Back
Galwad ar drigolion Caerdydd i ymuno â'r her 'Un Blaned'

 

Datgelwyd cynllun newydd uchelgeisiol gan Gyngor Caerdydd i yrru'r ddinas tuag at ddod yn ddinas niwtral o ran carbon erbyn 2030.

Mae 'Caerdydd Un Blaned' yn amlinellu ymateb y Cyngor i argyfwng y newid yn yr hinsawdd ac yn galw ar fusnesau a thrigolion i ymuno ag ef i wneud y newidiadau sydd eu hangen i'n ffordd o fyw, os yw prifddinas Cymru am ddod yn ddinas wirioneddol 'Werdd' a chynaliadwy dros y deng mlynedd nesaf.

Mae'r strategaeth, a fydd yn mynd i Gabinet Cyngor Caerdydd i'w chymeradwyo ddydd Iau, 15 Hydref, yn cael ei lansio yn yr un mis ag y mae'r Cyngor yn cynnau ei fferm solar 9MW newydd.

Wedi'i adeiladu ar hen safle tirlenwi Ffordd Lamby,  bydd y fferm solar - sy'n cyfateb o ran maint i 20 o gaeau Stadiwm y Principality - yn gwrthbwyso bron i 3,000 tunnell o Garbon Deuocsid (CO2). Mae ganddi hefyd y gallu i gynhyrchu digon o ynni gwyrdd i bweru tua 2,900 o gartrefi bob blwyddyn am 35 mlynedd.

Dim ond un o gyfres o brojectau a amlinellwyd ar gyfer ymgynghoriad yn y strategaeth Un Blaned yw'r fferm solar gan gynnwys:

  • Cynllun gwresogi ardal newydd;
  • Cynyddu faint o orchudd o goed sydd yn y ddinas gan 25%;
  • Rhoi terfyn ar ddefnydd y cyngor o blastigau untro; 
  • Ailagor camlesi canol y ddinas fel rhan o gynllun rheoli dŵr cynaliadwy;
  • Parc fferm yn Fferm y Fforest i gynhyrchu bwyd i'r ddinas; a
  • Marchnad fwyd gynaliadwy ym marchnad Caerdydd

 

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:   "Y llynedd, bu i Gyngor Caerdydd ddatgan Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd, ond roeddem yn gweithio ar wneud newidiadau ymhell cyn hynny.   Er 2005, mae Caerdydd wedi gweld gostyngiad o 38% yn ei hallyriadau carbon yn y sector domestig a 55% o ran allyriadau'r sector diwydiannol a masnachol.  Yn yr un cyfnod, mae'r Cyngor wedi lleihau ei allyriadau carbon uniongyrchol ei hun gan 45%.  Rydym wedi gwneud hyn drwy weithredu cyfres o fesurau i wella effeithlonrwydd ynni yn eiddo'r cyngor, gosod systemau solar ar gartrefi'r Cyngor, cyflwyno goleuadau stryd LED ar rwydwaith ffyrdd y ddinas, a thrwy gynhyrchu 1.3 Megawatt o ynni'r haul yn ein hysgolion a'n hadeiladau cyhoeddus.

"Er gwaethaf y llwyddiant hwn, mae angen i ni wneud mwy, fel y gallwn gyflawni ein gweledigaeth o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.  Mae'r angen am newid yma nawr.  Dyw parhau fel yr ‘yn ni ddim yn ddewis hyfyw. Dyw e ddim yn gynaliadwy. Bydd yn rhaid i bob un ohonon ni feddwl a gweithredu'n wahanol.   Bydd y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i yrru'r agenda hon yn ei blaen, ond mae angen i bob un ohonon ni edrych ar sut rydyn ni'n byw, ac mae angen i bob un ohonon ni ddechrau gwneud dewisiadau ynglŷn â pha etifeddiaeth rydyn ni am ei gadael i'n plant.

