Back
Ailagor Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

18/08/20

Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn ailagor i ymwelwyr sy'n archebu ymweliadau ymlaen llaw o yfory, Awst 19, ar ôl cwblhau gwiriadau trylwyr a rhoi mesurau ar waith i sicrhau iechyd a diogelwch cwsmeriaid. 

Er mwyn helpu gyda chadw pellter cymdeithasol, mae system unffordd wedi'i chreu, arwyddion wedi eu harddangos, a phedair pabell wedi'u gosod i'w defnyddio fel ystafelloedd newid dros dro, gydag ystafelloedd newid y prif adeilad ar gau am y tro.

Mae pob cwch yn cael ei lanhau a'i sterileiddio'n rheolaidd ar ôl pob defnydd. Yn ogystal â'i lanhau, mae'r switiau gwlyb a'r cymhorthion hynofedd a ddarperir yn cael eu rhoi mewn cwarantin ar ôl pob defnydd.

Cynigir diheintydd dwylo o amgylch y cyfleuster, ac ar ddechrau ac ar ddiwedd y sesiwn. Caiff ymwelwyr eu hannog hefyd i ddod â'u rhai eu hunain.

Er mwyn cydymffurfio â gofynion presennol COVID-19 Llywodraeth Cymru, mae'r niferoedd a all fynd i Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd wedi eu gostwng, unwaith eto er mwyn cadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'n braf gweld gweithgareddau'n dychwelyd i Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, un o'n hatyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd. Diolch i waith caled ac ymdrechion yr holl staff sy'n berthnasol, gall ymwelwyr deimlo'n hyderus bod eu hiechyd a'u diogelwch yn brif flaenoriaeth, fel y gallant fwynhau'r profiad yn llawn."

Ar hyn o bryd, nid yw syrffio dan do Flowrider ar gael, oherwydd y risgiau sy'n gysylltiedig â chylchrediad yr aer, y tarth a'r ewyn. Oherwydd y nifer o bwyntiau cyswllt, nid yw rhaffau uchel yr Antur Awyr ar gael ar hyn o bryd ychwaith.

Gofynnir i gwsmeriaid gyrraedd yn 'barod i badlo' (h.y. dillad nofio wedi'u gwisgo o dan ddillad), fel y gallant newid yn gyflym ac yn hawdd i'r siwtiau gwlyb a ddarperir.

Dim ond i'r cwsmeriaid hynny sydd wedi archebu ymlaen llaw y mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ar gael. Am ragor o fanylion, ewch i:

https://www.dgrhc.com/