Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 6 Hydref

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; y diweddaraf am achosion sy'n effeithio ar ysgolion; mae actor o Gaerdydd yn hyrwyddo ei rôl newydd fel gweithiwr gofal cartref; hwb i gartrefi'r Cyngor yng ngorllewin y ddinas; a parciau Caerdydd yn cael tractor trydanol dim allyriadau am y tro cyntaf yn y DU.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

5 Hydref

Achosion: 396

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 107.9

Achosion profi: 5,043

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,374.5

Cyfran bositif: 7.9%

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion 29 Medi 2020

Y diweddaraf am ysgolion yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19: Dydd Mawrth 6 Hydref

Ysgol Uwchradd Cathays

Mae dau brawf positif wedi eu cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Cathays yn y 24 awr diwethaf. Mae 150 o ddisgyblion a chwe aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog

Cafwyd prawf positif yn Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog ar gyfer un disgybl Blwyddyn 8. Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 8 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu.

Ysgol Tŷ Gwyn

Mae disgybl Blwyddyn 9 yn Ysgol Tŷ Gwyn wedi profi'n bositif. Mae 3 disgybl wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu.

Ysgol Gynradd Kitchener

Cafwyd prawf positif yn Ysgol Gynradd Kitchener ar gyfer un disgybl yn y Dosbarth Derbyn. Mae 27 o ddisgyblion Derbyn a thri aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Gynradd Lakeside

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Lakeside wedi profi'n bositif.  Mae 60 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a dau aelod arall o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Gynradd Llanedern

Mae un aelod o staff yn Ysgol Gynradd Llanedern wedi profi'n bositif. Mae 29 o ddisgyblion a thri aelod arall o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.  

Ysgol Gynradd Severn

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Severn wedi profi'n bositif. Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 4 ac aelod arall o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen

Mae disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen wedi profi'n bositif.  Mae 60 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a pedwar aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

"Y daith fwyaf gwerth chweil"

Mae actor o Gaerdydd, sy'n fwy cyfarwydd â throedio'r byrddau ac o dan y goleuadau teledu nag â gyrfa ym maes gofal cymdeithasol, yn hyrwyddo ei rôl newydd fel gweithiwr gofal cartref.

Mae Bill Bellamy, un o sefydlwyr Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru a hyfforddodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn y ddinas, wedi disgrifio ei brofiad o fod yn weithiwr gofal yn y ddinas yn ystod argyfwng COVID-19 fel "un o'r teithiau mwyaf gwerth chweil a fues i arni ers blynyddoedd lawer."

Yn ôl yn y gwanwyn, ymatebodd Bill i un o apeliadau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor i recriwtio mwy o weithwyr gofal i'r rôl, ar adeg pan oedd y sector yn wynebu rhai o'i heriau mwyaf erioed i ofalu am bobl oedrannus a bregus yn ein dinas, ac amddiffyn pobl oedrannus ac agored i niwed yn ein dinas yn ogystal â chadw staff yn ddiogel.

Ar ôl cofrestru gyda Caerdydd ar Waith, asiantaeth recriwtio mewnol y Cyngor ei hun, cefnogwyd Bill drwy'r gwahanol gyrsiau a chymwysterau yr oedd eu hangen arno i fod yn weithiwr gofal gan wasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned y Cyngor, sydd hefyd yn cynnig hyfforddiant i mewn i waith i gefnogi pobl i gael gwaith.

Mae Bill bellach yn gweithio fel gweithiwr gofal yn y gymuned, yn darparu gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain.

Dywedodd: "Wrth i bandemig y Covid-19 ein taro, trodd meddyliau, ac yn sicr fy meddwl i, at ystyried beth y gallwn ei wneud i helpu fy ninas yn ei chyfnod o angen. Diflannodd y diwydiant y bues i'n gweithio ynddo ers dros ddeng mlynedd ar hugain yn llwyr heb fawr o obaith y byddai'n dechrau eto'n fuan, felly bues yn ffodus fod y Cyngor wedi galw am gymorth ar yr union adeg iawn.

"Ychydig ddyddiau ar ôl i mi ateb yr alwad ar Twitter, dechreuodd corwynt o wythnosau lle, ynghyd â dwsin o wirfoddolwyr eraill, ces fy hyfforddi, a'r Cyngor yn talu."

