Bydd tractor trydanol 25G Farmtrac, sy'n gwefru drwy blwg 3 phin safonol, yn dod yn lle’r tractor disel sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gynnal a chadw dolydd. Mae disgwyl i’r tractor newydd haneru’r allyriadau sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn ar hyn o bryd.
Mae'r Cyngor eisoes wedi lleihau allyriadau o'i ôl troed carbon uniongyrchol gan 33.5% ers 2015-2018.
Bydd yr offer newydd, ysgafnach a llai o faint hefyd yn caniatáu i'r tîm gynyddu'r broses o gasglu hadau tarddiad lleol o laswelltiroedd sydd â gwerth bioamrywiaeth uchel. Yna gellir defnyddio'r hadau hyn i adfer ardaloedd o ansawdd is fel rhan o broject pryfed peillio parhaus y ddinas.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Bradbury: "Bydd ein strategaeth 'Un Blaned' arfaethedig yn nodi'n fanwl ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd, ond yn y cyfamser mae gwaith i barhau i leihau ein hallyriadau carbon yn mynd rhagddo ym mhob rhan o’r Cyngor. Mae cyflwyno'r dechnoleg newydd hon i'n gwasanaeth parciau yn gam arall ar y ffordd bwysig honno."
Darperir trydan y Cyngor ar dariff ynni
adnewyddadwy o 100%.