Back
Caerdydd yn cyflwyno mesurau cloi rhagofalus i atal cynnydd yn nifer yr achosion o Covid

25/09/20  

Bydd prifddinas Cymru yw cyflwyno mesurau cloi i atal y cynnydd diweddar yn yr achosion o COVID-19.

O 6pm yfory, (Dydd Sul, 27 Medi), bydd yn RHAIDi drigolion ac ymwelwyr yng Nghaerdydd lynu wrth y cyfyngiadau canlynol:

  • Ni chaniateir i bobl groesi i mewn i na gadael ffin Cyngor Sir Caerdydd heb esgus rhesymol;
  • Ni fydd pobl yn cael ffurfio, na bod yn rhan mwyach o aelwyd estynedig (a elwir weithiau yn "swigen").  Mae hyn yn golygu na chaniateir cyfarfod dan do gydag unrhyw un nad yw'n rhan o'ch aelwyd (sef y bobl rydych chi'n byw gyda nhw), oni bai fod gennych reswm da, fel darparu gofal i berson sy'n agored i niwed;
  • Rhaid i bobl weithio gartref lle bynnag y bo hynny'n bosibl

Bydd swyddogion yr heddlu ac Iechyd yr Amgylchedd yn cymryd camau gorfodi os na chydymffurfir â'r mesurau.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Nid ydym yn cymryd y camau hyn ar chwarae bach.  Mae'r Cyngor wedi bod yn monitro'r cyfraddau heintio yng Nghaerdydd yn ofalus drwy gydol yr argyfwng hwn, ochr yn ochr ag arbenigwyr iechyd a Llywodraeth Cymru, ac rydym eisoes wedi cymryd camau yn gynharach yr wythnos hon i gyfyngu ar ymweliadau ag Ysbytai a Chartrefi Gofal. Fodd bynnag, mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, mae'r ddau ohonom yn teimlo ei bod bellach yn ddoeth cyflwyno cyfyngiadau cryfach.  Drwy gyflwyno'r mesurau rhagofalus hyn yn y cyfnod cynnar hwn, ein nod yw atal lledaeniad cyflymach y feirws, a gobeithio lleihau hyd y cyfnod clo.

"Wrth gymryd y camau hyn rydym wedi gorfod pwyso a mesur y difrod economaidd, y gost gymdeithasol, yr effaith ar iechyd meddwl.  Ond rydym wedi gweld yn y gorffennol beth all ddigwydd os oes oedi cyn cyflwyno mesurau.  Gallai oedi am ychydig ddyddiau olygu y gellid colli llawer mwy o fywydau. 

"Bydd cwtogi ar aelwydydd sy'n cyfarfod dan do a chyfyngu ar deithio yn cael effaith ar ein bywydau i gyd, ond mae'n bwysig bod pobl yn deall bod y penderfyniadau hyn yn cael eu llywio gan Wasanaeth Profi, Olrhain ac Amddiffyn hynod effeithiol sydd wedi bod yn hanfodol i'n helpu i ddeall yr ymchwydd diweddar rydym wedi ei weld yng Nghaerdydd.

"Yr hyn y mae'n ei ddangos yw bod y rhan fwyaf o achosion i'w cael mewn rhwydweithiau teuluol sydd wedi torri rheolau aelwyd estynedig, ac sydd wedi bod yn cwrdd â mwy o bobl dan do. Hefyd, mae'n dod yn amlwg i ni dros y dyddiau diwethaf ein bod yn gweld clystyrau'n codi yn y ddinas sydd yn gysylltiedig â phreswylwyr yng Nghaerdydd sy'n dal y feirws wrth ymweld ag ardaloedd cyfagos sydd â chyfraddau heintio uchel ac yna'n ei gario adref gyda nhw i'w lleoliadau teuluol. Mae rhai achosion hefyd sydd wedi eu hau yma o'r tu allan i ffiniau'r ddinas, gan ymwelwyr a gweithwyr o'r ardaloedd cyfagos a thu hwnt.  Roedd hynny bob amser yn mynd i fod yn bosibilrwydd gan fod y ddinas yn ganolbwynt i weithwyr a siopwyr, ond mae'r cynnydd sydyn dros y pum niwrnod diwethaf a'r rhesymau dros y cynnydd hwnnw'n golygu ei bod yn bryd gweithredu nawr cyn i ni ildio mwy o dir i'r feirws. 