"Mewn rhai ffyrdd mae'r pandemig wedi newid sut mae llawer ohonon ni'n byw ein bywydau nawr.  Mae mwy ohonon ni'n gweithio gartref, ry'n ni'n dod o hyd i ffyrdd o addasu a llwyddo i beidio â defnyddio ein ceir bob dydd. Ry'n ni wedi dechrau byw'n fwy lleol, gan ddefnyddio ein siopau lleol ac atyniadau cyfagos. Mae wedi dechrau proses o ail-werthuso, a'r broses hon, y newid hwn fi'n credu y dylen ni ei ddefnyddio i helpu i lunio'r ffordd rydyn ni'n meddwl am ein dyfodol. Rhaid i unrhyw adfywiad economaidd ôl-bandemig - adfywiad economaidd y bydd ei angen yn fawr - fod yn un sy'n canolbwyntio'n drwm ar dechnolegau gwyrdd.  Dylai fod yn seiliedig ar greu swyddi sy'n helpu i adeiladu a dylunio dyfodol cynaliadwy i'n dinas.  Fel Cyngor mae gennym rôl i'w chwarae i annog a gyrru'r cyfleoedd gwaith hyn.  Dyma ddiben y strategaeth 'Un Blaned' - gan edrych ar ffyrdd y gallwn gynllunio, cyflawni a diogelu dyfodol pob un ohonom.  Rwy'n annog pobl Caerdydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn ac i ymuno â ni, a'n helpu ni, wrth i ni geisio gwneud Caerdydd yn garbon niwtral erbyn 2030."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:  "Mae'r ystadegau'n dangos bod Caerdydd yn ddinas tair planed ar hyn o bryd.  Pe bai pawb yn y byd yn defnyddio adnoddau naturiol ac yn cynhyrchu carbon deuocsid i'r graddau rydyn ni'n ei wneud yng Nghaerdydd, byddem angen adnoddau tair planed i'n galluogi ni i gario mlaen fel ry'n ni.  Yn gwbl amlwg mae'n rhaid i ni ildio rhywbeth.  Rwyf am i bobl ymuno â ni ar y daith hon wrth i ni anelu at adeiladu dyfodol gwell a gwyrddach.

"Mae'r ddogfen hon yn nodi'r gwaith gwych rydym wedi'i wneud hyd yma wrth yrru'r ddinas tuag at ddyfodol carbon niwtral, ond mae llawer i'w wneud eto.

"Os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau yna mae angen i bawb yng Nghaerdydd ymuno â ni.  Mae hyn yn ymwneud â chreu dyfodol mwy disglair a chynaliadwy i'n plant ac i blant ein plant."

Nod Cyngor Caerdydd yw dod yn ddinas 'Un Blaned' erbyn 2030.  Bydd yn gwneud hynny drwy ganolbwyntio ar y 7 prif thema ganlynol. 

Tai a'r Amgylchedd Adeiledig

Mae'r Cyngor eisoes wedi dod â 9,500 o fesurau ynni-effeithlon i dai ledled y ddinas, ac mae wedi darparu datblygiadau tai cyngor sy'n ennill gwobrau ac sy'n effeithlon o ran ynni.  Rydym hefyd wedi gosod boeleri ynni-effeithlon a mesurau arbed ynni eraill mewn llawer o'n hadeiladau craidd, ac wedi sicrhau gostyngiad o 5% mewn carbon y flwyddyn yn ein gweithgareddau uniongyrchol ein hunain drwy leihau faint o ynni a ddefnyddiwn. Yn ein hymgyrch "Troi i Lawr am 10 Diwrnod" yn gynharach eleni llwyddodd 42 o'n hysgolion i leihau eu defnydd o drydan 6% ar gyfartaledd dim ond drwy reoli ynni'n fwy gofalus.

Y projectau allweddol sy'n cael eu cyflwyno yn y sector hwn yw: 

  • Ail-ffitio tai ar raddfa fawr;
  • Darparu 1,500 o gartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel mewn wardiau ledled y ddinas;
  • •  Cyflawni project ystâd dai beilot di-garbon ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain;
  • •  Datblygu glasbrint i adeiladu pob ysgol newydd i safon carbon niwtral, a
  • Rhoi newid yn yr hinsawdd wrth wraidd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd a'r canllawiau cynllunio.

Ynni

Mae'r Cyngor eisoes wedi gweithredu cynllun trydan dŵr yng Nghored Radur, ac mae wedi cefnogi nifer o ddatblygiadau arloesol newydd ym maes ynni adnewyddadwy, gan gynnwys technolegau paneli solar cludadwy a all ddarparu ynni glân ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau "naid" eraill, a system wresogi arloesol sy'n darparu gwres adnewyddadwy o ddŵr daear bas yn ysgol Feithrin Grangetown. Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi Arolwg Daearegol Prydain i fapio'r ffynhonnell wres hon sydd ar gael o dan y ddinas, gan chwilio am fannau poeth y gellid eu defnyddio i ddisodli gwres o nwy mewn adeiladau cyfagos.

