Back
Cartrefi arloesol er mwyn helpu mynd i’r afael â digartrefedd


20/10/20
 
Mae atebion tai arloesol a fydd yn darparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel i deuluoedd sy'n profi digartrefedd ar eu ffordd i Gaerdydd.

 

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda Beattie Passive i gynyddu'n gyflym gyflenwad y ddinas o lety dros dro gyda chartrefi ansawdd a pherfformiad uchel er mwyn darparu ar gyfer teuluoedd digartref.

 

Bydd Beattie Passive yn creu 48 o gartrefi modwlar newydd ar gyfer y ddinas, gyda'u hadeiladau Haus4cyfoes ar safle'r Gwaith Nwy yn Grangetown. Bydd y cynllun, sy'n amodol ar ganiatâd cynllunio, yn darparu 48 o fflatiau modwlar un, dwy a thair ystafell well a fydd yn rhoi cartrefi dros dro i deuluoedd tra y deuir o hyd i ddatrysiad tai mwy parhaol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r Cyngor yn hynod falch o fod yn gweithio gyda Beattie Passive i ddarparu atebion arloesol a chynaliadwy er mwyn helpu mynd i'r afael â'r angen am dai yn y ddinas.

 

"Rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol wrth gefnogi pobl a fu'n ddigartref dros yr ychydig fisoedd diwethaf ac mae ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau i'r dyfodol bellach yn datblygu'n gyflym iawn.  Mae atebion modwlar Beattie Passive yn rhoi ymateb cyflym ac effeithiol i'n cynlluniau, gan gynnwys darparu ar gyfer cynydd posibl o ran digartrefedd teuluoedd.

 

"Mae hyblygrwydd y system dros dro hon yn golygu y gellir eu symud i rywle arall yn y dyfodol os bydd angen, gan ein galluogi i ymateb i angen cyfnewidiol am dai dros amser."

 

Mae system fodwlar arloesol Beattie Passive yn codi safonau adeiladu i lefel newydd. Bydd yr holl gartrefi newydd yn safle'r Gwaith Nwy yn bodloni safonauPassivhaus, sef y safon aur ar gyfer adeiladau ynni-effeithlon, gan leihau gofynion gwresogi, a thrwy hynny'n helpu i godi preswylwyr allan o dlodi tanwydd.

 

Mae'r unedau o fframiau pren, wedi'u hadeiladu ar gyfer oes o 60 mlynedd a mwy, ac yn cael eu cynhyrchu oddi ar y safle gan ddefnyddio deunyddiau sydd ag ôl troed carbon isel, a'u cludo i'r safle er mwyn eu gosod.   Mae'r cartrefi'n rhoi lefelau uchel o ddiogelu rhag sŵn, tân, llifogydd a nwy radon.

 

Dywedodd Ron Beattie, Rheolwr Gyfarwyddwr, Beattie Passive: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd er mwyn darparu'r cynllun hwn sedd ei angen yn fawr ar deuluoedd sy'n cael profiad o ddigartrefedd yng Nghaerdydd. Caiff ein tai modwlar safonol Passivhaus eu cynhyrchu oddi ar y safle a phan fyddant yn y lleoliad byddant yn cynnig tai dros dro o ansawdd a pherfformiad uchel i'r teuluoedd hyn. Caiff y fflatiau modwlar eu hardystio gan Sefydliad Passivhaus i'r Safon Passive Plus, gan godi safon tai modwlar.

Caffaelwyd yr hen waith nwy 29 erw ar Heol y Fferi yn Grangetown gan y Cyngor yn gynharach eleni i'w gynnwys yn ei raglen datblygu tai uchelgeisiol. Mae'r Cyngor yn bwriadu cyflwyno datblygiad deiliadaeth gymysg o hyd at 500 o gartrefi ar y safle fel rhan o'i darged i ddarparu 2,000 o gartrefi newydd yng Nghaerdydd, a bydd 1,000 ohonynt wedi eu cwblhau erbyn 2022.

Bydd unedau Beattie Passive ar y safle yn cynnig llety teuluol o ansawdd da. Bydd staff cymorth ar y safle yn ystod y dydd, a bydd darpariaeth arall fel gwasanaethau teuluol Cymorth Cynnar, ymwelwyr iechyd a chymorth rhianta hefyd ar gael.

Dros dro, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer cynllun y Gwaith Nwy, fel rhan o becyn gwerth sawl miliwn o bunnoedd a gyhoeddwyd dros yr haf i fynd i'r afael â digartrefedd ledled Cymru.

Dywedodd Julie James, Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru'n gefnogwr gwych dros dai a adeiledir mewn ffatri ac mae'r 50 o gartrefi teuluol newydd hyn yn enghraifft wych o atebion tai cynaliadwy, arloesol o ansawdd uchel i deuluoedd sy'n profi digartrefedd. 

 

"Mae'r pandemig coronafeirws wedi amlygu pwysigrwydd cartref cynnes, saff, diogel a fforddiadwy fel na fu erioed o'r blaen. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid fel Cyngor Caerdydd i sicrhau na chaiff neb ei orfodi i fod yn ddigartref ac i sicrhau bod gennym gyflenwad o dai a gwasanaethau cymorth i roi terfyn ar ddigartrefedd am byth."