Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 28 Gorffennaf

Dyma'r diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: toiledau cyhoeddus yn ailagor; lleoedd Chweched Dosbarth ar gael; mannau awyr agored arbennig i fusnesau a sefydliadau eu defnyddio; Cartref Cŵn Caerdydd yn ailagor, gyda rhai newidiadau i'r rheiny sy'n mynd â chŵn am dro a'r bobl hynny sydd am gynnig cartref i gi; a Teleofal yn dathlu 30 mlynedd o helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth a byw gartref.

 

Toiledau ym mharciau Caerdydd yn ail-agor

Mae mwyafrif y toiledau sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor ym mharciau Caerdydd wedi ail-agor gyda threfniadau glanhau rheolaidd a mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Mae toiledau a weithredir gan y Cyngor ym Mharc Fictoria, Gerddi Pleser Parc y Rhath a Llyn Parc y Rhath (Dwyrain) nawr ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio.

Cyn ail-agor, mae'r cyfleusterau hyn ym mharciau Caerdydd wedi cael eu glanhau, eu profi a'u hasesu. Mae arwyddion wedi'u gosod sy'n annog ymbellhau cymdeithasol a chyfleusterau hylendid dwylo da wedi'u cyflwyno a bydd rotâu glanhau ddwywaith y dydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Gyda threfnau glanhau rheolaidd a mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith rydym yn hyderus bod y cyfleusterau pwysig hyn yn ein parciau mor ddiogel a hylan erbyn hyn ag y gallwn eu gwneud, ond byddwn yn annog unrhyw un sy'n ymweld â'r parciau hyn i gario hylif diheintio'r dwylo a'i ddefnyddio cyn ac ar ôl mynd i'r cyfleusterau i helpu i ddiogelu eu hunain ac eraill."

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i gyfleusterau toiled dan do fod ar agor gyda mesurau glanhau priodol yn eu lle ac mae'r Cyngor yn gweithio gyda busnesau lletygarwch lleol, a Caerdydd AM BYTH yng nghanol y ddinas, i annog bariau, tafarndai, caffis a bwytai sydd wedi ail-agor i agor eu cyfleusterau toiled cyn gynted ag sy'n ymarferol.

Mae nifer o adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor gyda thoiledau sydd fel arfer yn hygyrch i'r cyhoedd yn parhau i fod ar gau oherwydd Covid-19, ond mae toiled cyhoeddus ar gael ar lawr gwaelod Marchnad Caerdydd.

Mae'r toiledau allanol ar dir Castell Caerdydd ar agor i'r bobl sy'n defnyddio'r lle yno a bydd cyfleusterau toiled dros dro ychwanegol yn cael eu darparu ar gyfer cwsmeriaid sy'n defnyddio'r ardal eistedd awyr agored sy'n cael ei hadeiladu ar Stryd y Castell ar hyn o bryd.

Mae cynlluniau'n cael eu datblygu i ail-agor toiledau sy'n hygyrch i'r cyhoedd yn Hybiau'r ddinas cyn gynted â phosibl.

Bydd y cyfleusterau toiled ar y Morglawdd yn cael eu hagor yr wythnos hon, cyn gynted ag y cwblheir yr asesiadau glanhau, profi a risg angenrheidiol a'i bod yn ddiogel gwneud hynny.

Mae'r toiledau nad ydynt yn cael eu gweithredu gan y Cyngor yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant ac yng Nghei'r Fôr-forwyn ar agor i'r cyhoedd eu defnyddio.

 

Darpariaeth Ôl-16 ar gael o hyd mewn lleoliadau Chweched Dosbarth

Mae nifer o leoedd ar gael mewn lleoliadau chweched dosbarth ledled y ddinas ar gyfer mis Medi, ac anogir disgyblion sy'n cwblhau Blwyddyn 11 yr haf hwn i ddarganfod yr ystod amrywiol o opsiynau sydd ar gael iddynt.

O Seiber-Ddiogelwch a'r Celfyddydau Perfformio i Wyddoniaeth Amgylcheddol a Theithio a Thwristiaeth, mae gan ddarpariaeth Ôl-16 Caerdydd ar gyfer y flwyddyn Academaidd 2020/21 ddewis amrywiol a diddorol o gyrsiau ar gael.

Yn ogystal, gall rhai lleoliadau chweched dosbarth dderbyn disgyblion o hyd ar rai o'r pynciau mwy traddodiadol fel Mathemateg, y Gyfraith, Hanes ac Astudiaethau Busnes.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24453.html

 

A allai eich busnes neu'ch sefydliad elwa o fan awyr agored?

Mae cyrtiau gweithgareddau awyr agored dros dro ar gael i fusnesau a sefydliadau, y byddai eu gweithgareddau cyn Covid-19 fel arfer wedi digwydd dan do, i'w llogi ym Mharc Bute.

Mae gan y safleoedd, ger ystafelloedd newid Blackweir, fesurau ymbellhau cymdeithasol a gorsafoedd diheintio dwylo ac maent yn darparu gofod preifat ar gyfer grwpiau o hyd at 29 o bobl.

