Back
Cyngor Caerdydd ar frig siart boddhad preswylwyr

07/08/20

Preswylwyr Caerdydd yw'r hapusaf yng Nghymru gyda gwasanaethau eu cyngor, datgelodd arolwg newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg ar raddfa fawr o oedolion ar draws y wlad, sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau fel lles a barn pobl am wasanaethau cyhoeddus.

Yn y flwyddyn adrodd o Ebrill 2019 i Fawrth 2020 canfu'r arolwg mai trigolion Caerdydd oedd y rhai mwyaf bodlon yng Nghymru gyda gwasanaethau a ddarparwyd gan eu cyngor.

Pan ofynnwyd am eu barn ynghylch a yw eu hawdurdod lleol yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, atebodd 58% o breswylwyr a arolygwyd yn y brifddinas eu bod yn cytuno; dywedodd 22% nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno; ac roedd 21% yn anghytuno.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae hyn yn newyddion i'w croesawu ac yn beth da i'w weld. Er gwaethaf y toriadau enfawr i'n cyllideb - gyda bron i chwarter biliwn o bunnau wedi'i arbed dros y 10 mlynedd diwethaf - rydym bob amser wedi bod yn benderfynol o wella perfformiad y Cyngor. Mae'r arolwg annibynnol hwn yn dangos ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, ond ni fyddwn yn gorffwys yma. Rwyf am i breswylwyr wybod nad ydym yn hunanfodlon a'n bod wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cael y gwerth gorau am arian a'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu haeddu.

"Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal cyn y cyfnod cloi COVID-19, sydd wir wedi dwyn sylw ein holl feddyliau at bwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus da. Rwy'n falch iawn o'r ymroddiad, y gwaith a'r dewrder a ddangoswyd gan ein holl staff sydd wedi mynd i'r eithaf yn ystod y pandemig i sicrhau bod yr effaith o'r cyfnod cloi ar y preswylwyr cyn lleied â phosibl.   Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r gweithwyr hynny unwaith eto am eu holl ymdrechion. Ond ni fyddwn yn edrych yn ôl, ein nod yw gwella bob amser yr hyn a wnawn ar gyfer trigolion ein dinas." 

O 2016-17 ymlaen mae Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnwys pynciau a gynhwyswyd yn flaenorol yn Arolwg Iechyd Cymru, Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru, Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru a'r Arolwg Oedolion Egnïol. Mae'r brif flwyddyn adrodd yn rhedeg o fis Ebrill bob blwyddyn hyd at fis Mawrth y flwyddyn ganlynol, gyda chanlyniadau manwl yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.

Mae'r arolwg ffôn yn cynnwys dros 1,000 o bobl y mis, gyda'r pynciau'n cael eu diweddaru bob mis. Mae'n cynnwys sampl gynrychioliadol ar hap o bobl 16+ oed ledled Cymru, gan gynnwys pobl sy'n fwy anodd eu cyrraedd a phobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. 

Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi asesu'r arolwg yn annibynnol a chadarnhaodd ei fod yn bodloni safonau Ystadegau Gwladol o ran bod yn ddibynadwy, o ran ansawdd a gwerth.

Mae'r arolwg llawn ar gael i'w weld yma:
https://gov.wales/national-survey-wales-results-viewer 

 

A yw'r awdurdod lleol a enwir yn darparu gwasanaethau o safon uchel (cwestiwn diwygiedig)

 

Awdurdod Lleol

Cytuno

Ddim yn cytuno na'n anghytuno

Anghytuno

 

 

%

CH Isaf

CH Uchaf

%

CH Isaf

CH Uchaf

%

CH Isaf

CH Uchaf

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Caerdydd

58

54

61

22

19

25

21

18

23

 

Gwynedd

57

52

63

22

17

26

21

17

26

 

Sir Ddinbych

55

49

61

26

21

31

19

14

24

 

Rhondda Cynon Taf

54

50

59

20

17

24

25

22

29

 

Sir Gaerfyrddin

53

48

58

25

20

29

22

18

27

 

Conwy

52

46

58

25

19

30

23

18

28

 

Sir Fynwy

52

45

58

19

14

24

29

24

35

 

Sir Benfro

51

45

56

23

18

28

26

21

31

 

Sir y Fflint

51

45

56

19

15

24

30

26

35

 

Torfaen

49

42

56

22

16

28

29

22

35

 

Ynys Môn

48

42

54

25

20

31

27

22

32

 

Castell-nedd Port Talbot

47

42

52

21

17

26

31

27

36

 

Bro Morgannwg

46

40

52

28

23

34

26

20

31

 

Ceredigion

45

39

51

30

24

36

25

19

30

 

Caerffili

44

39

49

25

21

30

31

26

35

 

Casnewydd

44

38

50

24

19

29

32

26

37

 

Abertawe

42

37

46

29

25

33

29

25

33

 

Merthyr Tudful

37

31

44

23

18

29

39

33

46

 

Wrecsam

34

29

40

30

24

36

36

30

41

 

Powys

34

31

38

29

26

32

36

33

40

 

Pen-y-Bont Ar Ogwr

34

28

39

23

18

28

43

38

49

 

Blaenau Gwent

29

23

34

21

16

26

51

45

57

 

Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2019-20.  Maint y sampl:

10,100

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nodiadau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn: 'Newidyn deilliedig - Awdurdod Lleol '. 

Cwestiwn: 'Mae [enw'r awdurdod lleol] yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.' Cyflwynwyd yn 2019-20. Defnyddiwch hwn at ddibenion dadansoddi..

 

 

Lwfans Ansicrwydd:

 

 

 

 

Manwl gywir (o fewn +/-2%)