Mae'r Bwrdd Cerddoriaeth, a sefydlwyd mewn partneriaeth â Sound Diplomacy, arweinwyr byd-eang y mudiad dinas gerddoriaeth, yn sgil ymgyrch Achub Stryd Womanby, yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector cerddoriaeth.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Er ein bod yn gwerthfawrogi’r cymorth mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i roi, mae graddfa’r heriau sy'n wynebu'r sector cerddoriaeth fyw yn enfawr. Mae lleoliadau'n barod i chwarae eu rhan i atal lledaeniad Covid-19 ond gyda digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn dal wedi eu gwahardd yng Nghymru, a chyda rheolau newydd sy'n cyfyngu ar oriau agor, a chynllun ffyrlo llywodraeth y DU yn dirwyn i ben, mae perygl gwirioneddol y gallai rhai lleoliadau cerddoriaeth fyw, a'r swyddi y maent yn eu cefnogi ddiflannu, gyda chanlyniadau difrifol i economi'r ddinas, cyfleoedd i dalent, a dyfodol cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd."
"Mae'n bwysig iawn pwysleisio nad yw hyn yn ymwneud â diwylliant neu adloniant yn unig – wrth gwrs mae hynny'n bwysig ynddo'i hun, ond mae hyn yn mynd hyd yn oed yn ehangach na hynny - cyn y cyfnod cloi, roedd cerddoriaeth fyw yn gyfrifol am 70% o swyddi’r sector cerddoriaeth yng Nghaerdydd a £45.6 miliwn o'r incwm. Rydyn ni’n sôn am swyddi go iawn, pobl go iawn ac effaith economaidd go iawn."
"Heddiw, gan fod Neuadd y Ddinas Caerdydd wedi'i goleuo'n goch mewn undod â'r diwydiant digwyddiadau byw, mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu'r cymorth ariannol hanfodol sydd ei angen ar y sector cerddoriaeth fyw i oroesi."
Dywedodd Aelod o'r Bwrdd Cerddoriaeth, ac Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Gyda chynlluniau cyffrous ar gyfer datblygu digwyddiad cerddoriaeth unigryw i Gaerdydd, a gwaith yn cael ei wneud mewn ystod eang o feysydd, o reoliadau sy'n ystyriol o gerddoriaeth i ddatblygu talent a phrojectau seilwaith, mae cynnydd tuag at ein nod hirdymor o integreiddio cerddoriaeth ym mhob agwedd ar strwythur y ddinas wedi’i wneud. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau, ond heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, mae lleoliadau cerddoriaeth y ddinas a'r miloedd o bobl yng Nghaerdydd y mae eu bywoliaeth yn dibynnu arnynt yn dioddef. Os ydym am i gerddoriaeth fod yn rhan o'n dyfodol, mae angen cymorth pellach ar frys erbyn hyn."
Mae gan Guto Brychan, sy’n aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, ac yn Brif Weithredwr lleoliad eiconig Clwb Ifor Bach yn Womanby Street, brofiad uniongyrchol o'r effaith y mae cyfyngiadau Covid-19 yn ei chael ar y diwydiant cerddoriaeth fyw. Dywedodd: "Dydyn ni ddim wedi gallu masnachu ers dechrau’r cyfnod cloi. Nid yw cerddoriaeth fyw a digwyddiadau clwb nos - ein gweithgareddau craidd - yn cael eu caniatáu ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw arwydd pryd y gallent ailddechrau.
"Fe geision ni agor fel tafarn ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio ond roedd gosod y cyrffyw o 10pm ar y diwydiant lletygarwch yn ei gwneud hi'n amhosibl i ni barhau heb golli mwy o arian."
"Roedd ein diwydiant ni'n ddiwydiant hyfyw cyn y cyfnod cloi, un a oedd yn cyfrannu’n sylweddol i economi'r DU. Ac mi fydd hi eto pan fydd yr argyfwng hwn ar ben - dim ond cefnogaeth ddigonol sydd ei hangen arnom i oroesi yn y cyfamser.
"Hebddi, mae perygl o niwed na ellir mo’i adfer i'n tirwedd ddiwylliannol; bydd degau o filoedd o swyddi'n cael eu colli, bydd artistiaid a pherfformwyr yn gadael y diwydiant a byddwn yn colli'r lleoliadau a gwyliau sydd wedi cynnal ein digwyddiadau ers cenedlaethau."
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Os cynigir mwy o gymorth drwy'r cyfnod anodd hwn, credwn y gall y sector cerddoriaeth fyw barhau i dyfu a ffynnu yng Nghaerdydd. Dyna'r hyn rydym am ei weld – dyna beth mae'r Bwrdd Cerddoriaeth yn ei gyfanrwydd am ei weld ac rwy'n gobeithio bod lleisiau'r diwydiant, yr ydym ni ar y Bwrdd Cerddoriaeth yn eu clywed yn uchel ac yn glir, hefyd yn cael eu clywed mewn mannau eraill."
Dan Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, bu modd eisoes i leoliadau cerddoriaeth; stiwdios recordio ac ymarfer; sefydliadau treftadaeth ac atyniadau hanesyddol; amgueddfeydd achrededig a gwasanaethau archifau; llyfrgelloedd; digwyddiadau a'u cyflenwyr cymorth technegol; sinemâu annibynnol a'r sector cyhoeddi wneud cais am gyfran o gronfa £18.5 miliwn. Yn ogystal â hyn, bydd modd i weithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru wneud cais am gyfran o gronfa werth £7m fydd yn agor ddydd Llun.
Dyrannodd Llywodraeth Cymru
dros £400,000 o arian i 22 busnes cerddoriaeth ar lawr gwlad drwy Gymru. Mae
rhagor o fanylion ar gael yma: https://llyw.cymru/cefnogaeth-i-leoliadau-lleol-cerddoriaeth-yng-nghymru