Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 7 Awst

Dyma ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, yn cynnwys: mesurau diogelwch newydd wedi eu cyflwyno ym Mae Caerdydd; 21 o ardaloedd chwarae ychwanegol ar fin ailagor; Cyflwyno mesurau diogelwch COVID mewn pedair canolfan siopa ardal; Ffitrwydd CF11, y ganolfan hamdden a gynhelir gan y Cyngor yn Nhrem-y-Môr, yn agor ddydd Llun; ac mae Cyngor Caerdydd wedi cyrraedd y brig mewn arolwg boddhad Cymru gyfan.

 

Cofiwch ymddwyn yn gyfrifol wrth ymweld â Bae Caerdydd

Mae gofyn i ymwelwyr sy'n bwriadu dod i Fae Caerdydd i fwynhau'r heulwen y penwythnos hwn ymddwyn yn gyfrifol, dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol a rhoi eu sbwriel mewn biniau gwastraff.

Mae mesurau newydd i alluogi cadw pellter cymdeithasol ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael eu rhoi ar waith ledled y Bae i baratoi ar gyfer yr hyn y disgwylir iddo fod yn benwythnos prysur.

Cyflwynwyd y mesurau yn sgil adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Basn Hirgrwn dros benwythnosau diweddar.

Yn y Basn Hirgrwn ei hun, bydd y Cyngor yn rhoi rhwystrau a biniau ychwanegol yn eu lle. Bydd swyddogion heddlu a stiwardiaid hefyd ar y safle i sicrhau bod pobl yn dilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol a bod yr ardal yn ddiogel i bawb ei mwynhau.

Cafodd Bute Crescent ei gau amser cinio ddydd Gwener, ac mae marsialiaid ar y safle i reoli mynediad. Bydd modd i ymwelwyr a phreswylwyr deithio i lawr Bute Crescent tan 1am ar fore Sadwrn. Yna bydd y ffordd yn ailagor tan amser cinio ddydd Sadwrn, pan fydd yr un trefniadau'n cael eu dilyn, gan gynnwys ddydd Sul.

Dywedodd y Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Rydym yn gofyn i bawb sy'n ymweld â'r Bae y penwythnos hwn i ddod i fwynhau'r ardal, ond cofiwch ymddwyn yn gyfrifol a pheidiwch â difetha'r profiad i eraill trwy ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol.

"Mae gollwng sbwriel wedi bod yn broblem fawr. Yn ddiweddar, bu'n rhaid i ni ddefnyddio staff ychwanegol i glirio 28 tunnell o sbwriel o'r Basn am gost o £4,000 i'r trethdalwr. Pe byddai pobl ond yn defnyddio'r biniau neu'n mynd â'u sbwriel adref gyda nhw pan fydd y biniau'n llawn, ni fyddai'n rhaid i ni wastraffu'r arian hwn yn tacluso ar ôl yr ychydig rai sydd rywsut yn credu ei bod yn iawn i adael eu llanast ar eu hôl.

"Mae'r heddlu a'r Cyngor yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pobl yn gallu eu mwynhau eu hunain wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, ond er mwyn cyflawni hynny mae angen i bawb chwarae eu rhan."

 

Yr ardal chwarae yn Llyn Parc y Rhath ymysg yr 21 o ardaloedd chwarae yng Nghaerdydd sy'n ailagor

Caiff 21 o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd, gan gynnwys y cyfleuster poblogaidd yn Llyn Parc y Rhath, eu hailagor y penwythnos hwn. Bydd agor y cyfleusterau hyn yn golygu bod 90 o safleoedd ledled y ddinas ar gael i'w defnyddio.

Mae'r ardaloedd chwarae yn cael eu hailagor yn raddol, gan ddilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl. Os yw'r siglenni wedi'u symud o ardal chwarae, mae hynny'n golygu nad yw'r ardal wedi ailagor eto a bod y siglenni wedi'u symud er mwyn eu datglymu a'u hailosod, cyn ailagor yr ardal.

Bydd 21 o ardaloedd chwarae yn ailagor o 12pm ddydd Sadwrn (8 Awst). Dyma nhw:

Parc y Bragdy (Adamsdown); Parc y Gamlas (Butetown); Ffordd y Sgwner - Plant Iau (Butetown); Ffordd y Sgwner - Plant Bach (Butetown); Heol Trelai (Caerau); Parc Treseder (Caerau); Parc Fictoria - Plant Bach (Treganna) Parc Fictoria - Plant Iau (Treganna); Ardal chwarae Creigiau (Creigiau a Sain Ffagan); Llyn Parc y Rhath (Cyncoed); Parc y Tyllgoed (Y Tyllgoed); Rosedale (Y Tyllgoed); Matthew Walk (Llandaf); Heol Sedgemoor (Llanrhymni); Roath Rec (Plasnewydd); Parc Peppermint (Pontprennau a Llaneirwg); Gerddi Llyfrgell y Morfa (Sblot); Cemaes Crescent - Plant Bach (Trowbridge); Cemaes Crescent - Plant Iau (Trowbridge); Gerddi Llyfrgell yr Eglwys Newydd - Plant Iau (Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais); Gerddi Llyfrgell yr Eglwys Newydd - Plant Iau (Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais)

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth iechyd a diogelwch, cynhaliwyd asesiad risg Covid-19 ar bob safle ac mae arwynebau'r offer a'r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd ardal chwarae cymwys, cyn eu hail-agor.

