Back
10 ffaith o'n Hadroddiad Lles Statudol Blynyddol

Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi adroddiad lles statudol.

Mae'n llawn ffeithiau a ffigurau am y gwasanaethau a ddarparwn -dyma 10 ohonynt, i roi syniad i chi o'r hyn y byddwch yn ei weld tu mewn.

 

  1. Am yr ail flwyddyn yn olynol Caerdydd yw'r awdurdod lleol gorau yng Nghymru o ran ansawdd ei wasanaethau - dywedodd 58% o'n trigolion fod ein gwasanaethau o ansawdd uchel.

 

  1. Yn 2019/20 rhoddodd ein Tîm Adnoddau Cymunedol bron i 58,000 awr o gymorth cyn, yn ystod ac ar ôl rhyddhau cleifion o'r ysbyty, gan helpu gyda'r cydbwysedd cywir rhwng gofal ac annibyniaeth.

 

  1. Cynhalion ni 800 o ddigwyddiadau Deall Demensia yn ystod 2019/20 a helpodd ein Tîm Cyfleoedd Dydd tua 200 o bobl unig neu wedi'u hallgáu'n gymdeithasol i ailgysylltu â'u cymuned.

 

  1. Yn 2019/20, cydnabuwyd Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw. Erbyn hyn mae 108 o gyflogwyr Cyflog Byw yn y ddinas, sy'n talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i 35,538 o bobl - mae hynny'n golygu bod 5,295 yn fwy o bobl yn cael cyflog byw yng Nghaerdydd eleni.

 

  1. Yn 2019/20 crëwyd 152 o brentisiaethau a rhaglenni hyfforddi gennym, cefnogodd ein gwasanaethau cymorth cyflogaeth 1,050 o bobl i gael gwaith a gwnaethom gynorthwyo 3,348 o bobl gyda Chredyd Cynhwysol.

 

  1. Yn 2020, cynyddodd nifer y bobl ifanc a gofrestrwyd mewn Addysg Gymraeg gan 244.

 

  1. Gyda'n cymorth ni, cafodd 1,795 o bobl yng Nghaerdydd eu hatal rhag dod yn ddigartref y llynedd a gwelwyd 200 o ymyriadau amlasiantaethol a gefnogodd pobl a oedd yn cysgu ar y stryd i gael llety.

 

  1. Mae 98% o gwsmeriaid wedi dweud eu bod yn fodlon ar y gwasanaethau a ddarperir yn ein Hybiau Cymunedol, sy'n ffigur enfawr.

 

  1. Y llynedd, cliriwyd 99.03% o'r achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghaerdydd o fewn 5 diwrnod gwaith ac arweiniodd 80.35% o ddigwyddiadau at gamau gorfodi pellach.

 

  1. O geisiadau am drwyddedau parcio i gyfleuster hunan-wasanaeth y Dreth Gyngor - cysylltodd pobl â ni fwy na 1.25 miliwn o weithiau drwy ein sianelau digidol y llynedd ac mae'r ap 'Cardiff Gov' wedi'i lawrlwytho bron i 25,000 o weithiau.

 

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/ieIssueDetails.aspx?IId=23050&PlanId=0&Dewis=3&