Back
Wates Residential yn cryfhau ei bartneriaeth adeiladu tai Cartrefi Caerdydd â Chyngor Caerdydd gyda dau gam adeiladu pel


 

  • Bydd camau 2 a 3 rhaglen Cartrefi Caerdydd yn cynnwys adeiladu 1,050 o gartrefi newydd ar 16 o safleoedd ledled Caerdydd yn ystod y 7 mlynedd nesaf.
  • Bydd y datblygiadau ar y gweill yn cynnwys atebion arloesol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys adeiladu modiwlaidd, cynlluniau sydd bron yn ddi-garbon yn ogystal â ffyrdd newydd o reoli ynni ar y safleoedd.

 

Mae'r contractwr a'r datblygwr, Wates Residential wedi'i benodi'n swyddogol i gyflawni camau nesaf ei bartneriaeth ‘Cartrefi Caerdydd' 10 mlynedd â Chyngor Caerdydd i adeiladu 1,500 o gartrefi ledled y ddinas erbyn 2027 i helpu i ateb y galw cynyddol am dai.

 

Bydd o leiaf 40 y cant o'r cartrefi sy'n cael eu datblygu ledled y ddinas yn rhan o'r camau nesaf yn rhai i'w rhentu o'r Cyngor neu i'w gwerthu trwy Gynllun Perchnogaeth Cartref â Chymorth yr awdurdod

 

Disgwylir i'r datblygiadau newydd cyntaf ddechrau ar y safle yr hydref hwn a chynnwys y datblygiad Cartrefi Caerdydd mwyaf hyd yma ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Nhredelerch, fydd yn cynnwys 214 o gartrefi newydd gan gynnwys 44 o fflatiau Byw yn y Gymuned i bobl hŷn yn Nhŷ Addison. Yr adeilad cyfoes hwn fydd y cyntaf o'r cynlluniau Byw yn y Gymuned y mae'r Cyngor yn eu hadeiladu yn rhan o'r Strategaeth Pobl Hŷn ar gyfer y ddinas.

 

Ym mis Awst 2019, cyhoeddodd Wates Residential, Sero Energy a Chyngor Caerdyddfod cynllun hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain wedi cael mwy na £4m gan Grant Rhaglen Tai Arloesol (RhTA)Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun yn gosod pympiau gwres o'r ddaear a phaneli solar a batris ar bob uned, yn codi adeiladau o safon sy'n effeithlon o ran gwres ac yn gosod pwyntiau gwefru trydanol ar hyd a lled y safle. Bydd Sero Energy yn gosod system rheoli ynni grid arloesol ar y safle.

 

Mae'r RhTA hefyd wedi rhoi gwerth £1.4 miliwn o gyllid ar gyfer Croft Street ym Mhlasnewydd er mwyn creu system fodiwlaidd sy'n effeithlon iawn o ran ynni a gaiff ei dylunio a'i chreu oddi ar y safle dan amodau rheoledig gan ddefnyddio'r deunyddiau adeiladau a'r dechnoleg ddiweddaraf.

 

Nod y Cyngor yw gosod pympiau gwres o'r ddaear a phaneli solar a batris ar ei holl unedau newydd yn y cam nesaf, yn ogystal â gwella adeiladwaith yr adeiladau. Yn ogystal â gweithio tuag at ddyfodol di-garbon, bydd y dechnoleg yn sicrhau bod biliau gwresogi blynyddol yn is i breswylwyr, gan helpu i leihau tlodi tanwydd.

