Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: agor Caffi Cwr y Castell; beicffyrdd dros dro yn dod i Gaerdydd; 20 ardal chwarae arall i ailagor; mwy o Hybiau cymunedol yn ailagor; a, diolch i Neuadd Llanofer, mwy o sgrybs i weithwyr iechyd.
Caffi Cwr y Castell wedi agor heddiw
Heddiw (dydd Gwener, 31 Gorffennaf), oedd yr agoriad swyddogol i'r cyhoedd ar brofiad bwyta newydd cyffrous ar Stryd y Castell, Caerdydd, gan groesawu ymwelwyr i'r Un Ddinas - ond bod pethau ychydig yn wahanol.
Mae'r ardal fwyta awyr agored â 240 o seddi dan orchudd yn croesawu pobl i fwynhau bwyd o ddetholiad eang o fwytai'r ddinas a hynny o flaen un o olygfeydd mwyaf deniadol Caerdydd - ei chastell hardd.
Mae Caffi Cwr y Castell - a godwyd ar Stryd y Castell ei hun - yn rhan o ystod ehangach o fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i gynyddu mannau awyr agored y gellir eu defnyddio gan y sector lletygarwch sy'n ceisio adfer yn dilyn effeithiau'r pandemig.
Mae'r ardal letygarwch newydd yn galluogi busnesau - a allai gael trafferth gwneud elw dan do oherwydd y rheoliadau cadw pellter dau fetr sydd yng Nghymru - i fasnachu mewn lleoliadau awyr agored diogel sy'n caniatáu cadw pellter cymdeithasol.
Bydd ymwelwyr yn gallu archebu bwyd a diodydd i'w danfon o ddetholiad eang o fwytai a chaffis gan ddefnyddio cod QR ar y safle neu drwy deipio'r cyfeiriad URL Cardiff-castle.yoello.com i'w ffonau a dilyn y cyfarwyddiadau.
Mae'r man awyr agored newydd yn agor o 10am tan 10pm saith diwrnod yr wythnos gyda'r archebion olaf am 8.30pm.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Roedden am greu man deniadol y bydd preswylwyr ac ymwelwyr wrth eu bodd yn ei ddefnyddio a man a all helpu busnesau lletygarwch lleol i ddechrau cynnal eu busnes unwaith eto. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl i fwynhau'r ardal newydd a fydd yn cynnig golwg drawiadol i gwsmeriaid o'n castell eiconig yng nghanol y ddinas. Rydym yn gobeithio y bydd yn chwarae rhan bwysig yn helpu busnesau yng Nghaerdydd i oroesi canlyniadau'r pandemig."
Sut mae'n gweithio:
Ar agor: 7 diwrnod yr wythnos
Amseroedd: 10am-10pm (archebion olaf 8:30pm)
Amser aros: hyd at ddwy awr
Nifer y lleoedd: 240 o seddi, archebu bwyd o fwytai a chaffis yng nghanol y ddinas
Lleoliad: Stryd y Castell
Cynghorion Craff!
Dyma'r bwytai a'r caffis sydd wedi cofrestru â Yoello ar hyn o bryd, ond mae mwy yn cael eu hychwanegu drwy'r amser
Bute & Co Coffee House
Bwyta Bwyd Bombai (3B's)
Dusty Knuckle
FABurgers Ltd
The Grazing Shed
Heavenly Desserts
Keralan Caravan
Marco Pierre White Steakhouse Bar & Grill
Mother Nature Cafe
Nata & Co
Wally's Deli & Kaffeehaus
Wok to Walk
Zerodegrees Cardiff
Beicffyrdd newydd dros dro ar y gweill yn rhan o gynllun adfer y ddinas
Mae Caerdydd - a bleidleisiwyd y ddinas orau yn y DU i feicio ynddi yn ddiweddar - yn gosod beicffyrdd newydd dros dro.
Bwriedir gosod y beicffyrdd newydd erbyn yr hydref i gynnig llwybrau diogelach, wedi eu gwahanu, i alluogi pobl i deithio ar feic ar rai o ffydd prysuraf Caerdydd.
