Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 15 Medi

Dyma'r diweddaraf gan Gyngor Caerdydd ar: nifer cyfredol yr achosion o COVID-19 a ffigurau profion Caerdydd; cynhaliwyd archwiliadau cydymffurfio ym mhob lleoliad yng nghanol y ddinas y penwythnos diwethaf; diolch cyhoeddus i holl ofalwyr y ddinas; a y cyngor yn chwilio am lywodraethwyr ysgol newydd.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Er bod nifer yr achosion COVID-19 yng Nghaerdydd yn eithaf sefydlog ar hyn o bryd, gall pethau newid yn gyflym os nad ydym i gyd yn parhau i ddilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru.

Dilynwch y canllawiau hyn a gallwn i gyd helpu i atal lledaeniad Coronafeirws, neu gallem fod yn wynebu clo lleol fel yr un yng Nghaerffili:

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau

#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

14 Medi 2020, 13:00

Achosion: 44

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 12.0

Achosion profi: 2,721

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 741.6

Cyfran bositif: 1.6%

 

Cynhaliwyd archwiliadau cydymffurfio ym mhob lleoliad yng nghanol y ddinas y penwythnos diwethaf

Cynhaliodd swyddogion trwyddedu o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir archwiliadau cydymffurfio ym mhob lleoliad yng nghanol y ddinas dros y penwythnos ac ni chyflwynwyd unrhyw Rybuddion Gwella pellach.

Mae'r Rhybudd Gwella a roddwyd i Mocka Lounge ar Lôn y Felin wedi cael ei dynnu yn ôl, gan fod yr holl fesurau y dywedwyd wrthynt am gydymffurfio â nhw wedi cael eu rhoi ar waith. Mae'r pedwar lleoliad arall sydd â rhybudd gwella ar waith ar hyn o bryd, sef Coyote Ugly, Peppermint, Rum & Fizz a Gin & Juice, wedi gwneud gwelliannau ac os bydd hyn yn parhau, rhagwelir y bydd y rhybuddion yn erbyn y busnesau hyn hefyd yn cael eu tynnu'n ôl yr wythnos hon.

Mae gan bob lleoliad gyfrifoldeb i sicrhau bod pobl sy'n bwyta neu'n yfed yn ei sefydliad yn dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol. Rhaid i brosesau fod ar waith i sicrhau bod mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn a rhaid i system dracio ac olrhain fod ar waith hefyd, gan gasglu enwau a rhifau ffôn cwsmeriaid.

Mae swyddogion trwyddedu yn asesu nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • Bod systemau ciwio y tu allan i fariau a bwytai ar waith i sicrhau y dilynir mesurau ymbellhau cymdeithasol
  • Bod y byrddau, y tu mewn a'r tu allan, yn ddau fetr oddi wrth ei gilydd
  • Bod gweithdrefnau ar waith i ddelio â phobl nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau, boed hynny o ran ymbellhau cymdeithasol neu gymdeithasu â phobl y tu allan i'w teulu estynedig, neu eu 'swigen'
  • Bod prosesau ar waith i amddiffyn staff.

Er gwaethaf y gwelliannau sydd wedi'u gwneud yng nghanol y ddinas, codwyd pryderon am y bar Loco Latin ar Miskin Street yn Cathays. Yn dilyn ymweliad ar y cyd â Swyddogion Trwyddedu Heddlu De Cymru, cyhoeddwyd Hysbysiad Cau ar y busnes ddoe (14/09/20).

Bydd bar Loco Latin yn aros ar gau hyd nes y rhoddir mesurau digonol ar waith a bydd swyddogion yn parhau i gynnal gwiriadau cydymffurfio ym mhob safle trwyddedig am y dyfodol rhagweladwy.

 

Diolch i holl weithwyr gofal cymdeithasol Caerdydd

Mae baneri sy'n talu teyrnged i weithwyr gofal cymdeithasol y ddinas, sydd wedi helpu i ofalu am bobl sy'n agored i niwed yn ystod y pandemig, wedi'u gosod yng Nghastell Caerdydd.

