Back
Llwybr tuag at brifddinas tecach, fwy cynhwysol
 15/09/20 

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer cymdeithas decach lle gall pawb rannu yn llwyddiant y ddinas.

 

Crëwyd strategaeth bedair blynedd newydd i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ac i ddileu unrhyw rwystrau a achosir gan anghydraddoldebau, y gallai preswylwyr eu profi wrth geisio sicrhau gwell canlyniadau yn eu bywydau, er mwyn llunio prifddinas fwy diogel, tecach a mwy cynhwysol.

 

Mae Strategaeth Cydraddoldeb a Chynhwysiant y Cyngor ar gyfer 2020-2024, a ddatblygwyd ar ôl ymgynghori â thrigolion, grwpiau cymunedol, staff y Cyngor a phartneriaid, yn seiliedig ar bedwar amcan allweddol a fydd yn cefnogi'r daith i fod yn ddinas fwy cyfartal.

 

Y pedair nod yw:

  1. Datblygu a darparu gwasanaethau sy'n ymateb i fwlch anghydraddoldeb Caerdydd
  2. Arwain y ffordd ar gydraddoldeb a chynhwysiant yng Nghymru a’r tu hwnt
  3. Mae Caerdydd yn hygyrch i bawb sy'n byw, yn ymweld neu'n gweithio yn y ddinas
  4. Creu sefydliad cynhwysol a chynrychioliadol

 

Mae'r strategaeth newydd yn nodi sut y bydd y Cyngor yn ceisio cyflawni'r amcanion hyn yn ogystal â chyflawni ei Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus, o dan y Ddeddf Cydraddoldeb megis dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt, yn ogystal â meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt yn ei rhannu.

 

 

Mae'r cynllun hefyd wedi'i ddiwygio i adlewyrchu'r amgylchedd newydd sy'n deillio o COVID-19 a dechrau’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yng Nghymru o 31 Mawrth 2021.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae gan Gaerdydd enw da fel dinas o barch ac undod goddefgarwch, y gallwn ymfalchïo ynddi ac er ei bod yn lle gwych i fyw, gweithio a chwarae, nid yw'n ddiogel rhag yr anghydraddoldebau a'r gwahaniaethu hirsefydlog sy'n effeithio ar bob dinas fawr.

 

"Mae'r ddinas yn gartref i rai o'r ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig yng Nghymru gyfan ac mae'r bwlch rhwng y cymunedau hynny'n rhy eang.

 

"Ystyr creu dinas wirioneddol gynhwysol yw cydnabod y rhwystrau o anghydraddoldeb ac allgau a gwneud popeth o fewn ein gallu i ddileu'r rhwystrau hynny, fel y gall pawb yn y ddinas, waeth beth fo'u cefndir neu ym mha gymuned y maent yn byw, gael mynediad at wasanaethau a chyrraedd eu potensial.

 

"Mae'n golygu integreiddio cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn - ein tai, ein hysgolion, ein heconomi, ein hamgylchedd adeiledig a'n seilwaith, yn ogystal â, fel cyflogwr, i ddarparu gwasanaethau a phartneriaethau cynhwysol o ansawdd uchel sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac allgáu."

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Rwy'n falch iawn ein bod eisoes wedi gwneud cynnydd ar yr agenda pwysig hwn gyda chreu Tasglu Cydraddoldeb Hiliol dros yr haf i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn y ddinas.  

 

"Fel y brifddinas, gallwn arwain y ffordd er mwyn sicrhau bod Caerdydd nid yn unig yn gweithio i'n trigolion, ond ar gyfer gweddill Cymru hefyd. Y strategaeth newydd hon yw'r llwybr ar gyfer sut y bydd yn anelu at gyflawni'r nod hwn o ddod yn Gaerdydd sy’n decach, fwy diogel a mwy cynhwysol i bawb."

 

Bydd y Cabinet yn ystyried y Strategaeth Cydraddoldeb a Chynhwysiant ar gyfer 2020-2024 yn ei gyfarfod nesaf ar Ddydd Iau 17 Medi.