"Mae'n hanfodol felly ein bod i gyd yn ail-ymrwymo ein hunain i'r canllawiau hyn, ac yn dyblu'n hymdrechion er mwyn amddiffyn ein teuluoedd, ein ffrindiau, a ni ein hunain rhag niwed. Gwnaeth trigolion Caerdydd waith gwych yn dilyn canllawiau yn y gorffennol a gwn y bydd pawb yn gwneud eu gorau i dynnu ynghyd eto wrth i ni geisio gorfodi'r feirws i encilio cyn i fisoedd yr hydref a'r gaeaf afael ynom ni.

"Mae'r rhain yn amseroedd pryderus i bob un ohonom, a'n hymateb gorau yw defnyddio'r rhinweddau hynny y mae Caerdydd yn gyforiog ohonynt - sef ein dyfeisgarwch, ein hiwmor da, a'n hysbryd cymunedol. Bydd Cyngor Caerdydd yn parhau i wasanaethu'r ddinas ym mhob ffordd bosibl yn yr wythnosau i ddod, a gyda'n gilydd fe ddown ni drwy hyn."

Ar hyn o bryd, mae'r gyfradd heintio yng Nghaerdydd yn 46.1 fesul 100,000 ac mae 3.4% o'r rhai a brofwyd yn dychwelyd canlyniad COVID-19 positif, sydd i gyd yn awgrymu'n gryf fod angen cyfyngiadau cloi. Mae'r Cyngor ac arbenigwyr iechyd yn monitro cyfraddau heintio, clystyrau a thystiolaeth data bob dydd cyn cyflwyno unrhyw sylwadau i Lywodraeth Cymru ar unrhyw fesurau cloi arfaethedig. Mae Llywodraeth Cymru wedyn mewn trafodaeth gydag awdurdodau lleol a'r bwrdd iechyd, wedyn yn penderfynu ar y camau gweithredu sydd eu hangen.

Charles Janczewski, Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:"Ein blaenoriaeth yw cadw poblogaeth Caerdydd yn ddiogel ac mewn partneriaeth â'r ddau awdurdod lleol rydym wedi bod yn monitro achosion Covid-19 yn y ddau ranbarth.

"Nid yw'r penderfyniad i weithredu cyfyngiadau lleol wedi'i wneud ar chwarae bach, ond wrth wneud hynny rydym yn obeithiol y bydd hyn yn lleihau nifer yr achosion newydd o'r haint. Er hynny, gall y niferoedd barhau i godi cyn i ni ddechrau gweld gostyngiad, oherwydd cyfnod datblygiad yr haint.

"Rydym yn ymwybodol iawn o'r aberth rydym i gyd wedi'i wneud hyd yma eleni a bydd y mesurau ychwanegol hyn yn ein galluogi i barhau i amddiffyn ein teuluoedd a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Byddwn yn parhau i adolygu'r mesurau'n rheolaidd ac yn adolygu eu heffaith yn ffurfiol ymhen pythefnos.

"Mae'n bwysig bod preswylwyr yn glynu wrth y canllawiau a osodwyd ac yn aros o fewn eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn golygu na ddylai trigolion Caerdydd groesi ffiniau oni bai ei fod am resymau hanfodol fel teithio i'r gwaith lle na ellir gwneud hyn o'u cartrefi, darparu gofal a chymorth, a phrynu nwyddau hanfodol.  Dylai aelwydydd hefyd roi'r gorau i unrhyw drefniadau aelwydydd estynedig y maent wedi'u gwneud, a pheidio â chyfarfod dan do â theuluoedd eraill y tu allan i'w haelwyd eu hunain, ar wahân i eithriadau penodol megis ar sail dosturiol neu les. Gallwch barhau i gwrdd â ffrindiau a theulu yn yr awyr agored gan ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, gyda hyd at uchafswm o 30 o bobl.

"Fel Bwrdd Iechyd, rydym eisoes wedi atal ymweliadau â'n hysbytai yr wythnos hon i amddiffyn cleifion a'n gwasanaethau ac rydym wedi gorfodi gwisgo masgiau ym mhob un o'n safleoedd gofal iechyd.

"Mae'n bwysig ein bod i gyd yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn y rheolau a fydd yn helpu i gadw Caerdydd yn ddiogel."Mae'r Cyngor yn gofyn i bobl gadw mewn cof mai diben y cyfyngiadau yw atal trosglwyddo'r feirws, gan gynnwys i'r rhai yr ydym yn poeni amdanynt - o fewn yr ardal a'r tu allan. Bydd angen i bobl farnu drostynt eu hunain o ran yr hyn sy'n rhesymol, yn unol â'r egwyddor gyffredinol honno er mwyn cadw eu hunain a'u cymuned ehangach yn ddiogel.

Mae 'esgus rhesymol' yn cynnwys mynd i weithio lle na allwch weithio gartref, mynychu ysgol neu goleg y tu allan i'r ardal, neu ymgymryd â chyfrifoldeb gofal e.e. gofal plant neu ofalu am berthynas oedrannus, mynychu apwyntiad meddygol, siopa am eitemau hanfodol na ellir eu prynu'n lleol na'u harchebu ar-lein neu ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt ar gael yn lleol. Mae hefyd yn cynnwys gadael eich ardal leol i ymweld â theulu neu ffrindiau agos ar sail dosturiol os oes angen.

Ond y neges sylfaenol yw y dylai pobl aros yn eu hardal leol gymaint â phosibl. Nid oes gennych esgus rhesymol dros adael yr ardal i wneud rhywbeth os gellid disgwyl yn rhesymol i chi allu gwneud hwnnw o fewn yr ardal. Mae hyn hefyd yn gweithio fel arall.  Ddylai'r rhai sy'n byw y tu allan i'r ardal DDIM dod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol ar deithiau nad ydynt yn rhai hanfodol os oes modd.

  • Am y tro, dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn gallu cwrdd. Ni fydd pobl yn gallu cwrdd ag aelodau o'u haelwyd estynedig dan do na ffurfio aelwyd estynedig am y tro.
  • RHAID i bobl sy'n byw yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerdydd weithio gartref oni bai nad yw hi'n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
  • Bydd lleoliadau cyhoeddus dan do, fel tafarndai, bariau, bwytai, canolfannau chwarae, canolfannau cymunedol, addoldai, cyfleusterau hamdden ac atyniadau lleol YN aros ar agor ond dim ond i'r rhai sy'n byw yng Nghaerdydd y bydd y rhain ar gael a dim ond gydag aelodau o'ch aelwyd y dylech fynychu (sef y bobl rydych chi'n byw gyda nhw). Bydd yn rhaid i'r lleoliadau hyn sicrhau nad ydych yn cymysgu â phobl nad ydynt yn rhan o'ch aelwyd agos a gofynnir iddynt sicrhau eich bod yn cadw ar wahân. Gweld cwestiynau cyffredin ar gyfer busnesau. 
  • Mae masgiau neu orchuddion wyneb tair haen bellach yn orfodol yng Nghymru a RHAID eu gwisgo'n briodol ym MHOB man dan do a lle na ellir cadw pellter cymdeithasol, oni bai bod gennych eithriad dilys neu feddygol am beidio â gwneud hynny - gweld Canllawiau Llywodraeth Cymru.  Rydym hefyd yn gofyn i breswylwyr wirfoddoli i'w gwisgo y tu allan ym mhob man cyhoeddus prysur - gan gynnwys ar y stryd fawr a thu allan i gatiau'r ysgol ar adegau codi a gollwng. 
  • Bydd ysgolion, lleoliadau gofal plant, prifysgolion a cholegau yn parhau i fod ar agor a bydd cludiant o'r cartref i'r ysgol yn parhau i weithredu yn unol â chanllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru - mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:
    https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/cwestiynau-cyffredin-i-rieni-a-disgyblion/Pages/default.aspx 
  • Ni ddylai pobl ymweld â chartrefi gofal, oni bai ei fod yn ymweliad diwedd oes lle bydd angen gwisgo PPE llawn.
  • Er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o drosglwyddiad yn y diwydiant lletygarwch, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei gwneud yn ofynnol i bob safle trwyddedig gau am 10pm. Mae'r cyfyngiad hwn yn cynnwys atal gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau diodydd trwyddedig ar ôl 10pm.  
  • Yn ogystal â'r uchod, parhewch i olchi eich dwylo'n aml gyda sebon a dŵr am 20 eiliad neu ddefnyddio diheintydd dwylo a chadw pellter cymdeithasol (2 fetr). 
  • Mae'r Cyngor hefyd yn argymell yn gryf y dylai preswylwyr osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oni bai fod hynny ar gyfer taith hanfodol (i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, apwyntiadau meddygol, neu siopa am nwyddau sylfaenol).

