Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd yn cynnwys: Croeso i'r diweddariad diwethaf gan Gyngor Caerdydd yr wythnos hon, gan gynnwys: atgoffa trigolion ac ymwelwyr i gadw pellter cymdeithasol y penwythnos hwn, newyddion am brotest arfaethedig gan Gwrthryfel Difodiant, safbwynt y Cyngor ar orchuddion wyneb mewn ysgolion, trefniadau casglu gwastraff gŵyl banc a newidiadau i gasgliadau eitemau swmpus yn ogystal â manylion am y cymorth parhaus y mae'r Cyngor yn ei ddarparu i bobl sy'n cysgodi.
Mwynhewch Ŵyl y Banc yn ddiogel y penwythnos hwn
Gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod COVID-19 ar gynnydd yng Nghaerdydd, gofynnir i breswylwyr ac ymwelwyr ofalu a chadw at ofynion cadw pellter cymdeithasol wrth iddynt fwynhau penwythnos gŵyl y banc fis Awst.
Y gyfradd heintio bresennol ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg yw 10.8 fesul 100,000.
Er y disgwylir amrywiadau dyddiol yn y ffigurau, mae nifer yr achosion newydd yng Nghaerdydd, dros y 7 diwrnod diwethaf, wedi codi i 13.9 fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Mae'r cynnydd hwn wedi gweld niferoedd yr achosion lleol yn symud o fod yn sylweddol is na'r cyfartaledd yn Lloegr i fod yn uwch na'r cyfartaledd (y cyfartaledd yn Lloegr yw 11.9 fesul 100,000 o bobl ar 18 Awst).
O fewn hyn, mae cyfradd y profion sy'n cael canlyniad positif hefyd wedi cynyddu, o 0.3% ar ddechrau mis Awst i 2.3% dros y 7 diwrnod diwethaf.
Mae'r ffigurau diweddaraf, a rennir gan bartneriaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro, hefyd yn dangos cynnydd yn nifer yr achosion ymhlith oedolion yn eu 20au a'u 30au.
Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24593.html
Protestiadau Gwrthryfwel Difodiant
Mae'r Cyngor wedi cael gwybod fod Gwrthryfel Difodiant yn bwriadu cynnal protestiadau yng Nghaerdydd o heddiw, Awst 28, hyd at Ddydd Sadwrn, Medi 5.
Mae'r Cyngor yn amlwg yn pryderu am risg trosglwyddo'r feirws, yn enwedig ar adeg pan fo cyfraddau heintio'n cynyddu ledled y Deyrnas Gyfunol. Rydym hefyd yn pryderu bod y protestiadau'n digwydd wrth i ysgolion baratoi i ailagor yn y ddinas. Dyna pam y gofynon ni i Gwrthryfel Difodiant ailystyried eu cynlluniau protest.
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi datganiad ar y protestiadau arfaethedig hyn y gellir eu darllen yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24613.html
Dylai holl staff a disgyblion ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb
Mae Cyngor Caerdydd yn argymell yn gryf bod holl staff a disgyblion ysgolion uwchradd y brif ffrwd yn gwisgo gorchuddion wyneb wrth symud trwy goridorau a mannau cymunedol megis lifftiau, grisiau a thoiledau ac mewn sefyllfaoedd lle na ellir cadw pellter cymdeithasol.
Er mwyn helpu ysgolion i ddilyn y canllawiau, bydd y Cyngor yn cyflenwi dau fasg amldro i bob disgybl ac aelod o staff ysgol uwchradd pan fo'r tymor yn dechrau ym mis Medi.
Yn ogystal bydd yn rhaid i ddisgyblion ysgolion uwchradd wisgo masgiau wyneb wrth ddefnyddio bysus ysgol prif ffrwd a thrafnidiaeth gyhoeddus i deithio i'r ysgol ac yn ôl.
Mae'r canllawiau newydd yn cyd-fynd â'r cyngor diweddar gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwisgo gorchuddion wyneb yn yr ysgol ac, fel rhan o asesiad risg. Mae'n un o gyfres o fesurau a gynlluniwyd i helpu i atal lledaeniad COVID-19
Darllenwch fwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24611.html
Dydd Llun Gŵyl y Banc Mis Awst - Dim Newid i Ddyddiadau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd eich diwrnod casglu yn aros yr un fath dros dydd Llun Gŵyl y Banc mis Awst eleni, ond mae'n bosibl y bydd amseroedd y casgliad yn newid felly gofalwch eich bod yn rhoi eich gwastraff allan erbyn 6am.
Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff ar waith ddydd Llun 31 Awst ac ni fydd unrhyw newid i ddyddiadau casglu am weddill yr wythnos.
Bydd ein tîm casglu gwastraff yn gweithio drwy gydol gŵyl y banc i sicrhau bod y gwasanaeth casglu yn parhau'n effeithiol.
Os nad ydych yn siŵr os oes modd rhoi eitem benodol yn eich bag ailgylchu gwyrdd, darllenwch ein canllawAilgylchu A-Y.
Mae'r Cyngor yma o hyd i helpu
Mae Cyngor Caerdydd yn atgoffa trigolion bod gwasanaethau i helpu a chefnogi aelwydydd sydd eu hangen yn dal i fod ar waith yn y ddinas.
Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un sydd angen help i gael gafael ar fwyd, casglu presgripsiynau, cyngor ariannol, cymorth gwaith a mwy, i gysylltu â'r Llinell Gymorth ar 029 2087 1071 i drafod pa gymorth sydd ar gael.
Drwy gydol argyfwng COVID-19, rhoddodd y Cyngor amrywiaeth o gymorth i drigolion a oedd yn hunan-warchod, yn hunan-ynysu neu'n ei chael yn anodd prynu hanfodion oherwydd effaith y pandemig. Mae'r Cyngor wedi helpu i gydlynu cynllun parseli bwyd Llywodraeth Cymru ac mae wedi darparu cyfanswm o tua 6,000 o barseli bwyd yn uniongyrchol i'r rhai mewn angen.
Yn dilyn rhewi'r trefniadau amddiffyn ar 16 Awst, mae cynllun parseli bwyd Llywodraeth Cymru wedi dod i ben, ond mae'r Cyngor yn deall y gallai fod angen cymorth parhaus ar lawer o bobl er gwaethaf lleddfu'r mesurau.
Mae'r awdurdod wedi ysgrifennu at tua 12,500 o bobl yn y ddinas i roi gwybod am y cymorth sydd ar gael ac mae hefyd yn galw ar y 1,400 o aelwydydd sy'n hunan-warchod a oedd gynt yn derbyn parseli bwyd.
Darllenwch fwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24603.html
Mae eich Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus yn newid
Cyn bo hir, byddwch yn gallu archebu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus ar-lein a thrwy App Cardiff Gov yn ogystal â dros y ffôn, gan helpu i wneud y broses archebu'n haws ei defnyddio.
Bydd preswylwyr yn gallu dechrau defnyddio'r gwasanaeth archebu hwn ryw ben yn ystod yr wythnosau nesaf a chyhoeddir y dyddiad lansio cyn bo hir.
Rydyn ni'n casglu nifer o eitemau am ddim.
Codir tâl ar rai eitemau, sef £12.50 am 2 eitem.
Mae'r eitemau rydyn ni'n eu casglu am ddim yn dibynnu ar y deunydd, a oes marchnad ailgylchu ar gyfer y deunydd, ac ansawdd yr eitemau sy'n cael eu casglu.
O 26 Awst:
Deunyddiau y byddwn yn eu casglu am ddim
✔️Offer trydanol mawr
✔️Eitemau metel
✔️Plastigau Caled
✔️Fframiau a ffenestri UPVC
✔️Matresi sbring
✔️Nwyddau gwyn
Deunyddiau y bydd yn rhaid talu am eu casglu
✔️Eitemau wedi eu gwneud o gyfuniad o ddeunyddiau megis cwpwrdd pren gyda drysau gwydr
✔️Eitemau wedi eu gwneud o bren, MDF neu lamined
✔️Eitemau ceramig, teils neu garreg
✔️Carpedi
✔️Gwaelod gwelyau difán
✔️Matresi sbwng cof
✔️Soffas a chadeiriau breichiau
Sylwer, gallwch barhau i ddod â'r holl eitemau hyn i'n canolfannau ailgylchu yn rhad ac am ddim.
Mae rhagor o wybodaeth yma:www.caerdydd.gov.uk/casgliadauswmpus