28/07/20 - Toiledau ym mharciau Caerdydd yn ail-agor
Mae mwyafrif y toiledau sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor ym mharciau Caerdydd wedi ail-agor gyda threfniadau glanhau rheolaidd a mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24451.html
28/07/20 - Darpariaeth Ôl-16 ar gael o hyd mewn lleoliadau Chweched Dosbarth
Mae nifer o leoedd ar gael mewn lleoliadau chweched dosbarth ledled y ddinas ar gyfer mis Medi, ac anogir disgyblion sy'n cwblhau Blwyddyn 11 yr haf hwn i ddarganfod yr ystod amrywiol o opsiynau sydd ar gael iddynt.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24453.html
29/07/20 - Canfasio Blynyddol 2020 - Peidiwch â cholli eich llais
Mae'r canfasio blynyddol o bleidleiswyr cymwys yn y ddinas bellach ar y gweill, gyda rhai 14 i 16 oed yn gallu cofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24457.html
29/07/20 - Dim sgrybs? Neuadd Llanofer yn achub y dydd
Mae gweithwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn gwnïo gyda'r gorau mewn project cymunedol i greu dillad gwaith ar gyfer gweithwyr iechyd yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Mae'r staff a'u cynorthwywyr o'r ganolfan dysgu cymunedol a'r celfyddydau wedi rhoi eu hamser, eu sgiliau a'u harbenigedd ar gyfer y project.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24459.html
29/07/20 - Mae Diwrnod Chwarae Caerdydd yn mynd ar-lein ar gyfer 2020
Mewn unrhyw flwyddyn arall ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol, byddai cannoedd o blant yn mwynhau digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol wedi'i drefnu gan Dîm Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn un o fannau gwyrdd y ddinas.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24461.html
29/07/20 - Beicffyrdd newydd dros dro ar y gweill yn rhan o gynllun adfer y ddinas
Mae Caerdydd - a bleidleisiwyd y ddinas orau yn y DU i feicio ynddi yn ddiweddar - yn gosod beicffyrdd newydd dros dro. Bwriedir gosod y beicffyrdd newydd erbyn yr hydref i gynnig llwybrau diogelach, wedi eu gwahanu, i alluogi pobl i deithio ar feic ar rai o ffydd prysuraf Caerdydd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24465.html
29/07/20 - Caffi Cwr y Castell yn barod i agor
Bydd profiad bwyta allan newydd cyffrous Caerdydd ar Stryd y Castell yn agor i'r cyhoedd yn swyddogol ddydd Gwener, 31 Gorffennaf, yn croesawu ymwelwyr i'r Un Ddinas - gydag ychydig o newidiadau.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24466.html
31/07/20 - Parc y Mynydd Bychan ymysg y 20 ardal chwarae ychwanegol i ailagor yng Nghaerdydd
Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd yn ailagor, gan gynnwys Parc y Mynydd Bychan. Mae 50 safle eisoes wedi eu hagor ledled y ddinas.
Darllenwch fwy yma: