Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 20 Hydref

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cynlluniau dros dro wedi eu cynnig ar gyfer Stryd y Castell; cartrefi arloesol er mwyn helpu mynd i'r afael â digartrefedd; yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; a Andy a thîm Clos Bessemer yn helpu i ymladd tân.

 

Cynlluniau dros dro wedi eu cynnig ar gyfer Stryd y Castell

Mae'r Cyngor yn ystyried ailagor Stryd y Castell i fysiau, tacsis a cherbydau brys fel mesur dros dro tra cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y dramwyfa.

Bydd yr ailagor arfaethedig - a allai fod yn barod erbyn canol mis Tachwedd - yn helpu bysiau a thacsis i groesi o'r dwyrain i'r gorllewin ac o'r gorllewin i'r dwyrain.

Bydd y dyluniad dros dro hwn yn ceisio sicrhau y bydd y feicffordd dros dro - a fydd yn rhedeg o Heol Lecwydd i fyny Heol Casnewydd hyd at y gyffordd â Heol Lydan (Broadway) - yn cael ei chadw drwy gydol yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Gallai'r mesur dros dro sydd wrthi'n cael ei ystyried weld y palmant wrth ochr y siopau a'r bariau gyferbyn â'r castell yn cael ei ymestyn i'r ffordd i roi rhodfa ehangach i bobl gadw pellter cymdeithasol. Gallai hefyd greu cyfle i fusnesau lletygarwch gael mwy o le y tu allan i'w hadeiladau i fasnachu.

Dan y cynnig, gallai Stryd y Castell wedyn gynnwys dwy lôn i fysiau a thacsis deithio i'r dwyrain a'r gorllewin, a byddai'r feicffordd dros dro wrth y castell yn aros.

Rhagwelir y byddai'r cynllun arfaethedig yn weithredol cyn i dymor y Nadolig ddechrau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild: Mae'r Cyngor yn cydnabod bod cau Stryd y Castell wedi rhannu barn, gyda dadleuon cryf yn cael eu gwneud o blaid ac yn erbyn y newidiadau a weithredwyd yn ystod y misoedd diwethaf.

"Ochr yn ochr ag ymarferiad modelu manwl ar lif traffig yn y dyfodol, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr, yn cynnwys busnesau canol dinas, trigolion lleol a dinasyddion ledled Caerdydd, er mwyn helpu i bennu'r cynllun terfynol ar gyfer y stryd."

Mae Cyngor Caerdydd yn monitro tagfeydd ac ansawdd aer ar draws canol y ddinas. Bydd yn modelu unrhyw gynlluniau hirdymor yn fanwl, a fydd yn helpu i benderfynu a oes angen unrhyw fesurau lliniaru ychwanegol mewn wardiau cyfagos.

Ar hyn o bryd mae lefelau ansawdd aer ar draws y ddinas wedi gwella yn sylweddol ar y llynedd. Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24933.html

 

Cartrefi arloesol er mwyn helpu mynd i'r afael â digartrefedd

Mae atebion tai arloesol a fydd yn darparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel i deuluoedd sy'n profi digartrefedd ar eu ffordd i Gaerdydd.

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda Beattie Passive i gynyddu'n gyflym gyflenwad y ddinas o lety dros dro gyda chartrefi ansawdd a pherfformiad uchel er mwyn darparu ar gyfer teuluoedd digartref.

Bydd Beattie Passive yn creu 48 o gartrefi modwlar newydd ar gyfer y ddinas, gyda'u hadeiladau Haus4cyfoes ar safle'r Gwaith Nwy yn Grangetown. Bydd y cynllun, sy'n amodol ar ganiatâd cynllunio, yn darparu 48 o fflatiau modwlar un, dwy a thair ystafell well a fydd yn rhoi cartrefi dros dro i deuluoedd tra y deuir o hyd i ddatrysiad tai mwy parhaol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r Cyngor yn hynod falch o fod yn gweithio gyda Beattie Passive i ddarparu atebion arloesol a chynaliadwy er mwyn helpu mynd i'r afael â'r angen am dai yn y ddinas.

"Rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol wrth gefnogi pobl a fu'n ddigartref dros yr ychydig fisoedd diwethaf ac mae ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau i'r dyfodol bellach yn datblygu'n gyflym iawn.  Mae atebion modwlar Beattie Passive yn rhoi ymateb cyflym ac effeithiol i'n cynlluniau, gan gynnwys darparu ar gyfer cynydd posibl o ran digartrefedd teuluoedd."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25014.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel

Dilynwch y canllawiau:

https://www.caerdydd.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/cyfnod-clo-caerdydd/Pages/default.aspx

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

19 Hydref

Achosion: 1,041

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 283.7 (Cymru: 140.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,680

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,548.1

Cyfran bositif: 18.3% (Cymru: 11.9% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion 20 Hydref 2020

Ysgol Uwchradd Willows

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Willows. Mae 137 o ddisgyblion Blwyddyn 10 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid effeithiwyd ar unrhyw aelodau o staff oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol.

 

Andy a thîm Clos Bessemer yn helpu i ymladd tân

Yn ystod y pandemig Coronafeirws presennol, rydym wedi cael ein hatgoffa bod ‘pawb yn yr un cwch'. Does dim dwywaith fod un o'n cydweithwyr wedi cofleidio'r syniad hwnnw, gan iddo gamu i'r adwy pan ddechreuodd tân mewn busnes cyfagos.

Roedd Andy Kahl, Gweithredwr Peiriannau Trwm, yn gweithio yng Nghanolfan Ailgylchu Bessemer Close pan gyrhaeddodd yr heddlu yn dweud bod tân yn safle Slate & Stone Caerdydd.

I gyrraedd llygaid y tân, roedd angen i'r Gwasanaeth Tân symud deunyddiau a doedd dim modd iddo wneud hynny gyda'r cerbydau cyfyngedig ar safle'r gwasanaeth ei hun ac felly, roedd angen iddynt ddefnyddio un o'n cerbydau mwyaf ni a gweithredwr.

Mae Andy wedi cael ei ganmol gan ei benaethiaid a diffoddwyr tân, gan iddo fynd yn syth i'r safle i gynorthwyo ac yna'n ôl i Ganolfan Ailgylchu Bessemer Close i wasgu ein biniau i atal ein safle rhag cau ac yna yn ôl at y tân.

Dywedodd Katherine Smith, Swyddog Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu, "Gwnaeth Andy lawer mwy na'r disgwyl'. Mae perchennog y busnes, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu a minnau yn hynod ddiolchgar i Andy am ymateb mor gyflym.

Rhoddwyd gwybod i'r rheolwr ar ddyletswydd, cyn i ni fynd at y tân, a chynhaliodd Andy archwiliadau cychwynnol a dilynol ar y cerbydau yn ogystal."

Dywedodd Steve O'Connell, Rheolwr Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, "Ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Andy am y gefnogaeth a'r cymorth a roddodd. Roedd hwn yn ddigwyddiad heriol ac roeddem ond yn gallu ei drin diolch i sgiliau ac adnoddau Andy.

Roedd yn bleser cydweithio gydag ef. Roedd ei gyfraniad yn golygu y gallem ddelio â'r digwyddiad yn llawer cyflymach nag y byddem wedi gallu ei wneud fel arall, gan sicrhau bod ein hadnoddau ar gael yn gyflym i ddiogelu'r cymunedau rydym i gyd yn eu gwasanaethu."

Dywedodd Andy, "Roeddwn i'n fwy na pharod i helpu'r Gwasanaeth Tân a'r Heddlu. Mae ein gweithwyr allweddol yn gwneud gwaith anhygoel ac roedd yn fraint gallu eu cynorthwyo."

Da iawn ti Andy, a diolch!