Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 25 Medi

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Caerdydd yn cyflwyno mesurau cloi rhagofalus i atal cynnydd yn nifer yr achosion o Covid; Diweddariad ar Achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; a mwy o fynediad at gymorth digidol.

 

Caerdydd yn cyflwyno mesurau cloi rhagofalus i atal cynnydd yn nifer yr achosion o Covid

Bydd prifddinas Cymru yw cyflwyno mesurau cloi i atal y cynnydd diweddar yn yr achosion o COVID-19.

O 6pm yfory, (Dydd Sul, 27 Medi), bydd yn RHAIDi drigolion ac ymwelwyr yng Nghaerdydd lynu wrth y cyfyngiadau canlynol:

  • Ni chaniateir i bobl groesi i mewn i na gadael ffin Cyngor Sir Caerdydd heb esgus rhesymol;
  • Ni fydd pobl yn cael ffurfio, na bod yn rhan mwyach o aelwyd estynedig (a elwir weithiau yn "swigen"). Mae hyn yn golygu na chaniateir cyfarfod dan do gydag unrhyw un nad yw'n rhan o'ch aelwyd (sef y bobl rydych chi'n byw gyda nhw), oni bai fod gennych reswm da, fel darparu gofal i berson sy'n agored i niwed;
  • Rhaid i bobl weithio gartref lle bynnag y bo hynny'n bosibl

Bydd swyddogion yr heddlu ac Iechyd yr Amgylchedd yn cymryd camau gorfodi os na chydymffurfir â'r mesurau.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Nid ydym yn cymryd y camau hyn ar chwarae bach. Mae'r Cyngor wedi bod yn monitro'r cyfraddau heintio yng Nghaerdydd yn ofalus drwy gydol yr argyfwng hwn, ochr yn ochr ag arbenigwyr iechyd a Llywodraeth Cymru, ac rydym eisoes wedi cymryd camau yn gynharach yr wythnos hon i gyfyngu ar ymweliadau ag Ysbytai a Chartrefi Gofal. Fodd bynnag, mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, mae'r ddau ohonom yn teimlo ei bod bellach yn ddoeth cyflwyno cyfyngiadau cryfach. Drwy gyflwyno'r mesurau rhagofalus hyn yn y cyfnod cynnar hwn, ein nod yw atal lledaeniad cyflymach y feirws, a gobeithio lleihau hyd y cyfnod clo.

"Wrth gymryd y camau hyn rydym wedi gorfod pwyso a mesur y difrod economaidd, y gost gymdeithasol, yr effaith ar iechyd meddwl. Ond rydym wedi gweld yn y gorffennol beth all ddigwydd os oes oedi cyn cyflwyno mesurau. Gallai oedi am ychydig ddyddiau olygu y gellid colli llawer mwy o fywydau. 

"Bydd cwtogi ar aelwydydd sy'n cyfarfod dan do a chyfyngu ar deithio yn cael effaith ar ein bywydau i gyd, ond mae'n bwysig bod pobl yn deall bod y penderfyniadau hyn yn cael eu llywio gan Wasanaeth Profi, Olrhain ac Amddiffyn hynod effeithiol sydd wedi bod yn hanfodol i'n helpu i ddeall yr ymchwydd diweddar rydym wedi ei weld yng Nghaerdydd."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24812.html

 

Diweddariad ar Achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion

Ysgol Uwchradd y Dwyrain

Mae prawf COVID-19 positif wedi ei gadarnhau yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Wrth i'r ysgol gynnal ymchwiliadau i'r cysylltiadau penodol, gofynnwyd i'r holl ddisgyblion ym Mlwyddyn 10 aros gartref.

Mae 54 o ddisgyblion bellach wedi eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd ac wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod. Bydd gweddill y disgyblion yn aros gartref fory (Dydd Gwener 25 Medi).

Mae mesurau Cadw Pellter Cymdeithasol ar waith yn yr ysgol yn golygu na fydd gofyn i unrhyw aelod o staff hunanynysu.

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Mae prawf COVID-19 positif wedi ei gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Mae 175 o ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw staff hunanynysu oherwydd y protocolau cadw pellter cymdeithasol sydd yn cael eu dilyn.

Ysgol Gynradd Severn

Cadarnhawyd achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gynradd Severn. Mae 56 o ddisgyblion dosbarth derbyn ac 8 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Mwy o fynediad at gymorth digidol

Mae clybiau swyddi wyneb yn wyneb a mynediad i gyfrifiaduron cyhoeddus mewn canolfannau cymunedol ledled y ddinas yn cael eu hail-gyflwyno i gefnogi pobl i mewn i waith.

Wrth i effaith y pandemig ar y farchnad swyddi barhau i gael ei theimlo, mae'r Cyngor yn addasu gwasanaethau i ateb y galw ac yn sicrhau y gall pobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt ar faterion cyflogaeth a hawliadau budd-dal.

Symudodd Gwasanaeth I Mewn i Waith y Cyngor rai o'i sesiynau cymorth i fod ar-lein yn ystod y cyfnod cloi er mwyn parhau i gynorthwyo preswylwyr i chwilio am help. Erbyn hyn mae clybiau swyddi wyneb yn wyneb yn cael eu hailgyflwyno o'r wythnos hon mewn canolfannau ledled y ddinas, gan ddechrau gyda Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hyb Grangetown, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelái a Chaerau. Bydd y cymorth wedyn yn ehangu i bob canolfan dros yr wythnosau nesaf ar sail wedi'i hamserlennu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae I mewn i Waith Caerdydd wedi cefnogi pobl drwy'r pandemig gyda sesiynau rhithwir ac apwyntiadau mewn hybiau pan na fu'n bosibl helpu dros y ffôn neu ar lwyfan digidol.

"Er mwyn ateb y galw sydd bellach yn dod i'r amlwg, bydd clybiau swyddi wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal mewn hybiau yn y ddinas, ar sail apwyntiad yn unig."

Read more here:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24809.html