Datganiad gan Gyngor Caerdydd ar gau Hak’s Fish Bar & Kebabs ar Caroline Street ar unwaith oherwydd diffyg mesurau pellhau cymdeithasol.
Dwedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:"Yn dilyn ymweliad gan swyddogion trwyddedu nos Wener, caewyd Bar Pysgod a Kebabs Hak ar Stryd Caroline Street ar unwaith am bum niwrnod er mwyn rhoi digon o amser i'r rheolwyr adolygu eu hasesiadau risg a dangos eu bod wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau y gellir cadw pellter cymdeithasol priodol.
"Mae swyddogion wedi cynnig cyngor a chymorth ac mae ganddynt yr awdurdod i ganiatáu i'r busnes agor yn gynharach yr wythnos nesaf os ydynt yn fodlon bod y risgiau a nodwyd wedi'u rheoli."