Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd yn cynnwys: Ailagor Ysgolion, trefniadau cau ffyrdd i
hyrwyddo cadw pellter cymdeithasol ac annog teithio llesol,newidiadau
i’ch Canolfannau Ailgylchu ac ailagor ardaloedd chwarae.
Canllaw
ar ailagor Ysgolion
Croesawodd ysgolion yng Nghaerdydd lawer o'u
disgyblion yn ôl yr wythnos hon a bydd llawer mwy yn dychwelyd yr wythnos
nesaf.
Atgoffir teuluoedd na ddylai dysgwyr fynd i’r ysgol
dan unrhyw amgylchiadau os ydynt yn:
· teimlo'n sâl
neu’n dangos unrhyw un o dri symptom COVID-19 a adnabyddir (peswch parhaus
newydd, tymheredd uchel neu golli blas neu arogl) neu os ydynt wedi cael
canlyniad positif i brawf COVID-19 yn y 14 diwrnod diwethaf
· byw mewn
cartref gyda rhywun sy’n dangos symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael canlyniad
positif i brawf COVID-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.
Atgoffir rhieni hefyd bod angen cadw pellter
cymdeithasol yn ystod amseroedd gollwng a chasglu ac osgoi ymgynnull ar
safleoedd ysgol neu o'u cwmpas.
I gael rhagor o wybodaeth am ailagor ysgolion a
chyfres o gwestiynau ac atebion a allai fod yn ddefnyddiol i chi, ewch i:
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/cwestiynau-cyffredin-i-rieni-a-disgyblion/Pages/default.aspx
I gael gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion
ysgolion uwchradd yn gwisgo masgiau, ewch i https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24611.html
Trefniadau cau ffyrdd ar 'Strydoedd Ysgol' i
hyrwyddo cadw pellter cymdeithasol ac annog teithio llesol
Mae'r Cyngor yn
bwriadu cau ffyrdd fel rhan o gynllun 'Strydoedd Ysgol' i helpu disgyblion a
theuluoedd i gadw pellter cymdeithasol pan fydd ysgolion yn dychwelyd ar gyfer
tymor yr hydref.
Ym mis
Mehefin, cyflwynwyd cau ffyrdd dros dro i greu 'Strydoedd Ysgol' o gwmpas 24 o
ysgolion ledled y ddinas pan ailagorwyd hwy am wythnosau olaf tymor yr haf.
Mae'r strydoedd
mae'r Cyngor wedi dewis eu cau yn cael problemau gyda thraffig a pharcio yn
rheolaidd yn ystod amseroedd gollwng a chasglu plant ysgol. Roedd cau'r
strydoedd hyn i draffig cyffredinol yn cynorthwyo plant a theuluoedd i gadw
pellter cymdeithasol wrth gyrraedd a gadael yr ysgol.
Yn dilyn adborth
cadarnhaol gan ysgolion, disgyblion, rhieni a thrigolion lleol, mae'r Cyngor yn
bwriadu cyflwyno nifer o 'Strydoedd Ysgol' o ddydd Llun 14 Medi.
Darllenwch
fwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24633.html
Newidiadau i’ch Canolfannau Ailgylchu
· Bellach mae’n bosib archebu 26 ymweliad y flwyddyn â’ch canolfannau
ailgylchu lleol, yn lle 12
·
Gall 2 berson bellach adael y cerbyd i helpu i symud eitemau trymach, felly
does dim rhaid archebu casgliad swmpus oni bai bod gwir angen.
·
Ein cyngor erbyn hyn yw eich bod yn gwisgo gorchudd wyneb
·
Peidiwch ag ymweld â'r canolfannau ailgylchu os oes gennych unrhyw
symptomau COVID19
Nid ydym yn derbyn bagiau o
wastraff cymysg. Er enghraifft, ni fyddwn yn derbyn bag sy'n cynnwys bwyd
wedi'i gymysgu â deunyddiau ailgylchadwy.
Os oes gennych y math hwn o wastraff i'w waredu gallwch dalu am ein gwasanaeth, neu
ddefnyddio contractwr gwastraff preifat. Bydd angen i chi sicrhau ei fod yngludwr gwastraff cofrestredig.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newyddDolen allanol yn agor mewn
ffenest newydd.
Gwastraff
na ellir ei ailgylchu
Os oes gennych eitemau na allwn eu hailgylchu gallwch ddod â nhw i'r
safle.
Cyn eu rhoi yn y sgip
bydd angen i wasanaethwyr y safle gadarnhau nad oes modd ailgylchu eich
eitemau. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio bagiau clir neu gynhwysydd i
helpu gyda'r broses hon. Os oes angen i chi ddefnyddio bagiau i gludo'r
eitemau, bydd angen i chi eu hagor i ddangos i'n staff. Ni chewch ddefnyddio
bagiau gwyrdd y Cyngor.
Treuliwch ennyd yn darllen canllawiau ein
canolfannau ailgylchu a bwcio slot yma: www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu
Mae'r holl ardaloedd chwarae yng Nghaerdydd sydd
wedi pasio archwiliadau diogelwch bellach wedi ailagor
Mae 3 ardal chwarae arall i blant wedi ailagor -
ger y Morglawdd (Bae Caerdydd), Heol Llanisien Fach (Rhiwbeina) a Rhydypenau
(Cyncoed).
Mae'r holl ardaloedd chwarae sydd wedi pasio
archwiliadau diogelwch bellach wedi ailagor.
Rhagor yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24657.html