Back
Diolch i holl weithwyr gofal cymdeithasol Caerdydd


11/09/20 

Mae baneri sy'n talu teyrnged i weithwyr gofal cymdeithasol y ddinas, sydd wedi helpu i ofalu am bobl sy'n agored i niwed yn ystod y pandemig, wedi'u gosod yng Nghastell Caerdydd.

 

Mae'r baneri lliwgar yn symbol o ddiolchgarwch y ddinas i'r holl weithwyr gofal a weithiodd, ac yn parhau i weithio, yn ddiflino i roi gofal hanfodol i'r rhai mewn angen ac mae gan bob un y neges 'I holl weithwyr gofal Caerdydd, diolch am gefnogi ein hanwyliaid'.

 

Mae gweithlu'r Cyngor, ynghyd â'r darparwyr gofal cymdeithasol a gomisiynwyd ganddo, wedi rhoi dros 600,000 awr o ofal cartref yn ddiogel i oedolion a phlant ers dechrau'r pandemig, ac wedi parhau i gefnogi oedolion a phlant mewn cartrefi gofal a llety byw â chymorth. Yn ogystal, roedd dros 150 o staff y Cyngor yn cael eu hail-leoli o'u rolau arferol i gefnogi gwasanaethau rheng flaen ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:

"Mae ymrwymiad a dewrder ein gweithlu gofal cymdeithasol wedi bod yn rhyfeddol ac mae ymdrech gyfunol staff y Cyngor, ei ddarparwyr a'r GIG, wedi galluogi'r gwasanaeth hanfodol hwn i barhau i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

 

"Mae nifer o bobl wedi gwirfoddoli eu cymorth yn ystod y cyfnod hwn o angen ac yn wirioneddol haeddu cael eu canmol am aberthu eu hamser eu hunain i roi gwasanaeth i eraill yn ystod yr amgylchiadau heriol hyn."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cyng. Graham Hinchey:

"Oherwydd gwaith caled a haelioni staff gofal cymdeithasol, mae gofal a chymorth i blant a theuluoedd wedi parhau i wneud gwahaniaeth sylweddol yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn."

 

"Mae'r straeon sydd wedi'u rhannu trwy ymgyrch 'Gweithio i Gaerdydd' y Cyngor wedi arddangos gwaith eithriadol mewn cartrefi plant, lle mae staff wedi dod at ei gilydd i gyflenwi sifftiau, gan fynd y filltir ychwanegol i hybu morâl y plant maen nhw'n eu cefnogi. Mae'n fraint bod gennym staff mor ymroddedig."

 

Ar ddechrau'r pandemig, cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, apêl frys i recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol, gydag angen arbennig am weithwyr gofal cartref cymwys.

 

Mae'r Cyngor yn parhau i recriwtio ar gyfer gweithwyr gofal sydd â diddordeb mewn rhoi gofal a chymorth i bobl sy'n agored i niwed o bob oed mewn rolau rhan-amser neu fel gyrfa llawn-amser.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â Chyngor Caerdydd neu un o'i ddarparwyr gofal cymdeithasol ac i gael gwybod am gyfleoedd i ddechrau gyrfa newydd gyffrous ym maes gofal cymdeithasol, ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Gwasanaethau-Cymdeithasol-a-Lles/Oedolion/Byddwch-yn-Weithiwr-Gofal/Pages/default.aspx

 

Fel rhan o'r neges ddiolch, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion Caerdydd rannu eu gwerthfawrogiad eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio'r hashnod #DiolchWeithwyrGofalCaerdydd.