Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 13 Hydref

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; y diweddaraf am achosion sy'n effeithio ar ysgolion; a 5 pheth y dylai pob myfyriwr yng Nghaerdydd ei wybod am eu gwastraff a'u hailgylchu.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

12 Hydref

Achosion: 592

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 161.4

Achosion profi: 5,236

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,427.1

Cyfran bositif: 11.3%

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion 13 Hydref 2020

Ysgol Gynradd Llanisien Fach

Cadarnhawyd achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach.

Mae 60 o ddisgyblion dosbarth derbyn a 6 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.   

Ysgol Gynradd Creigiau

Cadarnhawyd achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gynradd Creigiau. Mae 19 o ddisgyblion Meithrin a 4 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.

 

5 pheth y dylai pob myfyriwr yng Nghaerdydd ei wybod am eu gwastraff a'u hailgylchu

Os yw'ch mab, merch, wŷr neu wyres, ffrind neu berthynas yn dechrau ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn hon bydd yn gwybod bod llawer o bethau i'w dysgu yn byw oddi cartref.

P'un ai a yw mewn Neuadd neu lety preifat, mae'n bwysig i fyfyrwyr wybod sut i waredu eu sbwriel yn gywir.

Bydd y 5 argymhelliad hyn yn sicrhau eu bod yn osgoi cael dirwy:

  1. Gall gwastraff bwyd gael ei ailgylchu'n ynni. Defnyddiwch y cadi bwyd ar gyfer yr holl fwyd nas defnyddiwyd, gan gynnwys pliciau ffrwythau a llysiau, bwyd sy'n weddill, plisg wy, bagiau te a choffi mâl yn y cadi cegin. Cewch ragor o wybodaeth am y cadis bwyd  yma.

 

  1. Caiff ailgylchu ei gasglu bob wythnos yng Nghaerdydd mewn bagiau ailgylchu gwyrdd AM DDIM. Gallwch eu harchebu ar-lein neu eu nôl nhw o'n stocwyr lleol. Bydd defnyddio casgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd yn golygu na fydd llawer o wastraff yn weddill i'w roi yn y bin du/bagiau streipiau coch.  Dewch o hyd i'ch stocwyr lleol  yma.

 

  1. Lawrlwythwch ap Cardiff Gov er mwyn peidio â cholli dyddiad casglu. Gallwch wirio dyddiadau eich casgliadau ailgylchu a gwastraff a gosod negeseuon atgoffa. I lawrlwytho'r ap ewch i siop Google Play neu siop apiau Apple a chwilio am ‘Cardiff Gov'.

 

  1. Os nad ydych yn siŵr beth sy'n perthyn i ble, edrychwch ar ein canllaw  Ailgylchu A-Z -  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx  - a theipiwch enw unrhyw eitem i gael gwybod sut i gael gwared ohoni'n gywir. O bolystyren i blastig a balwnau i bapur swigod, gallwn ni eich helpu i roi eich deunyddiau gwastraff ac ailgylchu yn y lle iawn.

 

  1. Os gosodwyd sticer pinc ar eich bin neu fag ailgylchu, edrychwch yn gyntaf i weld a ydych chi wedi rhoi'r eitemau canlynol yn y bag mewn camgymeriad:
     
  • Gwastraff bwyd / gweddillion bwyd mewn pecynnau, tuniau, jariau ac ati.
  • Tecstilau - megis dillad, dillad gwely, carpion ac ati.
  • Cewynnau

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24948.html