Mae 14,000 o oleuadau stryd LED newydd wedi'u gosod ar draws y rhwydwaith ffyrdd.  Mae hyn wedi lleihau faint o ynni y maent yn ei ddefnyddio 60% ac mae cynllun i osod mwy. 

Mae cronfa bensiwn y Cyngor wedi tynnu £200 miliwn i ffwrdd oddi wrth gwmnïau tanwydd ffosil i gronfa sy'n olrhain y Mynegai Carbon Isel.  Mae cynlluniau ar waith i ddargyfeirio gweddill y symiau o arian yn y gronfa bensiwn erbyn 2025. 

Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i weithio gyda phrifysgolion ac ymchwilwyr ar syniadau newydd i leihau allyriadau C02ymhellach yn y ddinas.

Y prif brojectau sy'n cael eu cyflwyno yn y sector hwn yw:

  • Y Fferm Solar newydd ar hen safle tirlenwi Ffordd Lamby. Bydd y cyfleuster hwn yn cynhyrchu ynni gwyrdd, sy'n cyfateb i'r galw nodweddiadol sydd ei angen i bweru tua 2,900 o gartrefi bob blwyddyn, am y 35 mlynedd nesaf;
  • Cyflwyno cam cyntaf System Gwresogi Ardal newydd Caerdydd a fydd yn defnyddio gwres a gynhyrchir gan Gyfleuster Adfer Ynni Viridor ym Mharc Trident. Bydd y project hwn yn darparu gwres carbon isel i adeiladau ac eiddo mawr ym Mae Caerdydd.  O ran ynni yn unig, bydd yn gwella effeithlonrwydd y cyfleuster gwastraff yn sylweddol ac yn creu gostyngiad o hyd at 80% mewn CO2 mewn adeiladau cwsmeriaid, o'i gymharu â'u systemau gwresogi nwy presennol. 

Trafnidiaeth

Yn ddiweddar, amlinellodd y Cyngor weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yn y ddinas am y 10 mlynedd nesaf. Cyhoeddwyd ei Bapur Gwyn ar Drafnidiaeth ymmis Ionawr. Mae'r strategaeth drafnidiaeth yn nodi projectau i wella trafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â gwelliannau i lwybrau a chyfleusterau i feicwyr a cherddwyr.  Mae rhai o'r projectau hyn bellach yn cael eu dwyn ymlaen fel rhan o Gynllun Adfer COVID-19, gyda dwy feicffordd newydd dros dro wedi'u cynllunio i fod ar waith erbyn diwedd eleni.

 

Y prif brojectau sy'n cael eu cyflwyno yn y sector hwn yw:

 

  • Gwasanaeth tram-trên traws-ddinas sy'n cysylltu Creigiau yng ngorllewin y ddinas â Llaneirwg yn y dwyrain;
  • Llinell dramiau gylchog yng Nghaerdydd a fydd yn cysylltu Radur a Coryton, drwy ymestyn gwasanaeth presennol llinell y ddinas;
  • Cwblhau'r gyfnewidfa drafnidiaeth ar hen safle Tŷ Marland;
  • Datblygu rhwydwaith bysiau traws-ddinas, drwy greu lonydd blaenoriaeth bysiau i gyrchfannau allweddol yn y ddinas;
  • Cyfleusterau Parcio a Theithio newydd wrth Gyffordd 32 a 33 oddi ar yr M4;
  • Symud ymlaen gydag achos busnes dros dâl tagfeydd yn y ddinas;
  • Ailfodelu ffyrdd yng nghanol y ddinas i wella llwybrau ar gyfer bysiau, beicwyr a cherddwyr;
  • Datblygu rhwydwaith feiciau integredig drwy wardiau ar draws ffin y ddinas, a fydd ar y cyfan yn cael ei gwahanu oddi wrth draffig.

 

Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth

Mae Caerdydd yn ffodus bod ganddi barcdir a mannau gwyrdd sylweddol yng nghanol y ddinas. Mae coed Parc Bute yn chwarae rhan amhrisiadwy wrth amsugno carbon deuocsid (C02).  Mae gan y Cyngor nifer o bartneriaethau ar waith i gynyddu'r lle mewn parcdir ar gyfer pryfed peillio; mae'n asesu gorchudd coed yn y ddinas ac yn edrych ar ffyrdd o ehangu gorchudd coed ar dir y cyngor a thir preifat; ac mae'n gweithio ar godi ymwybyddiaeth ymhlith plant ysgol am natur a bioamrywiaeth.

