Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli

25/08/20 – Cynydd yn nifer yr achosion Covid-19 yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Bu cynnydd yn y dyddiau diwethaf yn nifer gyfartalog yr achosion positif o COVID-19 yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, gyda chynnydd amlwg yng Nghaerdydd ei hun.

Y gyfradd heintio bresennol ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg yw 10.8 fesul 100,000.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24593.html

 

25/08/20 - Rydyn ni eisiau clywed eich barn am barcio beiciau yng Nghaerdydd

Gyda mwy o bobl yn dewis beicio yng Nghaerdydd, mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad ar barcio beiciau yng nghanol y ddinas, i fanteisio ar y ddarpariaeth bresennol yn ogystal â nodi lleoliadau newydd i bobl gloi eu beic yn ddiogel.

 

Er mwyn cynorthwyo'r Cyngor yn yr adolygiad hwn, lluniwyd arolwg byr fel y gall y cyhoedd ddweud eu barn -  https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=159653507755

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24623.html

 

26/08/20 - Dal yma i helpu

Mae Cyngor Caerdydd yn atgoffa trigolion bod gwasanaethau i helpu a chefnogi aelwydydd sydd eu hangen yn dal i fod ar waith yn y ddinas.

 

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24603.html

  

26/08/20 - Salsa Buena Caerdydd yn dod â'i ddosbarthiadau dawns bywiog i gyrtiau awyr agored dros dro Parc Bute

Oherwydd Covid-19, mae Salsa Buena wedi rhoi'r gorau i'w ddosbarthiadau dawns arferol ar hyn o bryd ac wedi troi at ddawnsio yn yr awyr agored yng nghyrtiau awyr agored dros dro Parc Bute ger ystafelloedd newid y Gored Ddu.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24607.html

 

27/08/20 - Dylai holl staff a disgyblion ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb

Mae Cyngor Caerdydd yn argymell yn gryf bod holl staff a disgyblion ysgolion uwchradd y brif ffrwd yn gwisgo gorchuddion wyneb wrth symud trwy goridorau a mannau cymunedol megis lifftiau, grisiau a thoiledau ac mewn sefyllfaoedd lle na ellir cadw pellter Cymdeithasol.

 

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24611.html