Back
Pedair ardal chwarae ychwanegol i ailagor ddydd Sadwrn

21/8/20 

Bydd pedair ardal chwarae i blant ychwanegol yng Nghaerdydd yn ailagor o 12pm ddydd Sadwrn 22 Awst, sy'n golygu bod 104 o ardaloedd chwarae bellach ar agor eto.

Mae'r ardaloedd chwarae wedi eu hailagor yn raddol, gan ddilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.

Y pedair a fydd ar agor o 12pm ddydd Sadwrn 22 Awst yw:

  • Glenwood - Pentwyn
  • Lascelles Drive - Pontprennau a Llaneirwg
  • Coleford Drive - Trowbridge
  • Heol Booker - Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth iechyd a diogelwch, cynhaliwyd asesiad risg Covid-19 ar bob safle ac mae arwynebau'r offer a'r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd ardal chwarae cymwys, cyn eu hail-agor.

Gwnaed newidiadau i rai ardaloedd chwarae er mwyn helpu i gadw pellter cymdeithasol a lleihau'r risg o drosglwyddo COVID-19. Er enghraifft, mae rhai seddi siglenni wedi eu tynnu er mwyn sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal.

Er mwyn helpu i sicrhau diogelwch, mae arwyddion newydd wedi eu gosod ar y safleoedd hefyd, yn gofyn i deuluoedd sy'n eu defnyddio:

  • olchi neu ddiheintio eu dwylo, cyn, ar ôl ac wrth ddefnyddio'r offer;
  • dilyn gofynion cadw pellter cymdeithasol;
  • cyfyngu eu hymweliad i 30 munud yn ystod adegau prysur;
  • bod ag uchafswm o un oedolyn fesul plentyn yn yr ardal chwarae.

Y 100 ardal chwarae sydd eisoes ar agor yw:

Gofod agored Adamscroft(Adamsdown);Sgwâr Adamsdown(Adamsdown); Parc y Bragdy(Adamsdown); Rhodfa Belmont (Butetown); Parc Britannia(Butetown);Parc Camlas(Butetown); Rhodfa Craiglee(Butetown); Parc Hamadryad(Butetown);Sgwâr Hodges(Butetown); Sgwâr Loudon(Butetown); Ffordd y Sgwner - Plant Iau(Butetown); Ffordd y Sgwner - Plant Bach(Butetown); Esplanâd Windsor(Butetown);Clos Emblem(Caerau);Clos Emerson(Caerau);Heol Homfrey(Caerau); Parc Trelái(Caerau);Parc Treseder(Caerau);Parc Jiwbilî(Treganna); Sanatorium Road - Plant Bach(Tregannau); Parc Fictoria - Plant Bach(Treganna); Parc Fictoria - Plant Iau(Treganna); Llwybr Chwarae Parc Bute(Cathays); Gerddi Cogan(Cathays); Parc Maindy(Cathays); Ardal Chwarae Creigiau(Creigiau a Sain Ffagan); Rhydlarfer(Creigiau a Sain Ffagan); Parc y Rhath(Cyncoed); Heol Green Farm(Trelái); Heol Wilson - Plant Bach(Trelái); Heol Wilson - Plant Iau(Trelái); Beechley Road(Y Tyllgoed); Clos Chorley(Y Tyllgoed); Parc y Tyllgoed(Y Tyllgoed); Rosedale(Y Tyllgoed); Cilgant Whitland(Y Tyllgoed); Parc Maitland(Gabalfa); Maitland Road - ardal ystwytho(Gabalfa); Parc Sevenoaks(Grangetown); Y Marl - Plant Bach(Grangetown); Y Marl - Plant Iau(Grangetown); Parc y Mynydd Bychan(Y Mynydd Bychan); Heol y Delyn(Llys-faen); Rhodfa Mill Heath(Llys-faen); Rhodfa Matthew(Llandaf); Parc Hailey - Plant Iau(Ystum Taf); Parc Hailey - Plant Iau(Ystum Taf); Bryn Glas - Plant Iau(Llanisien); Bryn Glas - Plant Bach(Llanisien); Heol y Barcud(Llanisien); Parc Llanisien(Llanisien); Ardal Hamdden Parkland/Draenen Pen-y-graig(Llanisien); Cilgant St Martin - Plant Iau(Llanisien); Sgwâr Watkin(Llanisien); Ardal Hamdden Tredelerch(Llanrhymni); Heol Sedgemoor(Llanrhymni); Coed y Gores(Pentwyn); Chapelwood(Pentwyn); Parc Coed y Nant(Pentwyn); Waun Fach(Pentwyn); Garth Newydd(Pentyrch); Garth Olwg(Pentyrch); Heol Penuel(Pentyrch); Gerddi Cyncoed(Pen-y-lan); Heol Hammond(Pen-y-lan); Sovereign Chasie(Pen-y-lan); Gerddi Shelley(Plasnewydd); Ardal Hamdden y Rhath(Plasnewydd); Parc Butterfield(Pontprennau a Llaneirwg); Crawford Drive(Pontprennau a Llaneirwg); Parc Peppermint(Pontprennau a Llaneirwg); Fferm y Cwm - Plant Iau(Radur); Fferm y Cwm - Plant Bach(Radur); Fisherhill Way(Radur / Pentre-poeth); Gerddi Dispenser - Plant Iau(Glan-yr-afon); Gerddi Dispenser - Plant Bach(Glan-yr-afon); Gerddi Kitchener(Glan-yr-afon); Caeau Llandaf - Plant Iau(Glan-yr-afon); Caeau Llandaf - Plant Bach(Glan-yr-afon); Stryd Wyndham(Glan-yr-afon); Heol Greenway(Tredelerch); Gerddi Catherine(Tredelerch)Sgwâr Beaufort(Sblot); Clos Horwood(Sblot); Gerddi Llyfrgell Moorland(Sblot); Heol Runway(Sblot); Parc Sblot(Sblot); Parc Tremorfa(Sblot); Clos Wilkinson(Sblot); Cemaes Crescent - Plant Bach(Trowbridge); Cemaes Crescent - Plant Iau(Trowbridge); Heol Maes Eirwg(Trowbridge); Parc Treftadaeth(Trowbridge);Hollybush(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais); Ironbridge Road(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais); Gerddi Llyfrgell yr Eglwys Newydd - Plant Bach(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais); Gerddi Llyfrgell yr Eglwys Newydd - Plant Iau(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais).

Caiff mwy o safleoedd eu hailagor yn yr wythnosau nesaf. Dilynwch ni ar Twitter @cyngorcaerdydd neu ar Facebook @cardiff.council1 i gael diweddariadau.