Back
Gwefan newydd Caerdydd sy’n Deall Demensia

 

1/10/20
Mae gwefan newydd i roi gwybodaeth a chyngor i bobl â dementia a'u teuluoedd yng Nghaerdydd wedi'i lansio heddiw.

 

Bydd gwefan Caerdydd sy'n Deall Demensia yn 'siop un stop' o wybodaeth werthfawr am wasanaethau a chymorth yn y ddinas i helpu pobl sy'n byw gyda demensia i fyw'n dda yn y brifddinas.

 

Mae Caerdydd sy'n Deall Demensia yn bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Alzheimer Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gweithio at wneud Caerdydd yn gymuned sy'n deall demensia yn well.

 

Wedi'i datblygu mewn ymgynghoriad â phartneriaid, busnesau a'r rhai sy'n byw gyda demensia a'u teuluoedd, mae'r wefan hygyrch yn rhoi gwybodaeth leol am y cymorth sydd ar gael yn y ddinas gan sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer Cymru, y Clinig Cof, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gofalwyr Cymru yn ogystal â gwasanaethau fel Gwasanaethau Byw'n Annibynnol y cyngor, Pryd ar Glud a Theleofal.

 

Bydd y wefan hefyd yn cynnwys manylion digwyddiadau sy'n ystyriol o ddemensia, ar lwyfannau digidol i ddechrau ar hyn o bryd, ond digwyddiadau corfforol yn ddiweddarach pan fo'n briodol.

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:  "Mae Caerdydd wedi bod ar daith dros y blynyddoedd diwethaf yn edrych ar sut y gallwn gynnig gwasanaethau sy'n ystyriol o ddemensia, sut y gall ein hadeiladau fod yn fwy hygyrch i bobl sy'n byw gyda demensia, a sut y gallwn annog partneriaid a busnesau lleol i wneud y newidiadau bach a all wneud gwahaniaeth mawr i rywun sy'n byw gyda demensia.

 

"Disgwylir y bydd 7,000 o bobl yng Nghaerdydd yn byw gyda demensia erbyn 2025 ac mae'n hanfodol bod y ddinas yn paratoi i'w cefnogi nhw a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Yr ydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r gwaith hwn, sy'n rhan allweddol o'n Uchelgais Prifddinas ar gyfer y ddinas.

 

"Gwefan Caerdydd sy'n Deall Demensia yw ein ffenestr siop newydd ar gyfer yr holl fentrau, sefydliadau a gwasanaethau a all gefnogi pobl a'u teuluoedd i gael y gorau o fywyd ar ôl diagnosis. Gobeithiwn y bydd pawb sy'n mynd i'r wefan yn cael budd ohoni.

 

"Ar adeg pan rydym yn wynebu ansicrwydd parhaus oherwydd y pandemig, pan fydd llawer o bobl yn teimlo'n ynysig ac yn bryderus am adael y cartref, bydd y wefan hon yn ffynhonnell wybodaeth amhrisiadwy i gysylltu a rhoi gwybodaeth i bobl am ddarpariaethau sy'n ystyriol o ddemensia."

 

 

I nodi lansiad y wefan heddiw, bydd Neuadd y Ddinas Caerdydd yn cael ei goleuo mewn goleuadau glas a melyn - lliwiau logo Cymdeithas Alzheimer Cymru, logo Forget-me-me-not.

 

Dywedodd Dr Suzanne Wood, Ymgynghorydd Meddygol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda demensia a'u gofalwyr yn gallu teimlo'n aelodau gwerthfawr o'n cymunedau.

"Mae partneriaeth Deall Demensia Caerdydd yn cymryd camau gwirioneddol tuag at adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol a bydd y wefan newydd yn adnodd gwych i bobl sy'n byw gyda demensia a'u gofalwyr.

 

"Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni roi cyfleoedd i aelodau ein cymuned ymgysylltu ag eraill i leihau unigedd cymdeithasol a gwella lles meddyliol. Bydd gwefan Caerdydd sy'n Deall Demensia yn dwyn ynghyd ystod eang o wybodaeth wedi'i theilwra a fydd yn helpu pobl sy'n byw gyda demensia a'u gofalwyr i gadw mewn cysylltiad, mwynhau hobïau, ac adeiladu perthynas."

 

Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad Cymdeithas Alzheimer Cymru:"Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae o ran sicrhau bod pobl yr effeithir arnynt gan ddemensia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu cyfrannu at eu cymuned. Mae ein partneriaeth barhaus â Chyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i wneud Caerdydd yn fwy ystyriol o ddemensia yn ganolog i hyn. Rydym yn croesawu'r wefan newydd sy'n cynnig cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau i helpu pobl yng Nghaerdydd i fyw'n dda gyda demensia, gan gynnwys gwasanaeth Cyswllt Demensia newydd Cymdeithas Alzheimer Cymru."

 

 

Ewch I'r wefan newydd ynhttps://caerdydddealldementia.co.uk/