Back
Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cynigion ynghylch campws addysg newydd yn y Tyllgoed


11/9/2020

 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn nodi bod Gweinidog Addysg Cymru wedi cymeradwyo cynigion sy'n ymwneud â chynigion ar gyfer ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 17 Medi 2020.

 

Gan fod y cynigion yn effeithio ar ddarpariaeth chweched dosbarth, roedd angen cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru dan adran 50 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg nawr wedi ystyried cynigion y Cyngor a nododd fod y tri chynnig yn rhan o un cais am gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif ac yn destun ymgynghoriad ar y cyd.

 

Ym mis Mehefin 2019nododd Cabinet Cyngor Caerdydd ymatebion i'r ymgynghoriad ar ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands a chytunodd i fynd ymlaen i'r cam hysbysu statudol ar gyfer y cynigion canlynol:

-     Newid adeiladau Ysgol Uwchradd Cantonian gyda llety adeilad newydd ar yr un safle gan ehangu'r ysgol o chwe dosbarth derbyn i wyth dosbarth derbyn gyda darpariaeth chweched dosbarth ar gyfer hyd at 250 o ddisgyblion;

-     Ymestyn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) i ddysgwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA) yn Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 lle i 30 lle mewn llety pwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;

-     Adleoli Ysgol Uwchradd Woodlands i'r safle ar Doyle Avenue o'r safle presennol cyfagos â Pharc Trelái a chynyddu'r capasiti o 140 i 240 lle mewn adeilad newydd;

-     Adleoli Ysgol Arbennig Riverbank i'r safle ar Doyle Avenue o'i leoliad presennol ger Parc Trelái, gan gynyddu'r capasiti o 70 i 112 o leoedd mewn adeilad newydd.

Mae'r Cyngor wedi cynnig ehangu Ysgol Riverbank i 140 lle, ond byddai gosod cap o 112 yn gostwng ôl troed yr adeiladau, cynyddu'r gofod awyr agored i ddysgwyr ac yn lleihau effaith traffig i'r safle. Câi llefydd arbenigol ychwanegol eu cynnig mewn ysgol arall i ateb y twf a ragwelir yn y galw am lefydd mewn ysgolion cynradd arbennig yn y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn rhan o Fand B y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, nodwyd bod angen rhagor o leoedd mewn ysgolion uwchradd a lleoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar gyfer plant ag anghenion cymhleth,

"Mae'r diweddariad hwn gan Lywodraeth Cymru yn nodi'r diweddaraf o ran y cynigion am y safle ar Doyle Avenue sy'n cynnig cyfle cyffrous i greu campws addysg cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd, gan ddarparu cartrefi newydd i Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Woodlands ac Ysgol Arbennig Riverbank.

"Mae'r adeiladau presennol y tair ysgol wedi cyrraedd diwedd eu bywydau gweithredol ac mae angen rhai newydd. Byddai hyn yn ein galluogi i gyflawni cyfleusterau yr 21ainGanrif wedi eu hadeiladu o'r newydd sy'n cynnig amwynderau modern rhagorol i ddisgyblion."

 

Mae'r Gweinidog hefyd wedi cymeradwyo'r cynigion ar y sail bod y cynllun yn debygol o gynnal o leiaf ganlyniadau cyfatebol a chynnig darpariaethau i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd i ddysgwyr ym mhob un o'r tair ysgol.
 

Bydd yr adroddiad hefyd yn argymell dirprwyo awdurdod i swyddogion gymryd y camau priodol i weithredu'r cynigion.