Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 2 Hydref

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: achosion a phrofion Caerdydd; diweddariad ar ysgolion a effeithiwyd gan COVID-19; 660 o feiciau eisoes wedi'u dosbarthu fel rhan o gynllun Fflyd Beiciau Ysgolion Caerdydd; Gwefan newydd Caerdydd sy'n Deall Demensia; Galw ar bob cwmni bysiau sy'n gweithredu yng Nghaerdydd; a mae'r Bwrdd Cerddoriaeth yn rhybuddio am 'ganlyniadau difrifol' i ddyfodol cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd yn sgil COVID-19.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel

Dilynwch y canllawiau:

www.caerdydd.gov.uk/Cyfnodclo

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

1 Hydref

Achosion: 351

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 95.7

Achosion profi: 5,227

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,424.6

Cyfran bositif: 6.7%

 

Diweddariad ar ysgolion a effeithiwyd gan COVID-19: Dydd Gwener 2 Hydref

Ysgol Coed y Gof

Mae achos positif o COVID-19 wedi ei gadarnhau yn Ysgol Coed y Gof. Mae 29 disgybl ym Mlwyddyn 4 a 2 aelod o staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu

Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant

Mae achos positif o COVID-19 wedi ei gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant. Mae 202 o ddisgyblion Blwyddyn 8 wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos â'r achos o COVID-19 sydd wedi ei gadarnhau. Does dim gofyn i unrhyw aelod o staff hunanynysu oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith yn yr ysgol.

Ysgol Uwchradd Cathays

Mae tri achos positif o COVID-19 wedi eu cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Cathays. Mae 150 o ddisgyblion Blwyddyn 11 a dau aelod o staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod am eu bod un ai yn achos a gadarnhawyd neu eu bod wedi eu nodi fel cyswllt agos ag achos sydd wedi ei gadarnhau.

 

660 o feiciau eisoes wedi'u dosbarthu fel rhan o gynllun Fflyd Beiciau Ysgolion Caerdydd

Bydd cynllun i annog plant a phobl ifanc i feicio a hyrwyddo Teithio Llesol yn arwain at 660 o feiciau'n cael eu danfon i ysgolion ledled y ddinas erbyn diwedd y mis.

Mae cynllun Fflyd Beiciau'r Ysgol yn rhoi fflyd o feiciau i ysgolion i ddisgyblion eu defnyddio yn yr ysgol ar gyfer hyfforddiant beicio.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r cynllun yn broject partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Beicio Cymru a British Cycling.

Dywedoddyr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Nod y Cynllun Beiciau Ysgol fydd cynyddu nifer y plant sy'n beicio drwy ei ymgorffori yng nghwricwlwm yr ysgol.

"Mae gallu beicio'n ddiogel ac yn hyderus yn sgil bywyd ac mae'n hyrwyddo teithio llesol ymhlith plant a phobl ifanc. Bydd y newid ymddygiad hwn yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau a'u dyfodol, gan gynnwys gwella lles corfforol ac emosiynol yn ogystal â lleihau allyriadau er mwyn creu amgylchedd gwyrddach i fyw ynddo.

"Mae hwn yn un o nifer o brojectau i helpu'r ddinas i drawsnewid ei system trafnidiaeth gyhoeddus, hyrwyddo mwy o fathau o Deithio Llesol ac, yn bwysig, ymateb i'r argyfwng hinsawdd fel y nodir yn Uchelgais Cyfalaf Caerdydd."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r project hwn yn cynnig llu o fanteision cadarnhaol i blant a phobl ifanc yma yng Nghaerdydd gan gynnwys y cyfle i feicio - efallai am y tro cyntaf - yn ogystal â'r cymorth a'r hyfforddiant sydd eu hangen i helpu plant i ddatblygu sgil newydd a fydd ganddynt wedyn pan fyddant yn oedolion.

"Rydyn ni'n gwybod pwysigrwydd gweithgarwch corfforol a'r cyfraniadau mae'n eu gwneud i hybu iechyd meddwl a chorfforol cadarnhaol. Drwy roi cyfleoedd fel hyn i blant a phobl ifanc, mae'n cefnogi ymhellach uchelgais Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF, gan helpu i wneud Caerdydd yn ddinas wych i dyfu'n hŷn ynddi."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24869.html

 

Gwefan newydd Caerdydd sy'n Deall Demensia


Mae gwefan newydd i roi gwybodaeth a chyngor i bobl â dementia a'u teuluoedd yng Nghaerdydd wedi'i lansio heddiw.

Bydd gwefan Caerdydd sy'n Deall Demensia yn 'siop un stop' o wybodaeth werthfawr am wasanaethau a chymorth yn y ddinas i helpu pobl sy'n byw gyda demensia i fyw'n dda yn y brifddinas.

