Mae’r gwobrau DU-gyfan, a drefnir ac a hyrwyddir gan y Bwrdd Ymwybyddiaeth o Goffáu, yn canolbwyntio ar safonau’r diwydiant, materion amgylcheddol ac arfer da.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: “I ennill y wobr hon ddwywaith o’r bron, ac yn benodol yn ystod blwyddyn pan fu’n rhaid i’r Gwasanaethau Profedigaeth ymateb i heriau Covid-19, yn gydnabyddiaeth wych o’r tîm. Gwn cymaint o ofal y maen nhw’n ei roi wrth eu gwaith i bobl Caerdydd ac maen nhw wir yn ei haeddu.”
Dywedodd Philip Potts, o’r Bwrdd Ymwybyddiaeth o Goffáu: "Mae'r gwobrau'n gyfle gwych i wobrwyo staff sy'n gweithio'n galed a dangos y rôl ganolog y gall Mynwentydd ei chwarae yn y gymuned. Maent yn llefydd o harddwch heddychlon i fyfyrio, yn ogystal â'u pwysigrwydd ecolegol.
“Perfformiodd y tîm ym Mynwent Draenen Pen-y-graig yn arbennig drwy gydol y cyfnod beirniadu helaeth.”
Caiff Gwobrau Mynwent y Flwyddyn eu noddi a’u cymeradwyo gan y Cymdeithasau diwydiant amlwg canlynol:
·
Bwrdd
Ymwybyddiaeth o Goffáu
·
Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac
Amlosgfeydd
· Ffederasiwn yr
Awdurdodau Claddu ac Amlosgi (FBCA)
· Cymdeithas
Clercod Cynghorau Lleol (SLCC)
· Cofrestr
Seiri Coffa Achrededig Prydain (BRAMM)