  • Mae prisiau'n amrywio yn dibynnu ar faint y grŵp.
  • Cynigir gostyngiadau i elusennau/grwpiau dielw.
  • Mae gostyngiadau hefyd ar gael ar gyfer archebion sy'n para am gyfnod hirach.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:

https://bute-park.com/outdoorcourts/

 

Cartref Cŵn wedi ailagor

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi ailagor, gyda rhai newidiadau ar gyfer cerddwyr cŵn a'r rheiny sydd am roi cartref i gi.

Mae eu cynllun ‘maethu' yn ystod y cyfnod cloi wedi bod yn llwyddiannus gan roi cartrefi am byth i fwy na 30 ci a galluogi'r cŵn sy'n derbyn gofal yn y cartref i ymlacio'n fwy heb bobl yn edrych arnynt. O ganlyniad  mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd wedi gwneud rhai newidiadau i'w proses ailgartrefu.

Ar ôl i chi ymchwilio i frîd, maint ac oedran y ci a allai gyd-fynd orau â'ch ffordd o fyw, edrychwch ar wefan y Cartref Cŵn i weld y cŵn sydd ar gael ar hyn o bryd i'w hailgartrefu a phenderfynu ar y ci rydych â diddordeb ynddo.  Llenwch ffurflen ac os ydy'r tîm yn credu eich bod yn berffaith i'r ci, bydd yn cysylltu i drefnu cyflwyniad. Os bydd hynny'n llwyddiannus, byddwch yn gallu maethu'r ci am bythefnos ac yn ystod yr amser hwnnw, bydd y tîm yn cysylltu â chi'n rheolaidd. Ar ôl hynny, os bydd popeth yn dda, caiff y ci ei ailgartrefu gyda chi'n barhaol.

Bellach bydd angen trefnu sesiynau cerdded ci o flaen llaw, naill ai ar-lein neu ar y wefan. Bydd apwyntiadau bob 20 munud er mwyn atal pobl rhag cwrdd yn y dderbynfa.  Oherwydd bod nifer y cŵn sydd ar gael ar hyn o bryd yn gyfyngedig, dim ond os ydych yn gerddwr profiadol y dylech drefnu sesiwn.

Mae cynlluniau'n cael eu datblygu i ail-ddechrau sesiynau cyflwyno o ran cerdded cŵn ond nid yw'r rhain yn digwydd ar hyn o bryd.

Ceir manylion llawn ailgartrefu a cherdded cŵn yma:https://www.cardiffdogshome.co.uk/covid-19-procedures-at-cardiff-dogs-home/

 

Teleofal Caerdydd yn dathlu 30 mlynedd

Sefydlwyd Teleofal Caerdydd yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 1990 mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Gwasanaeth Iechyd a'r Cyngor.

Maent wedi darparu 30 mlynedd o gymorth, ac mae technoleg wedi galluogi gofal a gwasanaethau i helpu pobl sy'n agored i niwed i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Pan sefydlwyd y gwasanaeth yn wreiddiol fel ‘Larwm Cymunedol' roedd ganddo chwe gweithredwr a chwe warden teithiol. Erbyn hyn mae gan y tîm 16 o weithredwyr, 12 warden teithiol a 4,733 o gwsmeriaid ledled Caerdydd!

Mae Teleofal yn rhoi'r cymorth, y diogelwch a'r sicrwydd y mae cwsmeriaid eu hangen i'w galluogi i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Yn syml, drwy bwyso'r botwm ar y cortyn gwddf neu ar yr uned ymateb bydd cwsmeriaid yn cysylltu â'n tîm cyfeillgar a fydd yn siarad drwy'r seinydd ar yr uned ac yn gweithredu yn syth, bob awr o'r dydd, bob diwrnod o'r flwyddyn. Gallai hyn gynnwys cysylltu ag aelod o'r teulu, gofalwr neu'r gwasanaethau brys neu anfon ein wardeiniaid symudol unigryw sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.  Mae gwasanaeth Pryd ar Glud Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Teleofal Caerdydd gan ddarparu prydau poeth a maethlon 7 diwrnod yr wythnos.

Cafodd Teleofal Caerdydd ei ailfrandio ym mis Ebrill 2015 ar ôl cael ei alw'n Larwm Cymunedol gynt. Roedd yr ailfrandio yn cynnwys gwefan newydd yn amlinellu'r holl gynnyrch sydd ar gael a'r ddwy lefel wahanol o fonitro sydd gan y gwasanaeth. 

Mae Teleofal Caerdydd newydd lansio gwasanaeth ‘Plygio a Chwarae' i gwsmeriaid. Mae hyn yn galluogi'r cwsmer i osod yr offer heb fod angen swyddog Teleofal i ymweld â'r eiddo. Mae Teleofal Caerdydd yn deall nad yw pob cwsmer yn teimlo'n gyfforddus gyda phobl yn dod i mewn i'w cartrefi, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni, felly er mwyn lleddfu unrhyw bryder neu ofn, maen nhw am i gwsmeriaid allu gosod yr offer yn eu cartrefi eu hunain gyda chymorth dros y ffôn pan fo angen.

Da iawn i bawb sydd wedi helpu'r gwasanaeth dros y 30 mlynedd diwethaf o gefnogi trigolion Caerdydd a'u teuluoedd trwy gadw cwsmeriaid yn ddiogel a gofalu amdanyn nhw yn eu cartrefi eu hunain. Daliwch ati gyda'r gwaith da!

www.telecarecardiff.co.uk/cy