Back
Galw ar bob cwmni bysiau sy'n gweithredu yng Nghaerdydd


02/10/20

Gwahoddir gweithredwyr bysiau yng Nghaerdydd i wneud cais am gyllid i ôl-ffitio bysiau hŷn yn eu fflydoedd gyda thechnoleg gymeradwy sydd wedi'i chynllunio i leihau allyriadau niweidiol ac i leihau llygredd aer yn y ddinas.
 

Byddai hyd at 80% o gost unrhyw waith yn dod o dan y cynllun newydd sy'n cael ei redeg gan Gyngor Caerdydd fel rhan o'n Cynllun Awyr Glân a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
 

Nod y cynllun arfaethedig yw gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd ac mae'n dilyn her gyfreithiol a wnaed gan Client Earth i Lywodraeth Cymru. Mae'r her yn gorfodi'r Cyngor yn gyfreithiol i gymryd camau i leihau lefelau llygredd i derfyn cyfreithiol yn yr amser byrraf posibl ar Stryd y Castell, a oedd yn torri terfynau cyfreithiol yr UE ar gyfer lefelau NO2 cyn y caewyd y stryd dros dro i gefnogi busnesau lletygarwch yn ystod pandemig COVID.
 

Mae £21m wedi ei ddyfarnu i'r Cyngor er mwyn cyflwyno amrywiaeth o fesurau i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cynnwys ailfodelu ffyrdd yng nghanol y ddinas i wella cyfleusterau i feicwyr a cherddwyr, cyflwyno bysiau trydan yng Nghaerdydd, y cynllun ôl-ffitio bysiau, a gwaith parhaus gyda'r fasnach dacsi i weld pa fesurau y gellid eu cyflwyno i leihau allyriadau o'u cerbydau.  


Gyda Stryd y Castell ar gau dros dro, er mwyn caniatáu mwy o le i'r sector lletygarwch fasnachu yn ystod yr adferiad COVID sy’n mynd rhagddo, mae ansawdd yr aer wedi gwella'n sylweddol yng nghanol y ddinas. Mae hyn yn newyddion da ac yn tynnu sylw, yn gwbl amlwg, at y cyfraniad enfawr y mae traffig cerbydau yn ei wneud i ansawdd aer gwael yn y ddinas.  Ond mae angen i ni edrych yn awr ar yr holl fesurau a all sicrhau nad yw'r tir a enillwyd yn cael ei golli.
 

Yn wreiddiol, gobaith y Cyngor oedd y byddai'n gallu darparu 100% o'r cyllid i weithredwyr bysiau ôl-ffitio eu bysiau, ond oherwydd deddfwriaeth yr UE ynghylch Cymorth Gwladwriaethol, bydd yn rhaid i weithredwyr bysiau ddarparu 20% tuag at y gost.

Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn fwy fforddiadwy, mae'r Cyngor wedi rhoi trefniadau ar waith i sicrhau y bydd gweithredwyr bysiau yn cael 80% o'r cyllid ymlaen llaw, ar ôl i'r Cyngor dderbyn a chadarnhau'r anfoneb ar gyfer y gwaith.
 

Mae'r broses dau gam er mwyn i weithredwyr bysiau wneud cais am arian ar gael o 2 Hydref

 tan 31 Rhagfyr drwy wefan y Cyngor. Yna caiff y ceisiadau eu hasesu, gyda'r cyllid ar gael tan 31 Mawrth 2021.
 

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar y broses ymgeisio, gall gweithredwyr bysiau e-bostio ProsiectAerGlan@caerdydd.gov.uk