Back
Ailgyflwyno’r Cynnig Gofal Plant


12/08/20

Cyhoeddiad gan y Cynghorydd Graham Hinchey, yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd:

"Ar ddechau'r cyfnod cloi, ymatebodd Llywodraeth Cymru gan roi pwrpas newydd i'r Cynnig Gofal Plant er mwyn cynnig Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws (C-CAS). Er yr oedd taliadau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn dal i gael eu gwneud tan fis Mehefin, cafodd y Cynnig ei ohirio ac nid oedd modd prosesu unrhyw geisiadau newydd.

"Ar 3 Awst 2020, rhoddodd Llywodraeth Cymru wybod i bob Cyngor y byddai'r Cynnig yn ailddechrau'n fuan. 

"Mae hynny'n golygu:

  • Y gall rhieni cymwys â phlant y disgwyliwyd iddynt ddechrau addysg Feithrin y Cyfnod Sylfaen (sy'n ffurfio rhan o'r Cynnig) ynnhymhorau'r gwanwyn neu'r hafwneud cais oddydd Llun 10 Awst, ac y bydd arian ar gyfer yr elfen gofal plant ar gael o ddechrau'r tymor ysgol ar 1 Medi.

"Rydym yn rhagweld y caiff y rhan fwyaf o geisiadau o'r fath eu proses gan Dîm Cynnig Gofal Plant y Cyngor yn brydlon fel y bydd yr arian ar gael ar ddechrau'r tymor. 

  • Gall rhieni cymwys y disgwylir i'w plant ddechrau eu haddysg feithrin y Cyfnod Sylfaen ynnhymor yr hydrefgyflwyno eu ceisiadau o1 Medi.Bydd yr arian ar gael dim ond ar ôl i gais gael ei brosesu a'i gadarnhau'n llawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir nad yw'n bosibl ôl-ddyddio taliadau cyn dyddiad cymeradwyo'r cais. 

"Mae ailddechrau'r cynnig yn newyddion da iawn i lawer o rieni, y bydd llawer ohonynt yn dibynnu ar yr arian hwn i alluogi eu plant i fanteisio ar ofal plant ac i'w galluogi nhw i ddychwelyd i'r gwaith.  

"Bydd ailddechrau'r cynnig yn raddol yn golygu y bydd rhywfaint o oedi i rai rhieni rhwng dyddiad cyflwyno'r cais a dyddiad cymeradwyo'r cais yn derfynol. Y rheswm am hyn yw y bydd angen i Dîm y Cynnig Gofal Plant gwblhau'r holl wiriadau cymhwyster angenrheidiol.  

"Efallai y bydd etholwyr sydd â phlant tymor yr hydref yn dod atoch yn dweud na allant dderbyn eu ‘cyfran' lawn o'r gofal plant a ariennir, gan y gallent golli allan ar arian ar gyfer y cyfnod y mae Tîm y Cynnig Gofal Plant yn prosesu ac yn cymeradwyo eu cais ar ei gyfer. Dan y canllawiau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch ailddechrau'r Cynnig, dywedwyd wrthym na all dyddiad dechrau'r arian fod ynghynt na dyddiad cymeradwyo cais.  Er gwaethaf hyn, bydd Tîm y Cynnig Gofal Plant yn gwneud ei orau glas i brosesu pob cais cyn gynted â phosibl, ar sail y dyddiad derbyn."  

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael mwy o wybodaeth:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Y-blynyddoedd-cynnar-a-gofal-plant/Gofal-Plant-a-Ariennir-gan-y-Llywodraeth/Pages/default.aspx