Mae newidiadau wedi eu gwneud i helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol a lleihau'r risg o drosglwyddo Covid-19 - er enghraifft, mae seddau rhai siglenni wedi eu symud i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gadw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24496.html

 

Cyflwyno mesurau diogelwch COVID mewn pedair canolfan siopa ardal

Bwriedir dechrau ar y gwaith o addasu pedair o ganolfannau siopa ardal Caerdydd i helpu busnesau i fasnachu'n ddiogel drwy'r pandemig COVID a galluogi ymwelwyr i gadw at reoliadau ymbellhau cymdeithasol.

Bydd cyfnod cyntaf y gwaith yn digwydd ar ddydd Sul, 9 Awst. Bydd yn gweld tri chynllun dros dro yn cael eu gosod gan ddefnyddio bolardiau coch a gwyn er mwyn ehangu palmentydd yn Pontcanna Street, oddi ar Heol y Gadeirlan; yn Stryd Fawr Llandaf; ac wedi'u gosod ar Merthyr Road yn yr Eglwys Newydd.

Caiff cynllun tebyg ei osod wedyn yn Merthyr Road, ger y gyffordd â Hermon Heill yn Nhongwynlais yn gynnar yr wythnos nesaf. Bydd planwyr gyda choed yn cael eu gosod ym mhob un o'r pedwar lleoliad yn ddiweddarach yn y mis. 

Mae'r gwaith hwn yn dilyn cynllun peilot Wellfield Road, lle cafodd palmentydd eu lledu, roedd caffis a bariau'n cael creu mannau estynedig ar gyfer masnachu y tu allan, ac roedd coed newydd wedi cael eu gosod mewn planwyr i wneud yr ardal siopa'n fwy gwyrdd.

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynllunio ail gyfnod o waith ar gyfer pob un o'r pedwar cynllun, a fydd yn cynnwys disodli'r bolardiau coch a gwyn dros dro gyda chyrbau wedi'u bolltio, a gosod tarmac newydd ar yr estyniad palmant.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24494.html
 

 

Canolfan Ffitrwydd CF11 i ail-agor

Bydd  Ffitrwydd CF11,  y ganolfan hamdden a weithredir gan y Cyngor yn Nhrem-y-môr, yn ail-agor o ddydd Llun, 10 Awst. 

Mae mesurau wedi'u rhoi ar waith yn y cyfleuster er mwyn galluogi ymbellhau cymdeithasol priodol a sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae iechyd a lles y preswylwyr yn bwysig iawn, efallai'n fwy nag erioed, felly mae'n newyddion gwych bod y ganolfan yn awr yn barod i groesawu pobl yn ôl gyda mesurau diogelwch newydd Covid-19."

Mae ailagor y cyfleuster hwn yn dilyn y cyhoeddiad y bydd y fenter gymdeithasol GLL, sy'n gweithredu canolfannau hamdden Better yng Nghaerdydd ar ran Cyngor Caerdydd, yn ailagor eu cyfleusterau yn raddol o ddydd Mawrth 11 Awst.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24498.html

 

Cyngor Caerdydd ar frig siart boddhad preswylwyr

Preswylwyr Caerdydd yw'r hapusaf yng Nghymru gyda gwasanaethau eu cyngor, datgelodd arolwg newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg ar raddfa fawr o oedolion ar draws y wlad, sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau fel lles a barn pobl am wasanaethau cyhoeddus.

Yn y flwyddyn adrodd o Ebrill 2019 i Fawrth 2020 canfu'r arolwg mai trigolion Caerdydd oedd y rhai mwyaf bodlon yng Nghymru gyda gwasanaethau a ddarparwyd gan eu cyngor.

Pan ofynnwyd am eu barn ynghylch a yw eu hawdurdod lleol yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, atebodd 58% o breswylwyr a arolygwyd yn y brifddinas eu bod yn cytuno; dywedodd 22% nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno; ac roedd 21% yn anghytuno.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae hyn yn newyddion i'w croesawu ac yn beth da i'w weld. Er gwaethaf y toriadau enfawr i'n cyllideb - gyda bron i chwarter biliwn o bunnau wedi'i arbed dros y 10 mlynedd diwethaf - rydym bob amser wedi bod yn benderfynol o wella perfformiad y Cyngor. Mae'r arolwg annibynnol hwn yn dangos ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, ond ni fyddwn yn gorffwys yma. Rwyf am i breswylwyr wybod nad ydym yn hunanfodlon a'n bod wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cael y gwerth gorau am arian a'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu haeddu."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24500.html