Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 24 Gorffennaf

Croeso i ddiweddariad diwethaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: cerflun y masnachwr caethweision oedd yn arwr yn rhyfel Waterloo, Syr Thomas Picton, i gael ei dynnu o Neuadd Farmor yr Arwyr yn Neuadd y Ddinas; 20 ardal chwarae arall yn agor yr wythnos nesaf, yn rhan o gynllun ailagor diogelwch yn gyntaf; mwy o gymorth i bobl ifanc yn ystod COVID-19; dau Hyb arall yn ailagor;y 10 eitem mwyaf poblogaidd i chwilio amdanynt yn ein rhestr Ailgylchu A-Y; a pharciau sy'n dda i beillwyr.

Ers mis Mawrth, rydym wedi cyhoeddi dros 80 o rifynnau'r diweddariad, bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener. O'r wythnos nesaf ymlaen, byddwn yn symud i gyhoeddi'r diweddariad ddwywaith yr wythnos, gan newid i bob dydd Mawrth a dydd Gwener. Diolch.

 

Cerflun o'r masnachwr caethweision Thomas Picton i'w dynnu a'i symud

Mae cerflun o'r masnachwr caethion ac arwr rhyfel Waterloo, Syr Thomas Picton, i'w dynnu a'i symud o Neuadd Farmor yr Arwyr yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.

Cafodd y penderfyniad ei wneud neithiwr yn dilyn dadl a phleidlais a gynhaliwyd yng Nghyngor Llawn Caerdydd.

Galwodd Arglwydd Faer Du cyntaf Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'ath, am i'r cerflun gael ei dynnu oherwydd cysylltiadau Picton â chaethwasiaeth a'i arteithio a ddogfennwyd o ferch yn ei harddegau a orfodwyd yn gaethwas yn India'r Gorllewin.

Cefnogwyd yr alwad i dynnu'r cerflun gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng Huw Thomas, a ddwedodd: "Bu galwadau cyhoeddus amlwg iawn yn sgil y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys i ailasesu sut y caiff unigolion o hanes gwledydd Prydain a fu'n gysylltiedig â chaethwasiaeth eu coffau.   Yng Nghaerdydd yn benodol, mae'r ddadl wedi canolbwyntio ar gerflun Syr Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24419.html

 

Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yn ailagor yr wythnos nesaf yn dilyn arolygiadau

Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd yn cael eu hailagor Ddydd Llun (27 Gorffennaf) yn dilyn y 30 safle cyntaf i gael eu hagor yr wythnos ddiwethaf.

Bydd yr ardaloedd chwarae yn cael eu hailagor yn raddol, yn dilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.

Yr 20 ardal chwarae a fydd yn agor o amser cinio Ddydd Llun yw:

Gofod agored Adamscroft(Adamsdown);Rhodfa Belmont (Butetown; Esplanâd Windsor(Butetown);Parc Trelái(Caerau);Llwybr Chwarae Parc Bute(Cathays);Parc Maendy(Cathays);Cilgant Whitland(y Tyllgoed);Parc Maitland(Gabalfa);Heol y Delyn(Llys-faen);Sgwâr Watkin(Llanisien);Waun Fach(Pentwyn);Parc Coed y Nant(Pentwyn);Heol Penuel(Pentyrch);Sovereign Chase(Penylan);Fferm Cwm - Plant Iau(Radur);Fferm Cwm - Plant Bach(Radur);Parc Sblot(Sblot);Parc Tremorfa(Sblot);Parc Treftadaeth(Trowbridge);Hollybush(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais).

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24427.html

 

Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd:  Mwy o gymorth i bobl ifanc yn ystod COVID-19

Mae mwy o ddarpariaeth a chymorth ar gael i bobl ifanc gan Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd er mwyn ateb galw mwy yn ystod COVID-19.

Mae ystod o wasanaethau arloesol newydd wedi'u cyflwyno ac mae llawer o'r gwasanaethau sydd gennym yn cynnig mwy er mwyn ymgysylltu â, a chefnogi, y nifer fawr o bobl ifanc ledled y ddinas nad yw llawer ohonynt wedi gallu mynychu'r ysgol, y coleg na darpariaethau ieuenctid ers mis Mawrth.

Mae'r Cyngor wedi ail-leoli staff i ymuno â'r tîm dynodedig sydd ar y stryd ac mae Gweithwyr Ieuenctid ar y Stryd hefyd ar waith ym mhob rhan o Gaerdydd gan gynnwys canol y ddinas i ymgysylltu â phobl ifanc, gwrando ar eu barn a'u cyfeirio at gymorth ychwanegol.

Mae mwy o ymgysylltu rhwng gwasanaethau a phobl ifanc wedi bod ac mae'r Cyngor wedi penodi swyddog digidol i oruchwylio'r maes. Mae timau o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi creu ffyrdd newydd o sgwrsio â phobl ifanc trwy gynnal gweithgareddau arloesol ar blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys cystadlaethau a sesiynau Holi ac Ateb.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24433.html

 

11 Hybiau a Llyfrgelloedd ar agor erbyn Dydd Llun

Mae Llyfrgell Treganna a Hyb Ieuenctid Butetown yn agor eto ar Ddydd Llun Gorffennaf 27 ar sail apwyntiad yn unig.

Bydd ailagor y ddau gyfleuster hyn yr wythnos nesaf yn dod â chyfanswm y llyfrgelloedd a'r hybiau sydd ar agor yn y ddinas ar hyn o bryd i 11.

Mae Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hyb Llaneirwg, The Powerhouse, Hyb Trelái & Chaerau, Hyb Llanisien, Hyb Llanrhymni, Llyfrgell Radur, Hyb Ystum Taf & Gabalfa a Hyb Grangetown hefyd ar agor am wasanaethau llyfrgell clicio a chasglu ac ystod o wasanaethau cynghori.

Gellir casglu bagiau ailgylchu a gwastraff bwyd gwyrdd heb apwyntiad.

Darganfyddwch fwy am oriau agor yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/hybiau-a-swyddfeydd-tai/Pages/Hybiau.aspx

Ffoniwch ein Llinell Gyngor 029 2087 1071 neu e-bostiwch hybcynghori@caerdydd.gov.uk  i gael mwy o wybodaeth.

 

Y 10 eitem y chwilir amdanynt fwyaf ar ein tudalennau ailgylchu A-Y

Mae'r eitemau y chwilir amdanynt fwyaf ar ein tudalennau ailgylchu A-Y wedi'u datgelu ac efallai y cewch eich synnu at rai o'r eitemau na ddylech eu rhoi yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24425.html

 

Mwy o safleoedd ‘un toriad' sy'n dda i beillwyr wedi'u cadarnhau i barciau Caerdydd

Mae 2.6 hectar ychwanegol o barcdir yng Nghaerdydd yn symud at gyfundrefn torri gwair ‘un toriad' sy'n fuddiol i beillwyr.

Mae'r penderfyniad i leihau amlder torri gwair ar draws ardal sy'n cyfateb i faint 6 chae pêl-droed yn mynd â chyfanswm arwynebedd y dolydd brodorol, sy'n dda i bryfed peillio, a safleoedd ‘torri unwaith' y mae'r Cyngor yn gofalu amdanynt i 33.5 hectar.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24414.html