Back
Diweddariad ar y Coronafeirws: Newidiadau i wasanaethau cymunedol ar gyfer y cyfnod atal


22/10/20
Bydd newidiadau i wasanaethau Cynghori a'r Gwasanaeth i Mewn i Waith, hybiau a llyfrgelloedd ac atgyweiriadau i dai cyngor yn cael eu cyflwyno o ddiwedd yr wythnos hon, yn unol â'r mesurau 'cyfnod atal' diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Unwaith y daw'r cyfyngiadau i rym am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref, bydd pedwar hyb craidd yn y ddinas yn parhau ar agor ar sail apwyntiad brys yn unig drwy gydol cyfnod y mesurau newydd, tan ddydd Llun, 9 Tachwedd. Bydd gweddill yr hybiau a'r llyfrgelloedd ar gau yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Bydd Hyb y Llyfrgell Ganolog, Y Pwerdy, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelái a Chaerau ar agor i gwsmeriaid sydd ag apwyntiadau brys wedi'u trefnu ymlaen llaw ar gyfer gwasanaethau fel Cymorth i Mewn i Waith, cyngor ariannol a chymorth gyda thai a budd-daliadau. Bydd yr holl weithgareddau wyneb yn wyneb sydd wedi bod yn digwydd mewn hybiau, fel clybiau swyddi a chymorth digidol, yn dod i ben.

 

Bydd Banciau Bwyd Caerdydd yn aros ar agor. Bydd talebau Banc Bwyd ar gael drwy ffonio'r Llinell Gyngor neu ymweld ag un o'r pedwar Hyb sydd ar agor. I'r rhai sy'n hunan-ynysu ac sydd heb yr arian i brynu bwyd a hanfodion, gall parseli bwyd gael eu danfon i'r drws ffrynt.

 

Dylai cwsmeriaid sydd angen cymorth ffonio Llinell Gyngor y Cyngor ar 029 2087 1071 i wneud apwyntiad.  Gall ymgynghorwyr gynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth dros y ffôn, felly efallai na fydd angen ymweld â hyb.

 

Bydd preswylwyr hefyd yn dal i allu casglu bagiau ailgylchu gwyrdd neu fagiau gwastraff bwyd o'r pedwar hyb drwy gnocio ar y drws - bydd staff yno i roi bagiau i chi.

 

Bydd gwasanaethau llyfrgell clicio a chasglu yn cael eu gohirio yn ystod y cyfnod atal ond bydd defnyddwyr llyfrgelloedd yn dal i allu cael gafael ar yr ystod eang o wasanaethau digidol sydd ar gael am ddim gan wasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd gan gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau sain, e-gylchgronau a phapurau newydd ar-lein. Ewch iwww.caerdydd.gov.uk/gweithgareddauwrthynysuam fanylion.

 

Yn ystod y cyfnod atal, dim ond mewn argyfwng neu os yw'r gwaith yn frys y bydd gwaith atgyweirio'n cael ei wneud ar dai cyngor y ddinas. Rydym yn cysylltu â thenantiaid sydd ag archebion presennol am waith atgyweirio i roi gwybod iddynt eu bod wedi'u canslo.  Mae'r Cyngor yn gofyn i unrhyw denantiaid sydd ag archeb atgyweirio frys roi gwybod os ydynt wedi profi'n bositif neu os oes ganddynt unrhyw symptomau o'r Coronafeirws cyn i weithredwr fynychu.

 

 

Bydd Gwasanaeth Dewisiadau Tai a Digartrefedd y Cyngor yn parhau drwy apwyntiad yn unig. Dylai unrhyw un sydd angen cymorth ffonio 02920 570 750, neu e-bostiwch:CanolfanDewisiadauTai@caerdydd.gov.uk. Heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, dim ond aelodau o'r cyhoedd sydd ag apwyntiad yn barod a gaiff fynd i'r Ganolfan Dewisiadau Tai ar Hansen Street.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rydym yn ôl mewn sefyllfa debyg i'r hyn a welwyd ym mis Mawrth pan gyflwynwyd newidiadau i wasanaethau i

helpu i atal lledaeniad COVID-19 ac i amddiffyn ein cwsmeriaid a'n staff.

 

"Er mwyn sicrhau ein bod yn helpu'r bobl sydd angen ein cymorth a'n gwasanaethau fwyaf ar hyn o bryd, dim ond y pedwar hyb craidd fydd yn parhau i fod ar agor gyda mynediad drwy apwyntiad yn unig. Bydd ein Llinell Gyngor yn parhau i gynnig gwybodaeth a chyngor i gwsmeriaid ac, yn y rhan fwyaf o achosion, gellir datrys ymholiadau neu ddarparu cymorth dros y ffôn, neu drwy e-bost, heb fod angen apwyntiad wyneb yn wyneb.

 

"Os oes unrhyw un yn hunan-ynysu ac nad oes ganddo'r arian i brynu bwyd, ffoniwch y Llinell Gyngor am help. Rydym yma i gefnogi pobl mewn angen yn ystod y cyfnod pryderus parhaus hwn."

 

Bydd llawer o wasanaethau'r cyngor yn parhau heb unrhyw newidiadau drwy gydol y cyfnod atal.

 

Sut i gael gafael ar help a chymorth

 

Gall Llinell Gyngor y Cyngor gynnig amrywiaeth eang o gyngor a mynediad i dalebau banc bwyd/parseli bwyd brys. Ffoniwch 029 2087 1071 neu e-bostiwchhybcynghori@caerdydd.gov.uk

 

 

Gwasanaeth Byw'n Annibynnol y Cyngor yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth a chyngor i bobl hŷn a phobl anabl. Gellir cysylltu â nhw ar 029 2023 4234.

 

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'r gwasanaeth ar gael dros y ffôn ar 03000 133 133, drwy e-bostCyswlltCChD@caerdydd.gov.ukneu ewch iwww.teuluoeddcaerdydd.co.uk

 

Dylai unrhyw un sy'n pryderu am ddiogelwch plentyn gysylltu â'r Hyb Diogelu Amlasiantaethol (MASH) ar 029 2053 6490 neu y tu allan i oriau ar 029 2078 8570. Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol o gael ei niweidio, ffoniwch 999.

 

Ar gyfer pob ymholiad cyffredinol am wasanaethau'r Cyngor, cysylltwch â C2C ar 029 2087 2088.