Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 14 Awst

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd yn cynnwys:  Caeau Llandaf ymhlith y mannau chwarae diweddaraf i'w hailagor, gan ddod â'r cyfanswm sydd ar agor i 100; cymeradwyo cyllid ar gyfer cam cyntaf Rhwydwaith Gwresogi Ardal Caerdydd; canlyniadau arholiadau Safon Uwch Caerdydd eleni; Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd yn datblygu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu newydd cyffrous; a'r band samba lleol 'Barracwda' yn ail-sefydlu ei grŵp cymunedol yn y cyrtiau awyr agored dros dro ym Mharc Bute.

 

Caeau Llandaf ymhlith yr ardaloedd chwarae diweddaraf i ailagor y penwythnos hwn

Mae naw ardal chwarae arall i blant yng Nghaerdydd, gan gynnwys y cyfleusterau poblogaidd yng Nghaeau Llandaf, i'w hailagor ganol dydd y Sadwrn yma. Ar ôl eu hagor, bydd yn dod â chyfanswm y mannau chwarae sydd ar gael i'w defnyddio yng Nghaerdydd i 100.

Bydd cyfanswm o naw ardal chwarae yn ailagor o 12pm ddydd Sadwrn (15 Awst). Dyma nhw:

  • Parc Llanisien, Llanisien
  • Parkland (Cae Rec y Ddraenen), Llanisien
  • Gerddi Catherine, Tredelerch
  • Heol Runway, y Sblot
  • Rhodfa Crawford, Pontprennau a Llaneirwg
  • Gerddi Kitchener, Glanyrafon
  • Caeau Llandaf - Plant, Glanyrafon
  • Caeau Llandaf - Plant Bach, Glanyrafon
  • Parc Celtig, Yr Eglwys Newydd

 

Mae'r ardaloedd chwarae wedi eu hailagor yn raddol, gan ddilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth iechyd a diogelwch, cynhaliwyd asesiad risg Covid-19 ar bob safle ac mae arwynebau'r offer a'r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd ardal chwarae cymwys, cyn eu hail-agor.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24532.html

 

Cyllid wedi'i gymeradwyo ar gyfer cam cyntaf

Mae rhwydwaith gwresogi ardal newydd gwerth £26.5 miliwn, a fydd yn defnyddio pibellau tanddaearol i gludo gwres o gyfleuster adfer ynni i fusnesau a chartrefi yng Nghaerdydd, wedi sicrhau £15 miliwn i ddechrau cam cyntaf y gwaith.

Bydd Rhwydwaith Gwresogi Dinas Caerdydd yn defnyddio gwres a gynhyrchir yng Nghyfleuster Adfer Ynni Viridor ym Mharc Trident, sy'n dargyfeiriotua 350,000 o dunelli o wastraff na ellir ei ailgylchu o safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. Mae'r gwaith yn cynhyrchu digon o drydan i bweru tua 68,448 o aelwydydd.

Ni fydd adeiladau sy'n cysylltu â'r rhwydwaith angen defnyddio nwy i wresogi eu heiddo mwyach, gan leihau biliau ac allyriadau carbon y ddinas.

Mae'r project newydd - y cyntaf o'i fath yng Nghymru - wedi cael cymorth drwy fenthyciad o £8.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru a grant o £6 miliwn gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael: "Dyma gyfle cyffrous i Gaerdydd ddatblygu seilwaith ynni carbon-isel newydd, a gyflenwir gan gyfleusterau presennol yn y ddinas. Mae'r Rhwydwaith Gwres yn un o brojectau allweddol y Cyngor yn ein hymateb i newid yn yr hinsawdd, felly mae hwn yn newyddion cyffrous iawn.

"Yn ôl dadansoddiad, os yw'r holl wres sydd ar gael o'r peiriannau'n cael ei ddefnyddio'n llawn, gallem arbed 5,600 tunnell o garbon bob blwyddyn a gallai'r cwsmeriaid a oedd wedi ymuno â'r rhwydwaith leihau eu biliau ynni blynyddol bump y cant ar gyfartaledd, tra'n lleihau allyriadau carbon eu system wresogi hyd at 80%."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24526.html

 

Canlyniadau Safon Uwch Caerdydd 2020

Mae disgyblion ar draws Caerdydd wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch heddiw, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu cyflwyno ar ffurf rithwir oherwydd COVID-19. 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Hoffwn longyfarch holl fyfyrwyr Caerdydd sydd wedi cael eu canlyniadau Safon Uwch heddiw, yn dilyn ychydig fisoedd anghyffredin iawn i bobl ifanc ledled y ddinas.