Mae'r ddau lwybr - y feicffordd ‘Traws-ddinas' a'r feicffordd ‘Cylch y Bae' - yn cael eu datblygu'n gynt yn rhan o gynlluniau adfer COVID y Cyngor ac maent yn cydweddu â'r weledigaeth beicio a nodwyd ym Mhapur Gwyn Trafnidiaeth y Cyngor.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae traffig ar ein ffyrdd wedi lleihau'n ddramatig nawr bod nifer o fusnesau a sefydliadau yn dewis gadael i'w staff barhau i weithio gartref.
"Mae'r lefelau traffig presennol ar 66% o'r rhai cyn y cyfnod cloi, gyda'r llif traffig yng nghanol y ddinas yn is o hyd ar 50%. Tra bod y lefelau traffig wedi gostwng, mae'r defnydd o'r cynllun ‘nextbike' wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfnod cloi, gyda dros 14,000 o gwsmeriaid newydd, a oedd yn cynnwys 114,383 o sesiynau llogi rhwng mis Mawrth a mis Mehefin, sy'n drawiadol.
"Gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg ar lai o gapasiti, mae llawer o bobl bellach yn dewis cerdded a beicio yng Nghaerdydd. Mae hyn yn newyddion gwych, yn wych i iechyd pobl ac yn wych i'r amgylchedd. Rydym eisiau sicrhau y gall unrhyw un sy'n gallu beicio wneud hynny mewn modd mwy diogel ac atyniadol.
"Rydyn ni'n gwybod bod yna rai pobl sy'n newydd i feicio, gan gynnwys pobl ifanc iawn, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y bobl hyn mor ddiogel â phosibl."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24465.html
Parc y Mynydd Bychan ymysg y 20 ardal chwarae ychwanegol i ailagor yng Nghaerdydd
Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd yn ailagor, gan gynnwys Parc y Mynydd Bychan. Mae 50 safle eisoes wedi eu hagor ledled y ddinas.
Mae'r ardaloedd chwarae yn cael eu hailagor yn raddol, gan ddilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.
Bydd 14 ardal chwarae yn ailagor o ddydd Sadwrn (1 Awst). Dyma nhw:
Parc Hamadryad(Butetown);Clos Emerson(Caerau);Rhydlafar(Creigiau a Sain Ffagan);Wilson Road i Blant bach(Trelái);Wilson Road i Blant Iau(Trelái);Parc y Mynydd Bychan(y Mynydd Bychan);Parc Hailey i Blant Bach(Ystum Taf);Parc Hailey i Blant Bach(Ystum Taf);Bryn Glas i Blant Iau(Llanisien);Bryn Glas i Blant Bach(Llanisien);Maes Hamdden Tredelerch(Llanrhymni);Gerddi Despenser i Blant Iau(Glan-yr-afon);Gerddi Despenser i Blant Bach(Glan-yr-afon);Ffordd Greenway(Tredelerch).
Bydd 6 ardal chwarae arall yn agor o ddydd Llun (3 Awst) Dyma nhw:
Parc Britannia(Butetown);Heol y Barcud(Llanisien);Hammond Way(Pen-y-lan);Garth Newydd(Pentyrch);Clos Horwood(Sblot);Ironbridge Road(yr Eglwys Newydd a Thongwynlais).
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth iechyd a diogelwch mae pob safle wedi mynd drwy asesiad risg Covid-19 ac mae arwynebau'r offer a'r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd maes chwarae, cyn eu hail-agor.