Darllen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru yn llawn.

Gweld y map Caerdydd

Gweld cwestiynau cyffredin i Fusnesau

Bydd y mesurau newydd yn cael eu gorfodi gan yr Awdurdod Lleol a Heddlu De Cymru, ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Os nad yw nifer yr achosion yn dangos arwydd o ostwng, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau pellach.

Mae methu â chydymffurfio â'r mesurau a nodir uchod ac yn y dogfennau perthnasol gan Lywodraeth Cymru yn drosedd a gallai arwain at gymryd camau gorfodi gan Swyddogion Gorfodi'r Cyngor a Heddlu De Cymru i amddiffyn eich cyd-breswylwyr a helpu i gadw Caerdydd a Chymru'n ddiogel.  

Camau Gorfodi a Dirwyon

Rheoli ac Atal yr Haint 

Mae'r Cyngor yn parhau i fonitro a chymryd camau lle bo angen i sicrhau bod POB busnes ac eiddo yn cydymffurfio â rheoliadau COVID-19 (Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020), a ddaeth i rym ar 10 Awst 2020, i reoli, lleihau ac atal y risg o ddod i gysylltiad â COVID-19.

Mae'r Cyngor eisoes yn cymryd camau i sicrhau bod pob archfarchnad fawr, siop fanwerthu ac eiddo trwyddedig yn glynu wrth y Rheoliadau.  Mae Heddlu De Cymru yn parhau i orfodi'r rheoliadau Covid-19 presennol sydd ar waith ledled Cymru gyfan gyda phreswylwyr, law yn llaw â thimau iechyd yr amgylchedd y Cyngor.

Mae Hysbysiadau Gwella eisoes wedi'u cyflwyno i nifer o safleoedd yng Nghaerdydd yn dilyn methiannau i gydymffurfio â rheoliadau COVID-19, gall y rhain gynnwys, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i, ddiffyg rheoleiddio cadw pellter cymdeithasol a diffyg darparu diheintydd dwylo a diheintydd glanhau.

Mae'r rhain yn cael eu rhoi ar y dudalen Rheoli ac Atal Achosion COVID-19.

Atgoffir y cyhoedd os ydynt yn teimlo nad yw busnes, ardal neu safle yn cydymffurfio, na ddylent fynd iddo na chymryd rhan yn y gweithgaredd - mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i reoli'r lledaeniad a helpu i Gadw Cymru a Chaerdydd yn Ddiogel. 

Archebu Prawf

Os ydych yn symptomatig fe'ch cynghorir i:

Atgoffir preswylwyr, fel rhan o'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu,  os ydych yn symptomatig ac yn derbyn canlyniad prawf positif dylech hunanynysu ac aros gartref am o leiaf 10 diwrnod a dylai unrhyw un yr ydych wedi bod mewn cysylltiad â nhw hunanynysu am 14 diwrnod hyd yn oed os ydynt yn teimlo'n dda neu'n derbyn prawf negyddol.

Drwy ddod at ein gilydd a chyflawni'r mesurau uchod, gallwn droi'r llanw ar y feirws hwn a helpu i gadw Caerdydd a Chymru'n ddiogel.