Mae'r baneri lliwgar yn symbol o ddiolchgarwch y ddinas i'r holl weithwyr gofal a weithiodd, ac yn parhau i weithio, yn ddiflino i roi gofal hanfodol i'r rhai mewn angen ac mae gan bob un y neges 'I holl weithwyr gofal Caerdydd, diolch am gefnogi ein hanwyliaid'.

Mae gweithlu'r Cyngor, ynghyd â'r darparwyr gofal cymdeithasol a gomisiynwyd ganddo, wedi rhoi dros 600,000 awr o ofal cartref yn ddiogel i oedolion a phlant ers dechrau'r pandemig, ac wedi parhau i gefnogi oedolion a phlant mewn cartrefi gofal a llety byw â chymorth. Yn ogystal, roedd dros 150 o staff y Cyngor yn cael eu hail-leoli o'u rolau arferol i gefnogi gwasanaethau rheng flaen ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:

"Mae ymrwymiad a dewrder ein gweithlu gofal cymdeithasol wedi bod yn rhyfeddol ac mae ymdrech gyfunol staff y Cyngor, ei ddarparwyr a'r GIG, wedi galluogi'r gwasanaeth hanfodol hwn i barhau i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

"Mae nifer o bobl wedi gwirfoddoli eu cymorth yn ystod y cyfnod hwn o angen ac yn wirioneddol haeddu cael eu canmol am aberthu eu hamser eu hunain i roi gwasanaeth i eraill yn ystod yr amgylchiadau heriol hyn."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cyng. Graham Hinchey:

"Oherwydd gwaith caled a haelioni staff gofal cymdeithasol, mae gofal a chymorth i blant a theuluoedd wedi parhau i wneud gwahaniaeth sylweddol yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn."

"Mae'r straeon sydd wedi'u rhannu trwy ymgyrch 'Gweithio i Gaerdydd' y Cyngor wedi arddangos gwaith eithriadol mewn cartrefi plant, lle mae staff wedi dod at ei gilydd i gyflenwi sifftiau, gan fynd y filltir ychwanegol i hybu morâl y plant maen nhw'n eu cefnogi. Mae'n fraint bod gennym staff mor ymroddedig."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24713.html

 

Cyfleoedd Llywodraethwyr Ysgol yng Nghaerdydd

Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am hyd at 100 o wirfoddolwyr brwdfrydig ac ymrwymedig i ymgymryd â swyddi fel llywodraethwyr ysgol ar draws 127 o ysgolion y ddinas.

Llywodraethwyr ysgol yw'r gweithlu gwirfoddol pwysicaf yn y maes addysg, ac maent yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wella addysg a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddyfodol plant a phobl ifanc. 

Mae llywodraethwyr ysgol yn helpu i osod gweledigaeth strategol yr ysgol ac yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn yr addysg orau bosibl. Maent hefyd yn gweithredu fel cyfaill beirniadol gan roi cymorth a her i uwch dîm arwain yr ysgol.

Mae llawer o fanteision i ddod yn llywodraethwr ysgol, byddwch yn cael cyfle i fod yn rhan o ysgol leol a'r cyfle i gyfrannu'n uniongyrchol at lwyddiant y plant a'r bobl ifanc y mae'n eu gwasanaethu.  Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau a phrofiad proffesiynol a phersonol mewn ystod eang o feysydd fel cynllunio strategol, gwneud penderfyniadau a rheolaeth ariannol sy'n gallu helpu gyda gyrfaoedd a datblygiad personol.

Darperir datblygiad proffesiynol parhaus am ddim gan yr awdurdod lleol i gynorthwyo llywodraethwyr yn eu rôl.

Ar y lleiaf gellid disgwyl i lywodraethwr gyfrannu tua phum awr y mis i ysgol a fyddai'n amrywio yn ôl yr ystod o gyfrifoldebau y byddwch yn dewis eu derbyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae addysg yn nodwedd amlwg o Uchelgais Prifddinas Caerdydd ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn mynychu ysgol dda neu ardderchog.

"Er mwyn cyflawni hyn, mae angen prosesau llywodraethu ysgolion da ar ein hysgolion a'r cymorth, y sgiliau a'r arbenigedd gan gyrff llywodraethu sy'n helpu i wella bywydau plant a phobl ifanc yn y gymuned.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24734.html