Back
Dal yma i helpu


 26/8/20

Mae Cyngor Caerdydd yn atgoffa trigolion bod gwasanaethau i helpu a chefnogi aelwydydd sydd eu hangen yn dal i fod ar waith yn y ddinas.

 

Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un sydd angen help i gael gafael ar fwyd, casglu presgripsiynau, cyngor ariannol, cymorth gwaith a mwy, i gysylltu â'r Llinell Gymorth ar 029 2087 1071 i drafod pa gymorth sydd ar gael.

 

Drwy gydol argyfwng COVID-19, rhoddodd y Cyngor amrywiaeth o gymorth i drigolion a oedd yn hunan-warchod, yn hunan-ynysu neu'n ei chael yn anodd prynu hanfodion oherwydd effaith y pandemig. Mae'r Cyngor wedi helpu i gydlynu cynllun parseli bwyd Llywodraeth Cymru ac mae wedi darparu cyfanswm o tua 6,000 o barseli bwyd yn uniongyrchol i'r rhai mewn angen.

 

Yn dilyn rhewi'r trefniadau amddiffyn ar 16 Awst, mae cynllun parseli bwyd Llywodraeth Cymru wedi dod i ben, ond mae'r Cyngor yn deall y gallai fod angen cymorth parhaus ar lawer o bobl er gwaethaf lleddfu'r mesurau.

 

Mae'r awdurdod wedi ysgrifennu at tua 12,500 o bobl yn y ddinas i roi gwybod am y cymorth sydd ar gael ac mae hefyd yn galw ar y 1,400 o aelwydydd sy'n hunan-warchod a oedd gynt yn derbyn parseli bwyd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rwy'n falch iawn o ymateb y Cyngor i helpu pobl mewn angen yn ystod yr argyfwng iechyd. Roedd ein gwasanaeth bwyd, gyda chefnogaeth ryfeddol ein gwirfoddolwyr Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd, yn achubiaeth wirioneddol i filoedd o bobl.

 

"Mae'r galw am y gwasanaeth hwnnw wedi gostwng yn ddiweddar wrth i'r cyfyngiadau godi ac mae wedi bod yn haws i bobl gael mynediad at ddarpariaethau eu hunain. Fodd bynnag, gwyddom y gallai llawer o bobl, yn enwedig y rhai a oedd yn hunan-warchod efallai, boeni o hyd am y risg o glefyd y coronafeirws tra bod angen i eraill hunanynysu o hyd. Mae'n bwysig bod trigolion yn gwybod bod cymorth ar gael o hyd.

 

"Drwy gysylltu â'n Llinell Gyngor, gallwn gyfeirio unrhyw un sydd angen help at wasanaethau neu sefydliadau a all gynnig cymorth. Bydd grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwn."

 

Daeth dros fil o wirfoddolwyr ymlaen ar ddechrau'r pandemig i gofrestru gyda chynllun broceriaeth gwirfoddoli'r cyngor, Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd, i gefnogi pobl mewn angen ar draws y ddinas. Roedd gwirfoddolwyr yn gweithio'n lleol gan gynorthwyo pobl yn eu cymunedau eu hunain, yn ogystal ag ochr yn ochr â gwasanaethau'r Cyngor, gan ddarparu bwyd a hanfodion.

 

Er nad yw llawer o wirfoddolwyr ar gael mwyach, mae'r Cyngor yn dal yn awyddus i glywed gan unrhyw un sy'n teimlo y gall helpu pobl yn y ddinas gyda chymorth parhaus fel siopa, casglu meddyginiaethau neu fod yn gyfaill. Gall gwirfoddolwyr gofrestru arwww.gwirfoddolicaerdydd.co.ukneu ffoniwch y Llinell Gyngor ar 029 2087 1071. Gall preswylwyr sy'n chwilio am gymorth hefyd fynd iwww.gwirfoddolicaerdydd.co.uki ddod o hyd i wybodaeth am grwpiau lleol a all helpu.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Gwyddom y gallai anghenion pobl fod wedi newid ers brig yr argyfwng. Mae ein timau I Mewn i Waith a Chyngor Ariannol wedi gweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau gan fod effaith y pandemig yn cael ei theimlo ar sefyllfaoedd cyflogaeth ac ariannol pobl. Rydym yma o hyd i helpu ac rydym yn annog unrhyw un sy'n ei chael yn anodd i gysylltu cyn gynted â phosibl - peidiwch â'i adael yn rhy hwyr."

 

Mae'r Llinell Gyngor yn parhau i fod ar agor chwe diwrnod yr wythnos a gellir ymdrin â llawer o ymholiadau dros y ffôn heb fod angen ymweld â chanolfan. Ar gyfer ymholiadau y mae angen cymorth wyneb yn wyneb arnynt, mae pymtheg o ganolfannau a llyfrgelloedd y ddinas bellach ar agor ar sail apwyntiad yn unig i gefnogi preswylwyr gydag amrywiaeth o faterion megis cymorth i mewn i waith, cymorth gyda budd-daliadau, ymholiadau tai, cyngor ar arian a dyledion a mwy.

 

Mae gan y wefan cyngor ariannol newydd lawer o wybodaeth ddefnyddiol hefyd am reoli arian, cyllidebu, cyngor ar ddyledion a mwy. Ewch iwww.cyngorariannolcaerdydd.co.uk