Mae'r project 'Rhoi Cartref i Natur' wedi cysylltu 11,399 o blant â natur drwy raglen allgymorth am ddim, sydd ar gael i holl ysgolion Caerdydd. Sefydlwyd coridorau cynefin gwyrdd ac mae 'arolwg i-goed' ar y gweill i asesu faint o goed sydd yn y ddinas.

Mae mesurau eraill wedi cynnwys gosod 'wal werdd' sy'n amsugno C02y tu allan i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegerville, ac mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno cynlluniau tebyg mewn ysgolion ar draws y ddinas.

Y prif brojectau sy'n cael eu cyflwyno yn y sector hwn yw:

 

  • Gweithio gyda phartneriaid i annog ymarferiad plannu coed mawr yn y ddinas;
  • Ymchwilio i ddichonoldeb fferm goed leol i gyflenwi'r angen hwn;
  • Adeiladu a datblygu rhwydweithiau gwirfoddolwyr amgylcheddol;
  • Darparu gwell cynefinoedd bioamrywiol gwyrdd/glas drwy Systemau Draenio Dinesig Cynaliadwy; (SDDC); a
  • Gweithredu argymhellion yr arolwg 'i-goed' ar orchudd coed yn y ddinas. 

 

Datblygu bwydydd iach rhad

Er y derbynnir na fydd Caerdydd byth yn gallu bod yn hunangynhaliol wrth gynhyrchu bwyd, mae cyfleoedd eglur i gynyddu faint o fwyd yr ydym yn ei dyfu'n lleol. Gall preswylwyr hefyd chwarae eu rhan drwy ddewis bwyd iachach a mwy cynaliadwy i'w fwyta.

Y prif brojectau sy'n cael eu cyflwyno yn y sector hwn i gael eu hystyried yw:

 

  • Bydd uned dyfu hydroponig yn cael ei sefydlu ym Mharc Bute gan ddefnyddio cynhwysydd llongau sy'n gallu tyfu'r hyn sy'n cyfateb i 3.5 erw o fwyd; 
  • Ailwampio Marchnad Caerdydd fel marchnad fwyd gynaliadwy a lleol.
  • Cynyddu cynhyrchiant bwyd lleol drwy sicrhau bod tir sy'n eiddo i'r cyngor ar gael i grwpiau cymunedol dyfu bwyd;
  • Defnyddio'r broses gynllunio i gynllunio ar gyfer lle i dyfu bwyd lleol;
  • Cynyddu cyfleoedd masnachol ar gyfer tyfu bwyd lleol yn y ddinas ar ddatblygiadau tai newydd;
  • Ystyried y posibilrwydd o 'barc bwyd', a fyddai'n dwyn ynghyd eiriolwyr a phartïon â diddordeb dros dyfu bwyd lleol mewn un lleoliad; ac
  • Edrych ar sut y gellir addasu ein prosesau caffael bwyd i ddod â mwy o gymorth ar gyfer sector bwyd cynaliadwy.

 

Rheoli Gwastraff

Er 2001, mae cyfradd ailgylchu a chreu gwrtaith y ddinas wedi cynyddu o 4% i 58%, gyda thargedau Llywodraeth Cymru ar waith i gyrraedd 70% erbyn 2025. Caerdydd yw'r ddinas graidd orau ar gyfer ailgylchu ar hyn o bryd ac mae mesurau ar waith i fwrw targedau heriol Llywodraeth Cymru.

Sefydlwyd partneriaeth gyda phum awdurdod lleol i drin gwastraff na ellir ei ailgylchu'n ymarferol i gynhyrchu ynni gwyrdd ac ailgylchu pellach. 

Mae gwastraff bwyd y ddinas yn cael ei brosesu mewn ffatri Treulio Anaerobig i gynhyrchu ynni gwyrdd a gwrtaith y gellir ei ddefnyddio ar dir amaethyddol.  Mae hyn yn golygu nad yw'r Cyngor yn anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi ar hyn o bryd. 

Y prif brojectau sy'n cael eu cyflwyno yn y sector hwn yw:

 

  • Diwygio ein casgliadau gwastraff wrth ymyl y ffordd drwy gynyddu ansawdd yr ailgylchu a gesglir gan ddefnyddio didoli wrth ymyl y ffordd - yn benodol y ffrwd wydr;
  • Parhau i gyflwyno ymgyrch addysgol y Sticer Pinc, sydd â'r bwriad o leihau halogiad yn y ffrydiau gwastraff ailgylchu a chompostio;
  • Gwella'r gwasanaeth i gwsmeriaid a'r rheolaethau yng nghanolfannau ailgylchu'r ddinas er mwyn adennill cymaint o ailgylchu â phosib;
  • Ystyried dewisiadau i gael canolfan ailgylchu breswyl a masnachol newydd yng ngogledd y ddinas i ymateb i dwf pellach pan fo'i angen;
  • Ystyried modelau newydd i ddelio â gwastraff gardd gwyrdd;
  • Darparu Canolfan Ailddefnyddio newydd drwy weithio gyda'r trydydd sector;
  • Cael gwared ar yr holl blastigau untro o leoliadau'r cyngor, gyda chynlluniau i ddisodli'r bagiau gwyrdd a ddarperir i breswylwyr ar gyfer ailgylchu gyda sachau amldro; a
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni'r strategaeth economi gylchol.

Dŵr

O ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, mae rhewlifau'n crebachu ac mae patrymau tywydd mwy eithafol yn cael eu gweld ledled y byd.  Mae hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd o lifogydd a sychder.  Mae angen rhoi mesurau ar waith i arafu effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan atal y bygythiadau deublyg y mae Caerdydd yn eu hwynebu o fflachlifoedd a lefelau'r môr yn codi.

Mae project Grangetown Werddach, sydd wedi ennill gwobrau, yn defnyddio'r technegau draenio cynaliadwy (SDC) diweddaraf i gronni, glanhau a dargyfeirio dŵr glaw yn uniongyrchol i Afon Taf.  Y project hwn yw'r cyntaf erioed i gael ei ôl-ffitio i gymuned ac mae'n sicrhau bod dros 42,000m2o ddŵr wyneb - sy'n cyfateb i 10 cae pêl-droed - yn cael ei dynnu o'r rhwydwaith dŵr gwastraff.  Mae gan y project hwn hefyd arbedion sylweddol mewn ynni a fyddai fel arall yn cael eu defnyddio i bwmpio'r dŵr i'r gwaith carthion.

Mae project Amddiffyn Rhag Llifogydd Rhiwbeina hefyd wedi'i osod sy'n diogelu 200 o gartrefi a busnesau rhag llifogydd ac mae gwaith wedi'i wneud hefyd yn Waterloo Gardens.

Y prif brojectau sy'n cael eu cyflwyno yn y sector hwn yw: 

 

  • Sicrhau bod pob datblygiad sy'n 100m2neu fwy â system ddraenio gynaliadwy ar waith i reoli dŵr wyneb ar y safle.  Mae hyn yn cynnwys y beicffyrdd newydd;
  • Rhoi amddiffynfeydd rhag llifogydd ar waith wrth geg ac yn aber Afon Rhymni, gan ddiogelu eiddo ac amwynderau yn ogystal â sicrhau bod yr hen safle tirlenwi yn cael ei ddiogelu rhag erydiad;
  • Agor Camlas Gyflenwi'r Dociau yn Ffordd Churchill ac adfer dyfrffordd hanesyddol canol y ddinas.  Bydd hyn yn rheoli dŵr wyneb mewn ffordd fwy cynaliadwy ac yn cynyddu'r cyfle i gael mwy o goed a bioamrywiaeth ochr yn ochr â'r llwybr; a
  • Sicrhau bod gorsafoedd ail-lenwi dŵr yfed ar gael ar draws y ddinas.

 

Mae'r Cyngor yn galw ar y cyhoedd a busnesau i roi adborth ar y strategaeth ddrafft i'w helpu i lunio ei gynlluniau terfynol.  Disgwylir i gyfnod ymgynghori o bum mis ddechrau ar ôl i'r Cabinet drafod yr adroddiad brynhawn dydd Iau, 15 Hydref.

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu manylach hefyd gyda rhanddeiliaid drwy gydol y cyfnod ymgynghori.  Bydd y rhain yn canolbwyntio ar bynciau dethol ac ar gasglu barn amrywiaeth eang o grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc ac ysgolion.
 

Darllenwch y ddogfen Strategaeth Un Blaned a’r adroddiad yn llawn yma