Back
Mae Gofal Maeth Caerdydd yn falch o gefnogi Wythnos Fawr Ar-lein Pride Cymru 2020

 

Mae Gofal Maeth Caerdydd yn noddi Wythnos Fawr Ar-lein Pride Cymru 2020 (24-30 Awst) gyda'r digwyddiad eleni yn canolbwyntio ar y thema 'Eich Balchder'.

Oherwydd canllawiau Covid-19 y Llywodraeth ni fydd Pride Cymru yn cael ei gynnal fel arfer ond bydd yn parhau i ddathlu amrywiaeth drwy gyfres o ddigwyddiadau a sesiynau cydweithio ar-lein i godi ymwybyddiaeth o bynciau sy'n effeithio ar bobl LHDT+ ledled Cymru. Ewch i  Pride Cymru  <https://www.pridecymru.com/>am ragor o wybodaeth.

Fel gwasanaeth maethu cwbl gynhwysol, mae Gofal Maeth Caerdydd yn falch o gefnogi'r digwyddiad a bydd yn manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at yr angen i ofalwyr maeth mwy amrywiol ymuno â ni a helpu i ofalu am blant a phobl ifanc y ddinas.

Er mwyn helpu i ledaenu'r neges, cofiwch rannu ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol o sianelau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a Pride Cymru yn ystod yr wythnos.

Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod yn ystyried maethu, ewch i  Gofal Maeth Caerdydd  am fwy o wybodaeth.