 

 

Ers ffurfio Cartrefi Caerdydd yn 2016, mae'r bartneriaeth wedi cwblhau 343 o gartrefi mewn 7 lleoliad ledled y ddinas gan gynnwys 172 o gartrefi i'w gwerthu'n breifat yng Ngolwg-y-Môr a  Rhodfa'r Capten yn Llanrhymni, Rhos yr Arian yn Llaneirwg, Tŷ Walker yn Llanisien a Thŷ To Maen ym Mhentref Llaneirwg.  Mae'r rhaglen hefyd wedi cwblhau 171 o dai fforddiadwy ym mhob un o'r safleoedd uchod yn ogystal â chartrefi newydd yn Heol Snowden a Heol Wilson yn Nhrelái, Tŷ Newydd yng Nghaerau a Lôn Bryn Hyfryd yn Llanrhymni.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo yn Briardene yng Ngabalfa a Rhos yr Arian, a bydd gwaith yn dechrau ar safleoedd olaf cam 1, Highfields, Y Mynydd Bychan a Heol Llandudno, Tredelerch yn fuan.

 

 

 

Mae'r bartneriaeth benigamp hefyd wedi ennill nifer o wobrau drwy gydol cam cyntaf y gwaith. Mae'r rhain yn cynnwys Gwobr Aur What House am Golwg-y-Môr yn Llanrhymni a gydnabuwyd fel y 'Cynllun Cartrefi Cyntaf Gorau' ac enillydd y cynllun Preswyl gorau yng Ngwobrau Effaith Gymdeithasol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig 2020.

 

Yn rhan o'r project, mae Wates Residential a Chyngor Caerdydd wedi gwneud addewid ar y cyd i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddi ar gyfer preswylwyr lleol.  Dros y pedair blynedd gyntaf, mae Cartrefi Caerdydd wedi buddsoddi mwy na £567,000 yn y gymuned leol drwy weithgareddau gwerth cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys creu 71 o brentisiaethau ar y safle, 147 o leoliadau profiad gwaith a rhaglen 'Dyfodol Adeiladu' sy'n cynnig hyfforddiant ar sgiliau adeiladu a chyflogaeth i oedolion di-waith.

 

Yn 2019 cafodd Wates Residential grant gwerth £20,000 hefyd gan Wates Giving, cangen elusennol Ymddiriedolaeth Mentrau Teulu Wates, i gynnal cwrs cyn cyflogi yng Nghaerdydd gyda'r Ysgol Hard Knocks. Mae'r elusen yn defnyddio rygbi i helpu pobl ifanc na allant gael swyddi i ddatblygu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd.

 

Dywedodd Edward Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential:

 

"Ers 2015, mae ein partneriaeth benigamp gyda Chyngor Caerdydd wedi adeiladu 426 o gartrefi newydd y mae angen mawr amdanyn nhw i bobl leol ledled Caerdydd. Mae'r cartrefi newydd hyn yn fodel ar gyfer tai newydd cynaliadwy o ansawdd uchel y gall pobl fod yn falch o fyw ynddynt.

 

"Mae dechrau'r broses ar gyfer dau gam nesaf y rhaglen yn gam cyffrous i Gartrefi Caerdydd ac edrychwn ymlaen at adeiladu cartrefi newydd mewn ffyrdd arloesol a gweithio gyda'r cymunedau cyfagos wrth i ni ddechrau ar y gwaith yn y misoedd nesaf."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:"Mae cynllun Cartrefi Caerdydd yn elfen bwysig o'n strategaeth uchelgeisiol ar gyfer datblygu tai i adeiladu mwy o dai fforddiadwy yn y ddinas. Mae cam un wedi creu cartrefi cyngor newydd hardd i'n helpu i ateb y galw yn ogystal ag eiddo i'w gwerthu'n breifat sy'n wirioneddol fforddiadwy.

 

"Un o ganolbwyntiau Cartrefi Caerdydd erioed fu gwella safonau Rheoli Adeiladu ar gyfer adeiladau ynni-effeithlon ac ein bwriad yw cyflwyno'r safonau 2025 arfaethedig yn awr yn rhan o'r datblygiadau cyffrous sydd ar y ffordd.

 

"Rydym yn falch iawn o fod yn parhau â'r bartneriaeth gyda Wates Residential a gallwn edrych ymlaen at ddefnyddio dulliau adeiladu arloesol a thechnolegau cynaliadwy i greu cartrefi o ansawdd uchel sy'n addas ar gyfer y dyfodol."