Gyda mwy o bobl yn dewis beicio yng Nghaerdydd, mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad ar barcio beiciau yng nghanol y ddinas, i fanteisio ar y ddarpariaeth bresennol yn ogystal â nodi lleoliadau newydd i bobl gloi eu beic yn ddiogel.
Er mwyn cynorthwyo'r Cyngor yn yr adolygiad hwn, lluniwyd arolwg byr fel y gall y cyhoedd ddweud eu barn - https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=159653507755
Yn gynharach eleni, cyflwynodd y Cyngor ei weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yn y ddinas drwy'r Papur Gwyn ar Drafnidiaeth. Rhan allweddol o'r weledigaeth hon yw gwella'r seilwaith ar gyfer beicio a cherdded.
Yn ogystal â darparu llwybrau diogel i feicwyr deithio, rhaid darparu digon o le i barcio beiciau er mwyn gwneud i feicwyr deimlo’n hyderus y gallant barcio eu beiciau’n ddiogel pan fyddant yn cyrraedd pen eu taith.
Bydd yr holl adborth a dderbynnir drwy'r arolwg yn cael ei asesu a bydd yn llywio'r adolygiad a gynhelir.
I lenwi'r arolwg, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=159653507755