Back
Defnydd am ddim o'r nextbike a 1,000 o goed i ysgolion er mwyn lansio strategaeth Un Blaned Caerdydd

15/10/20

Dim ond dwy o'r mentrau a gyhoeddwyd heddiw yw'r defnydd am ddim o'r nextbike i drigolion ac ymwelwyr â Chaerdydd a'r 1,000 o goed ifanc a roddir i ysgolion cynradd i'w plannu i gydnabod rhyddhau strategaeth 'Un Blaned Caerdydd'.

Cymeradwywyd y strategaeth, sy'n nodi ymateb y cyngor i'r Argyfwng Newid Hinsawdd ac sy'n galw ar ddinasyddion a busnesau i ymuno â'r awdurdod lleol i wneud prifddinas Cymru yn Niwtral o ran Carbon erbyn 2030, gan y cabinet Ddydd Iau, 15 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd:  "Rydym am annog trigolion a busnesau i ymuno â ni i helpu i leihau allyriadau carbon y ddinas.  Rydym yn wynebu argyfwng yn yr hinsawdd ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae.

"Gan ddefnyddio ein ceir yn llai, gwneud gwell defnydd o'n gerddi, meddwl am yr hyn rydym yn ei fwyta, ailgylchu cymaint o'n gwastraff â phosibl, dyma rai o'r newidiadau bach y gall pob un ohonom eu gwneud er mwyn helpu i sicrhau newid mwy.

"Rwy'n credu bod pawb bellach yn cydnabod yr argyfwng y mae ein planed yn ei hwynebu. Mae Caerdydd ei hun yn ddinas tair blaned.  Pe bai pawb yn y byd yn defnyddio adnoddau fel rydym yn ei wneud yma yna byddai angen tair planed ar y byd i oroesi. Dyna pam fod yn rhaid inni wneud newidiadau nawr a pham rydym yn galw ar bawb yng Nghaerdydd i ymuno â ni.

"Byddwn nawr yn cynnal proses ymgynghori pum mis ar y strategaeth hon ac rydym am glywed barn trigolion, busnesau a phobl ifanc, gan mai eu dyfodol nhw sydd dan sylw. Rydyn ni eisiau i bawb gymryd rhan.  Gallant wneud hynny drwy ymweld â'r  wefan  hon, cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a mabwysiadu rhai o'r mesurau syml a fydd yn dechrau cael effaith ar unwaith."

Cynnig gan nextbike

Bydd unrhyw un yng Nghaerdydd yn gallu llogi nextbike Ddydd Sadwrn, 17 Hydref, am 30 munud yn rhad ac am ddim. Bydd unrhyw un nad oes ganddo gyfrif gyda'r darparwr rhentu ar y stryd yn gallu lawrlwytho'r ap a defnyddio'r beiciau am y 30 munud cyntaf am ddim, gyda ffi o £1 am bob 30 munud wedi hynny.

Bydd gan aelodau o'r cynllun nextbike, sydd fel arfer yn cael y 30 munud cyntaf o feicio am ddim drwy eu tanysgrifiad blynyddol, 30 munud ychwanegol am ddim, gan roi awr lawn o feicio am ddim ar ddiwrnod y cynnig.

I lawrlwytho'r Ap nextbike, ewch  yma 

Coed

 

Mae plannu coed a chynyddu bioamrywiaeth yn elfen bwysig i unrhyw strategaeth newid yn yr hinsawdd. Mae coed yn amsugno ac yn storio allyriadau carbon deuocsid sy'n sbarduno cynhesu yn yr hinsawdd.  Bydd y Cyngor yn darparu 1,000 o goed i ysgolion cynradd eu plannu yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed ddiwedd mis Tachwedd.  Bydd hyn yn dechrau rhaglen o ymgysylltu â phlant ysgolion cynradd fel y gallant ddysgu am bwysigrwydd lleihau allyriadau carbon y ddinas er mwyn mynd i'r afael â bygythiad parhaus newid yn yr hinsawdd. 

Beiciau i ysgolion ar draws y ddinas

Mae beiciau'n cael eu rhoi i ysgolion ar draws y ddinas, fel y gall plant ysgol ddysgu beicio yn ystod amser ysgol.

Bydd pob ysgol gynradd yn derbyn 20 beic a bydd pob ysgol uwchradd yn derbyn 30 beic, ynghyd â helmedau, storfeydd beics ac offer cynnal a chadw.Mae'r bartneriaeth hon yn cael ei chyflwyno gan Gyngor Caerdydd, Beicio Cymru a British Cycling ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun yn helpu plant ysgol i ddysgu sut i feicio fel rhan o'u cwricwlwm, gan ddefnyddio'r beiciau mewn lleoliad dan oruchwyliaeth.