Back
Caerdydd yn cyflwyno mwy o dori a chodi porfa i gefnogi bioamrywiaeth
Mae gweithdrefnau torri a chodi gwell yn cael eu cyflwyno ar draws mwy o ardaloedd o laswelltir blodau gwyllt a glaswelltir a reolir yn anffurfiol yng Nghaerdydd, fel rhan o waith parhaus y ddinas i gefnogi bioamrywiaeth.

Mae peiriannau newydd a brynwyd yn ddiweddar gan y cyngor yn golygu y gellir casglu mwy o laswellt a dorrwyd o fwy o ardaloedd o laswelltir a'u bwndelu'n fyrnau gwair.

Mae cael gwared ar doriadau glaswellt yn lleihau lefelau maetholion yn y pridd, gan ganiatáu i ystod lawer ehangach o rywogaethau planhigion gael tyfu, a all yn ei dro gefnogi ystod fwy o beillwyr.

Yna gellir defnyddio'r byrnau glaswellt i ffurfio pentyrrau glaswellt sy'n gallu darparu cynefinoedd pwysig ar gyfer creaduriaidi di-asgwrn-cefn a bywyd gwyllt arall, neu gellir ei ddefnyddio i greu compost.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rydym eisoes yn gofalu am 33.5 hectar o laswelltiroedd anffurfiol sy'n ystyriol o beillwyr. Mae buddsoddi yn y peiriannau newydd hyn yn golygu ein bod, yn rhai o'r safleoedd, yn gallu gwneud bywyd hyd yn oed yn haws i fyd natur a sicrhau ein heffaith gadarnhaol fwyaf posibl ar fioamrywiaeth - ond mae mwy o waith i'w wneud o hyd.

"Mae cynlluniau'n cael eu datblygu i brynu rhagor o beiriannau a fydd yn ein galluogi i gyflwyno'r dull torri a chodi hwn i fwy o safleoedd. Rydym hefyd yn bwriadu ychwanegu mwy o safleoedd at ein cyfundrefn un toriad cyn y tymor torri nesaf, ac yn ddiweddarach eleni byddwn hefyd yn cyhoeddi ein Strategaeth Un Blaned, a fydd yn mynd i'r afael â heriau lluosog newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth." 

Mae safleoedd ar Fferm y Fforest, Caeau Pontcanna a Pharc y Mynydd Bychan eisoes wedi elwa o'r dull newydd hwn.

Bydd rhagor o beiriannau'n cael eu prynu yn sgil derbyn arian gan Gyllid Lleoedd Natur Lleol Llywodraeth Cymru.