Back
14 Baner Werdd i barciau a mannau gwyrdd Caerdydd
Mae Gwarchodfa Natur Fferm y Fforest a Pharc Hailey wedi cael Baneri Gwyrdd mawr eu bri am y tro cyntaf, sy'n golygu bod gan 14 o barciau a mannau gwyrdd a reolir gan Gyngor Caerdydd yr anrhydedd ryngwladol mawr ei heisiau hon erbyn hyn.

Mae Parc Bute, Morglawdd Bae Caerdydd, Gwlyptiroedd Bae Caerdydd, Mynwent Cathays, Ynys Echni, Gerddi'r Faenor, Parc y Mynydd Bychan, Parc Cefn Onn, Parc y Rhath, Gerddi Bryn Rhymni, Mynwent Draenen Pen-y-graig a Pharc Victoria oll wedi llwyddo i gadw eu dyfarniadau presennol.

Bernir y gwobrau gan arbenigwyr mannau gwyrdd yn ôl ystod o feini prawf caeth gan gynnwys bioamrywiaeth, cynnwys y gymuned, cynnal a chadw, cyflwyniad, glendid a rheoli amgylcheddol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Erbyn hyn mae gan Gaerdydd fwy o fannau safon y Faner Werdd nag unman arall yng Nghymru ac mae ychwanegu dau le newydd eleni, a’n gweithlu wedi lleihau cymaint â 50% ar adegau yn ystod y pandemig hwn gyda staff yn hunanynysu, yn hunanwarchod neu’n cael eu hadleoli i feysydd eraill i helpu yn ymateb Covid-19 y Cyngor, yn dyst i ymrwymiad a gwaith caled y tîm."

"Mae grwpiau cyfeillion a gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol at barciau ar draws y ddinas – ac mae hynny’n fwy gwir nag yn unman yn Fferm y Fforest a Pharc Hailey – a hoffwn ddiolch iddynt am y gwaith y maent wedi'i wneud i'n helpu i gyflawni'r safonau uchel mae eu hangen i ennill statws y Faner Werdd."

I ddathlu llwyddiant Baner Werdd y ddinas, sydd hefyd yn cynnwys 14 o Wobrau Cymunedol a Gwobr Baner Werdd Lawn ar gyfer Amgueddfa Hanes Naturiol Sain Ffagan, bydd Neuadd y Ddinas Caerdydd a hwyliau'r Morglawdd yn cael eu goleuo'n wyrdd heno.

Dywedodd Penny Bowers, Cadeirydd Cyfeillion Parc Hailey: "Yn dilyn blynyddoedd lawer o'r grŵp yn derbyn Gwobr Gymunedol Baner Werdd am broject y ddôl yn y parc, rydym mor falch o fod yn rhan o ennill y brif Faner Werdd ar gyfer y parc cyfan. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth brwdfrydig ein Ceidwaid Cymunedol, aelodau'r grŵp, gwirfoddolwyr yn y gymuned leol a phawb sy'n defnyddio'r parc arbennig hwn.” 

Dywedodd Martin Chamberlain, Ysgrifennydd Cyfeillion Fferm y Fforest: "Mae Cyfeillion Fferm y Fforest wrth eu boddau bod y warchodfa wedi cael Statws y Faner Werdd yn y flwyddyn sy’n dathlu 30 mlynedd ers eu sefydlu. Mae hyn yn adlewyrchu gwaith caled Ceidwaid y Parc Cymunedol a'r oriau lawer o wirfoddoli a wneir yn y warchodfa bob blwyddyn."

Cyflwynir rhaglen Gwobrau’r Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar garreg ein drws, yn rhoi budd i’n hiechyd a'n lles.

"Mae'r 224 o faneri sy'n chwifio eleni, gan gynnwys 14 o faneri Cyngor Caerdydd, yn dyst i waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. Hoffwn longyfarch a diolch iddynt i gyd am eu hymrwymiad rhagorol."

Mae rhestr lawn o enillwyr gwobrau ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus https://www.keepwalestidy.cymru/cy