1/09/20 - Hwb o
£500,000 ar gyfer technoleg i gynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer y diwydiannau
creadigol
Yn dilyn cais
llwyddiannus am gyllid, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £500,000 i Gyngor
Caerdydd i wella’r seilwaith sy’n cludo band eang ffibr optig o amgylch y ddinas.
Darllenwch fwy:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24628.html
4/09/20 - Croesawodd
ysgolion yng Nghaerdydd lawer o'u disgyblion yn ôl yr wythnos diwethaf a bydd
llawer mwy yn dychwelyd yr wythnos hon.
Atgoffir teuluoedd
na ddylai dysgwyr fynd i’r ysgol dan unrhyw amgylchiadau os ydynt yn:
• teimlo'n sâl neu’n dangos unrhyw un o
dri symptom COVID-19 a adnabyddir (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu
golli blas neu arogl) neu os ydynt wedi cael canlyniad positif i brawf COVID-19
yn y 14 diwrnod diwethaf
• byw mewn cartref gyda rhywun sy’n
dangos symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael canlyniad positif i brawf COVID-19
yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.
Darllenwch fwy:
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/cwestiynau-cyffredin-i-rieni-a-disgyblion/Pages/default.aspx
4/09/20 -
Newidiadau i’ch Canolfannau Ailgylchu
Bellach mae’n
bosib archebu 26 ymweliad y flwyddyn â’ch canolfannau ailgylchu lleol, yn lle
12, gall 2 berson bellach adael y cerbyd i helpu i symud eitemau trymach, ein
cyngor erbyn hyn yw eich bod yn gwisgo gorchudd wyneb.
Mwy yma:
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/Pages/default.aspx
4/09/20 - Mae'r
holl ardaloedd chwarae i blant yng Nghaerdydd sydd wedi pasio archwiliadau
diogelwch bellach wedi ailagor.
Bydd ailagor y
3 ardal chwarae hyn - ger y Morglawdd (Bae Caerdydd), Heol Llanisien Fach
(Rhiwbeina) a Rhydypenau (Cyncoed) yn golygu y bydd 107 o 116 o ardaloedd
chwarae'r ddinas ar gael i blant eu mwynhau.
Darllenwch fwy:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24657.html