Mae gweithlu'r Cyngor, ynghyd â'r darparwyr gofal cymdeithasol a gomisiynwyd ganddo, wedi rhoi dros 600,000 awr o ofal cartref yn ddiogel i oedolion a phlant ers dechrau'r pandemig, ac wedi parhau i gefnogi oedolion a phlant mewn cartrefi gofal a llety byw â chymorth yn ystod y cyfnod heriol hwn. Cafodd dros 150 o staff y Cyngor eu hadleoli o'u rolau arferol i gefnogi gwasanaethau rheng flaen ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:  "Mae gweithwyr gofal Caerdydd wedi gwneud gwaith anhygoel i gefnogi pobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed.  Mae eu hymateb i'r cyfnod eithriadol hwn wedi bod yn rhyfeddol ac mae'r ddinas yn hynod ddiolchgar am eu gwaith yn cadw ein hanwyliaid yn ddiogel.

"Mae stori Bill yn ysbrydoledig. Mae'n enghraifft wych o addasu mewn amgylchiadau anodd ac mae'n wych clywed pa mor werthfawr yw ei rôl newydd ganddo. Gobeithiwn y bydd y cipolwg gwerthfawr a gonest y mae'n ei roi yn ysbrydoli eraill i ystyried rôl yn y sector gofal yng Nghaerdydd."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24890.html

 

Hwb i gartrefi'r Cyngor yng ngorllewin y ddinas

Mae'r gwaith o adeiladu 16 o gartrefi newydd i gynyddu cyflenwad y ddinas o dai fforddiadwy ar fin dechrau.

Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi Encon Construction i ddatblygu safle hen ganolfan cadetiaid ATC ar Caldicot Road yng Nghaerau. Bydd y safle'n cynnwys chwe fflat un ystafell wely, saith tŷ dwy ystafell wely, dau dŷ tair ystafell wely ac un tŷ pedair ystafell wely.

Mae'r cynllun yn rhan o raglen datblygu tai'r Cyngor, sydd â'r nod o adeiladu mwy na 1,000 o gartrefi cyngor newydd yn y ddinas erbyn 2022, a chyfanswm o 2,000 o gartrefi newydd yn y blynyddoedd i ddod. Bydd pob un o'r 16 cartref ar gael i'w rhentu oddi wrth y Cyngor.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:"Bydd Caldicot Road yn darparu cymysgedd da o gartrefi cyngor newydd gan helpu i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da yn y ddinas.

"Bydd y tai'n cael eu hadeiladu i safonau uchel o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni mewn ardal lle mae angen mwy o dai cymdeithasol arnom. Mae tua 7,700 o bobl ar y rhestr aros am dai ar hyn o bryd, gyda llawer yn aros am gartrefi teuluol mwy, felly mae'n dda cael amrywiaeth o eiddo sy'n bodloni anghenion ein cymunedau."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24896.html

 

Parciau Caerdydd yn cael tractor trydanol dim allyriadau am y tro cyntaf yn y DU.

Bydd Cyngor Caerdydd yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf yn y DU i brynu tractor trydanol, yn dilyn treial llwyddiannus yng Ngwarchodfa Natur Fferm y Fforest.

Bydd tractor trydanol 25G Farmtrac, sy'n gwefru drwy blwg 3 phin safonol, yn dod yn lle'r tractor disel sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gynnal a chadw dolydd. Mae disgwyl i'r tractor newydd haneru'r allyriadau sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn ar hyn o bryd.

Mae'r Cyngor eisoes wedi lleihau allyriadau o'i ôl troed carbon uniongyrchol gan 33.5% ers 2015-2018.

Bydd yr offer newydd, ysgafnach a llai o faint hefyd yn caniatáu i'r tîm gynyddu'r broses o gasglu hadau tarddiad lleol o laswelltiroedd sydd â gwerth bioamrywiaeth uchel. Yna gellir defnyddio'r hadau hyn i adfer ardaloedd o ansawdd is fel rhan o broject pryfed peillio parhaus y ddinas.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Bradbury: "Bydd ein strategaeth 'Un Blaned' arfaethedig yn nodi'n fanwl ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd, ond yn y cyfamser mae gwaith i barhau i leihau ein hallyriadau carbon yn mynd rhagddo ym mhob rhan o'r Cyngor. Mae cyflwyno'r dechnoleg newydd hon i'n gwasanaeth parciau yn gam arall ar y ffordd bwysig honno."

Darperir trydan y Cyngor ar dariff ynni adnewyddadwy o 100%.