Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli (20 Gorffennaf)

 

13/07/20 - Datgelu argraff arlunydd o Heol y Castell wedi'i hailwampio

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhyddhau argraff arlunydd yn dangos yr ardal fwyta awyr agored newydd dan orchudd a gynlluniwyd ar gyfer Heol y Castell yng Nghaerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24335.html

 

16/07/20 - Pla chwilod duon wedi'i ddarganfod yng nghaffi a siop gludfwyd Heol y Plwca

Gorchymynnwyd i gwpl priod dalu dros £2,000 yn Llys Ynadon Caerdydd ar 9 Gorffennaf ar ôl i bla chwilod duon gael ei ddarganfod yn eu caffi - Mr Tikka - ar Heol y Plwca y llynedd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24361.html

 

16/07/20 - Cadwch hi'n lân: Cewynnau, paent a duvets wedi'u rhoi gyda gwastraff gardd mewn camgymeriad

Diolch enfawr i'n criwiau casglu gwastraff sydd wedi casglu 434 o dunelli hyd yn hyn y mis hwn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24367.html

 

17/07/20 - Y diweddaraf ar ailagor ardaloedd chwarae a champfeydd awyr agored

Caiff 30 o ardaloedd chwarae eu hailagor yng Nghaerdydd ddydd Llun (20 Gorffennaf) ar ôl i Lywodraeth Cymru dynnu'r cyfyngiadau ar eu defnydd yn ôl.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24371.html

 

17/07/20 - Castell Caerdydd yn goleuo mewn ymateb i bandemig coronafeirws byd-eang

Ar nos Iau, cafodd Castell Caerdydd ei oleuo i gefnogi apêl Coronafeirws y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, sy'n codi arian i helpu gwladwriaethau mwyaf bregus y byd sy'n cael eu bygwth gan Covid-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24373.html

 

17/07/20 - 10 rheswm gwych i ymweld â Chaerdydd ar ôl y cyfnod cloi

Os yw misoedd o fod ‘dan glo' wedi eich gadael yn dyheu am drip siopa, yn awchu am antur, neu'n blysio am brydau bwyd da a noson wych allan yna mae gan Gaerdydd bopeth sydd ei angen arnoch - gan gynnwys tawelwch meddwl pan ddaw i ddiogelwch - oherwydd ‘yr un ddinas ry'n ni gyd yn ei charu. Ond mae pethau bach yn newid.'

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24375.html