"Mae ysgolion, rheoleiddwyr a byrddau arholi wedi gweithio'n ddiwyd i sicrhau y bydd eu canlyniadau'n cael eu hystyried yr un mor arwyddocaol â rhai'r blynyddoedd a fu. Bydd cohort Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 eleni'n cael eu cydnabod am lwyddo yn wyneb cyfres eithriadol o heriau a achoswyd gan y pandemig, a nawr gallant ddathlu eu dyfalbarhad a'u gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf.

"Rwyf wedi mwynhau clywed am gynifer o lwyddiannau o bob cwr o'r ddinas a boed ein myfyrwyr yn symud yn eu blaen i'r brifysgol, i swyddi neu i hyfforddiant, hoffwn ddymuno pob lwc iddynt wrth iddynt ddechrau ar bennod newydd yn eu bywydau."

O ystyried y penderfyniad i ganslo arholiadau'r haf hwn o ganlyniad i'r pandemig, mae CBAC wedi datblygu proses sy'n caniatáu i raddau gael eu seilio ar Raddau Asesiad Canolfan a Threfnau Rhestrol sydd wedi eu cyflwyno gan athrawon/darlithwyr.

Yn dilyn ymgynghoriad â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg a gynhaliwyd gan Cymwysterau Cymru, mae CBAC wedi datblygu dau fodel safoni ystadegol, sydd wedi eu cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, a gaiff eu cymhwyso fel rhan o'r broses cyhoeddi graddau ar gyfer cyfres arholiadau haf 2020.

Mae proses apelio benodol ar gyfer cyfres arholiadau haf 2020 wedi'i datblygu hefyd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24528.html

 

Dysgu Am Oes Ar-lein

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd wedi datblygu ystod o gyfleoedd dysgu newydd a chyffrous, gyda'r cyrsiau yn dechrau'r mis nesaf.

Mae llyfryn cyrsiau Dysgu Am Oes bellach ar gael ar-lein ac mae'r cyfnod cofrestru ar gyfer nifer o gyrsiau ar-lein gan gynnwys celf, crefftau, garddio, TGCh, ieithoedd a mwy ar agor, gyda rhagor o ddosbarthiadau i'w hychwanegu yn yr wythnosau nesaf.

Mae'r gwasanaeth wedi addasu i gynnig dysgu ar-lein yng ngoleuni'r mesurau iechyd cyfredol ac mae'n annog dysgwyr i gofrestru i ddysgu trwy ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain o'u cartrefi. Bydd dosbarthiadau'n cael eu cyflwyno trwy Google Classrooms a Microsoft Teams.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Bydd tymor hydref Dysgu Am Oes eleni ychydig yn wahanol oherwydd yr amgylchiadau presennol ond gyda chymorth technoleg, gallwn barhau i gynnig cyrsiau diddorol a hwyliog i ddysgwyr a, gobeithio, ehangu'r gallu i fanteisio ar ein cyfleoedd dysgu.

"Mae mwy a mwy o bobl wedi dod yn gyfarwydd â defnyddio eu dyfeisiau a'u llwyfannau ar-lein i gysylltu â'u teuluoedd neu at ddibenion gwaith, ac rydym yn falch iawn o fod wedi gallu datblygu amrywiaeth o gyrsiau diddorol y bydd ein tiwtoriaid arbenigol yn eu cyflwyno ar-lein i ddysgwyr."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24530.html

 

Y band samba lleol ‘Barracwda' yn ail-sefydlu eu grwp cymunedol yng nghyrtiau awyr agored dros dro Parc Bute

Mae'r band taro ‘Barracwda' sy'n chwarae rhythmau Affricanaidd a Brasilaidd wedi dod o hyd i gartref amgen ar gyfer eu hymarfer yn y cyrtiau awyr agored dros dro ym Mharc Bute ger ystafelloedd newid y Gored Ddu.

Mae tua 30 aelod o'r band samba fel arfer yn dod at ei gilydd i gymysgu cerddoriaeth ffync, reggae a Jungle ond nid oeddent yn gallu ymarfer a chymdeithasu dan do yn y cyfnod cloi nac wrth i'r mesurau ymbellhau cymdeithasol fynd rhagddynt.

Cynlluniwyd y saith cwrt gweithgareddau awyr agored fel rhan o gynllun i wneud defnydd o ardaloedd awyr agored nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, gan gynnig lle preifat i weithgareddau grŵp i barhau mewn amgylchedd diogel.

Ers lansio'r cyrtiau'r mis diwethaf maent wedi bod yn ychwanegiad i'w groesawu i Barc Bute ac mae'r tîm yn derbyn archebion ar gyfer unrhyw grwpiau sy'n cael anhawster i ymarfer gweithgareddau fyddai fel arfer yn digwydd dan do.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24520.html