Mae Caerdydd sy'n Deall Demensia yn bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Alzheimer Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gweithio at wneud Caerdydd yn gymuned sy'n deall demensia yn well.

Wedi'i datblygu mewn ymgynghoriad â phartneriaid, busnesau a'r rhai sy'n byw gyda demensia a'u teuluoedd, mae'r wefan hygyrch yn rhoi gwybodaeth leol am y cymorth sydd ar gael yn y ddinas gan sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer Cymru, y Clinig Cof, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gofalwyr Cymru yn ogystal â gwasanaethau fel Gwasanaethau Byw'n Annibynnol y cyngor, Pryd ar Glud a Theleofal.

Bydd y wefan hefyd yn cynnwys manylion digwyddiadau sy'n ystyriol o ddemensia, ar lwyfannau digidol i ddechrau ar hyn o bryd, ond digwyddiadau corfforol yn ddiweddarach pan fo'n briodol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae Caerdydd wedi bod ar daith dros y blynyddoedd diwethaf yn edrych ar sut y gallwn gynnig gwasanaethau sy'n ystyriol o ddemensia, sut y gall ein hadeiladau fod yn fwy hygyrch i bobl sy'n byw gyda demensia, a sut y gallwn annog partneriaid a busnesau lleol i wneud y newidiadau bach a all wneud gwahaniaeth mawr i rywun sy'n byw gyda demensia.

"Disgwylir y bydd 7,000 o bobl yng Nghaerdydd yn byw gyda demensia erbyn 2025 ac mae'n hanfodol bod y ddinas yn paratoi i'w cefnogi nhw a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Yr ydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r gwaith hwn, sy'n rhan allweddol o'n Uchelgais Prifddinas ar gyfer y ddinas."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24863.html

 

Galw ar bob cwmni bysiau sy'n gweithredu yng Nghaerdydd

Gwahoddir gweithredwyr bysiau yng Nghaerdydd i wneud cais am gyllid i ôl-ffitio bysiau hŷn yn eu fflydoedd gyda thechnoleg gymeradwy sydd wedi'i chynllunio i leihau allyriadau niweidiol ac i leihau llygredd aer yn y ddinas.

Byddai hyd at 80% o gost unrhyw waith yn dod o dan y cynllun newydd sy'n cael ei redeg gan Gyngor Caerdydd fel rhan o'n Cynllun Awyr Glân a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Nod y cynllun arfaethedig yw gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd ac mae'n dilyn her gyfreithiol a wnaed gan Client Earth i Lywodraeth Cymru. Mae'r her yn gorfodi'r Cyngor yn gyfreithiol i gymryd camau i leihau lefelau llygredd i derfyn cyfreithiol yn yr amser byrraf posibl ar Stryd y Castell, a oedd yn torri terfynau cyfreithiol yr UE ar gyfer lefelau NO2 cyn y caewyd y stryd dros dro i gefnogi busnesau lletygarwch yn ystod pandemig COVID.

Mae £21m wedi ei ddyfarnu i'r Cyngor er mwyn cyflwyno amrywiaeth o fesurau i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cynnwys ailfodelu ffyrdd yng nghanol y ddinas i wella cyfleusterau i feicwyr a cherddwyr, cyflwyno bysiau trydan yng Nghaerdydd, y cynllun ôl-ffitio bysiau, a gwaith parhaus gyda'r fasnach dacsi i weld pa fesurau y gellid eu cyflwyno i leihau allyriadau o'u cerbydau.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24866.html

 

Mae'r Bwrdd Cerddoriaeth yn rhybuddio am 'ganlyniadau difrifol' i ddyfodol cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd yn sgil Covid

Mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd wedi cyhoeddi rhybudd o 'ganlyniadau difrifol' i ddyfodol cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd os na cheir arian ychwanegol gan y Llywodraeth ganolog.

Mae'r Bwrdd Cerddoriaeth, a sefydlwyd mewn partneriaeth â Sound Diplomacy, arweinwyr byd-eang y mudiad dinas gerddoriaeth, yn sgil ymgyrch Achub Stryd Womanby, yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector cerddoriaeth.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Er ein bod yn gwerthfawrogi'r cymorth mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i roi, mae graddfa'r heriau sy'n wynebu'r sector cerddoriaeth fyw yn enfawr. Mae lleoliadau'n barod i chwarae eu rhan i atal lledaeniad Covid-19 ond gyda digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn dal wedi eu gwahardd yng Nghymru, a chyda rheolau newydd sy'n cyfyngu ar oriau agor, a chynllun ffyrlo llywodraeth y DU yn dirwyn i ben, mae perygl gwirioneddol y gallai rhai lleoliadau cerddoriaeth fyw, a'r swyddi y maent yn eu cefnogi ddiflannu, gyda chanlyniadau difrifol i economi'r ddinas, cyfleoedd i dalent, a dyfodol cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24855.html