Back
Gofyn i ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath hunanynysu wedi cadarnhau achos o Covid
Gofynnwyd i 60 o ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath hunanynysu am 14 diwrnod yn dilyn cadarnhau achos o Covid-19 yn yr ysgol.

Nodwyd bod y disgyblion o Flwyddyn 6 wedi bod mewn cysylltiad â rhywun y cadarnhawyd bod Covid-19 arno yn yr ysgol a gofynnwyd iddynt aros gartref er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ledaenu'r feirws i'w teuluoedd, eu ffrindiau a'r gymuned ehangach.

Bydd mwy o lanhau heddiw yn ardaloedd yn yr ysgol a ddefnyddiodd y grŵp blwyddyn hwnnw.

Dywedodd y Pennaeth, Mr Jonathan Keohane: "Yn dilyn cadarnhad yn hwyr neithiwr bod un o'n disgyblion wedi cael canlyniad prawf Covid-19 positif, gweithredom yn unol ag arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn gynted â phosibl a rhoi gwybod i rieni pob disgybl a fu mewn cysylltiad agos â'r disgybl dan sylw."

"Diolch i'r gweithdrefnau cryf sydd gennym ar waith, mae nifer ein disgyblion mae angen iddyn nhw hunanynysu wedi'u cyfyngu i 60 o ddisgyblion mewn un grŵp blwyddyn ac nid yw'n ofynnol i unrhyw staff hunanynysu.

"Rydym eisoes wedi gweithredu gwell trefnau glanhau ond fel rhagofal mae gwaith glanhau ychwanegol hefyd yn digwydd yn yr ysgol."

"Mae cymuned ysgol gref ym Mharc y Rhath ac rwy'n siŵr y bydd rhywfaint o bryder dealladwy yn sgil y newyddion hyn, ond hoffwn dawelu meddwl ein holl rieni, ac yn enwedig ein disgyblion, drwy ddweud ein bod yn rhoi sylw craff iawn i'r cyngor a gawn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Cyngor i sicrhau bod y potensial ar gyfer unrhyw drosglwyddo pellach yn cael ei leihau a bod yr ysgol yn parhau'n ddiogel."

"Bydd staff yn parhau'n wyliadwrus am unrhyw ddisgyblion sy'n dangos symptomau ac yn rhoi camau priodol ar waith os ydynt yn amau bod Covid-19 ar ddisgybl."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae diogelwch disgyblion yn ein hysgolion yn flaenoriaeth ac mae gweithdrefnau ar waith i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl, ond gydag angen i ddisgyblion mewn dwy ysgol yng Nghaerdydd bellach hunanynysu, mae hyn yn ein hatgoffa'n glir nad yw Covid-19 wedi diflannu.

"Byddwn yn annog pob rhiant i barhau'n wyliadwrus a sicrhau nad yw eu plant yn mynd i'r ysgol os ydynt yn datblygu symptomau, a gofynnwn i bob preswylydd, rhiant neu berson arall, helpu i Gadw Cymru'n Ddiogel drwy ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru."

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau