'r Cyngor ar 029 2087 1071. Mae Banciau Bwyd Caerdydd yn parhau ar agor ac mae talebau Banc Bwyd ar gael o'r Llinell Gyngor, neu o un o'r pedwar Hyb  sydd ar agor ar gyfer apwyntiadau.

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/25039.html

Atgyweirio Tai'r Cyngor

Bydd gwaith atgyweirio a brys yn parhau i gael ei wneud yn ystod y Cyfnod Atal.  Mae gwaith atgyweirio rheolaidd yn cael ei atal tra bo'r cyfyngiadau ar waith.  

Mynwentydd a'r Swyddfa Gofrestru

Bydd mynwentydd ar agor i ymwelwyr yn ystod y Cyfnod Atal.  Mae'r swyddfeydd ym Mynwent y Gorllewin a Mynwent Draenen Pen-y-graig wedi gorfod cau i'r cyhoedd ac mae gwasanaeth ffôn ar waith.