Y 50 man chwarae sydd eisoes ar agor yw:
Gofod agored Adamscroft(Adamsdown);Sgwâr Adamsdown(Adamsdown); Belmont Walk(Butetown); Craiglee Drive(Butetown); Sgwâr Hodges(Butetown); Sgwâr Loudon(Butetown); Windsor Esplanade(Butetown);Clos Emblem(Caerau);Heol Homfrey(Careau); Parc Trelái(Caerau);Parc JiwbiliTreganna; Sanatorium Road i Blant Bach(Treganna); Llwybr chwarae Parc Bute(Cathays);Gerddi Cogan (Cathays); Parc Maendy(Cathays);Green Farm Road (Trelái); Beechley Road(y Tyllgoed); Clos Chorley(y Tyllgoed); Cilgant Hendy-gwyn(y Tyllgoed);Maitland Park(Gabalfa);Maitland Road - ardal ystwythder (Gabalfa); Parc Sevenoaks (Grangetown(; Y Marl i Blant Bach (Grangetown); Y Marl i Blant Iau (Grangetown); Heol y Delyn(Llys-faen);Mill Heath Drive(Llys-faen); Cilgant Sant Martin i Blant Bach (Llanisien); Cilgant Sant Martin i Blant Iau (Llanisien); Sgwâr Watkin(Llanisien);Coed y Gores(Pentwyn); Chapelwood(Pentwyn); Parc Coed y Nant(Pentwyn);Waun Fach(Pentwyn);Garth Olwg(Pentyrch); Ffordd Penuel(Pentyrch);Gerddi Cyncoed(Penylan); Sovereign Chase(Penylan);Gerddi Shelley (Plasnewydd); Parc Butterfield(Pontprennau/Llaneirwg); Cwm Farm i Blant Iau(Radyr);Cwm Farm i Blant Bach(Radyr);Fisherhill Way(Radur/Pentre-poeth); Wyndham Street(Glan-yr-afon); Sgwâr Beaufort (Sblot); Parc Sblot(Sblot);Parc Tremorfa(Sblot);Clos Wilkinson (Sblot); Heol Maes Eirwg(Trowbridge);Parc Treftadaeth(Trowbridge);Hollybush(yr Eglwys Newydd a Thongwynlais)
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24477.html
Mwy o Hybiau cymunedol yn ailagor
Bydd Llyfrgell Rhiwbeina a Hyb Y Tyllgoed yn agor heddiw ar sail apwyntiad yn uni.
Gellir casglu bagiau gwastraff bwyd ac ailgylchu heb drefnu apwyntiad.
Manylion yma:
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/hybiau-a-swyddfeydd-tai/Pages/Hybiau.aspx
☎️ 029 2087 1071
📧hybcynghori@caerdydd.gov.uk
Dim sgrybs? Neuadd Llanofer yn achub y dydd
Mae gweithwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn gwnïo gyda'r gorau mewn project cymunedol i greu dillad gwaith ar gyfer gweithwyr iechyd yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Mae'r staff a'u cynorthwywyr o'r ganolfan dysgu cymunedol a'r celfyddydau wedi rhoi eu hamser, eu sgiliau a'u harbenigedd ar gyfer y project.
Ymunodd aelodau o'r cyhoedd â thiwtoriaid, dysgwyr a staff Canolfan Gelfyddydau Neuadd Llanofer yn Nhreganna i ffurfio tîm o 45 o bobl i wneud sgrybs ar gyfer nyrsys, meddygon a staff eraill y GIG.
Daeth y fenter at ei gilydd ar ôl i Bennaeth Technoleg Ysgol Plasmawr, Nia Clements, gysylltu â Llywodraeth Cymru i gynnig cymorth i'r ymdrech yn erbyn COVID-19 ac apeliodd am wirfoddolwyr i gefnogi'r project ar Facebook. Ymatebodd Rheolwr Canolfan Neuadd Llanofer, John Hobson, a'r cynorthwy-ydd gweinyddol, Gaynor Robinson, gan gynnig y ganolfan fel un o'r hybiau i wneud y gwisgoedd.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r tîm wedi bod yn brysur yn defnyddio eu sgiliau gwnïo i gynhyrchu 591 o diwnigau gyda defnydd a ddarparwyd gan Alexandra Workwear ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Gan ddefnyddio arian gan Ymddiriedolaeth Elusennol Neuadd Llanofer, a rhoddion gan ddwy gefnogwraig hael, Helen Lloyd Jones a Margaret le Grice, prynodd y ganolfan dri pheiriant gwnïo gorgloi newydd, a byrddau a haearnau smwddio.
Bu'r tiwtor gwnïo o raglen Dysgu am Oes y Cyngor, Ceri Ring, yn cefnogi'r gwirfoddolwyr drwy roi manylion technegol a chyfarwyddiadau wrth eu gweithfannau yn Neuadd Llanofer tra bod gwirfoddolwyr eraill yn cynhyrchu'r tiwnigau o gartref.
Darllenwch fwy yma: