Back
Tîm Tân! Andy a thîm Clos Bessemer yn helpu i ymladd tân

19.10.2020

Yn ystod y pandemig Coronafeirws presennol, rydym wedi cael ein hatgoffa bod ‘pawb yn yr un cwch'. Does dim dwywaith fod un o'n cydweithwyr wedi cofleidio'r syniad hwnnw, gan iddo gamu i'r adwy pan ddechreuodd tân mewn busnes cyfagos.

Roedd Andy Kahl, Gweithredwr Peiriannau Trwm, yn gweithio yng Nghanolfan Ailgylchu Bessemer Close pan gyrhaeddodd yr heddlu yn dweud bod tân yn safle Slate & Stone Caerdydd.

I gyrraedd llygaid y tân, roedd angen i'r Gwasanaeth Tân symud deunyddiau a doedd dim modd iddo wneud hynny gyda'r cerbydau cyfyngedig ar safle'r gwasanaeth ei hun ac felly, roedd angen iddynt ddefnyddio un o'n cerbydau mwyaf ni a gweithredwr.

Mae Andy wedi cael ei ganmol gan ei benaethiaid a diffoddwyr tân, gan iddo fynd yn syth i'r safle i gynorthwyo ac yna'n ôl i Ganolfan Ailgylchu Bessemer Close i wasgu ein biniau i atal ein safle rhag cau ac yna yn ôl at y tân.

Dywedodd Katherine Smith, Swyddog Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu, "Gwnaeth Andy lawer mwy na'r disgwyl'. Mae perchennog y busnes, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu a minnau yn hynod ddiolchgar i Andy am ymateb mor gyflym.

Rhoddwyd gwybod i'r rheolwr ar ddyletswydd, cyn i ni fynd at y tân, a chynhaliodd Andy archwiliadau cychwynnol a dilynol ar y cerbydau yn ogystal."

Dywedodd Steve O'Connell, Rheolwr Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, "Ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Andy am y gefnogaeth a'r cymorth a roddodd. Roedd hwn yn ddigwyddiad heriol ac roeddem ond yn gallu ei drin diolch i sgiliau ac adnoddau Andy.

Roedd yn bleser cydweithio gydag ef. Roedd ei gyfraniad yn golygu y gallem ddelio â'r digwyddiad yn llawer cyflymach nag y byddem wedi gallu ei wneud fel arall, gan sicrhau bod ein hadnoddau ar gael yn gyflym i ddiogelu'r cymunedau rydym i gyd yn eu gwasanaethu."

Dywedodd Andy, "Roeddwn i'n fwy na pharod i helpu'r Gwasanaeth Tân a'r Heddlu. Mae ein gweithwyr allweddol yn gwneud gwaith anhygoel ac roedd yn fraint gallu eu cynorthwyo."

Da iawn ti Andy, a diolch!