Back
10 rheswm gwych i ymweld â Chaerdydd ar ôl y cyfnod cloi

 

 17/07/20

Os yw misoedd o fod ‘dan glo' wedi eich gadael yn dyheu am drip siopa, yn awchu am antur, neu'n blysio am brydau bwyd da a noson wych allan yna mae gan Gaerdydd bopeth sydd ei angen arnoch - gan gynnwys tawelwch meddwl pan ddaw i ddiogelwch - oherwydd ‘yr un ddinas ry'n ni gyd yn ei charu. Ond mae pethau bach yn newid.'

 

Wrth i'r ddinas lansio ymgyrch farchnata newydd gyda'r nod o roi gwybod i bobl bod Caerdydd yn agored i fusnes ac yn ddiogel i ymweld â hi, dyma 10 rheswm gwych dros ymweld â Chaerdydd nawr bod y cyfyngiadau cloi yn llacio:

 

  1. Mae Caerdydd yn hafan i siopwyr a gyda llawer o siopau eisoes ar agor a mwy yn agor bob dydd, nawr yw'r amser perffaith i gael eich dos o fanwerthu. Ewch i siopa nes y byddwch wedi'ch ymlâdd yn enwau mawr y stryd fawr neu ymgollwch yn y llu o siopau annibynnol sydd wedi eu lleoli yn amgylchedd cain Fictoraidd ac Edwardaidd Dinas yr Arcêd hon.

 

  1. Mae'n gartref i un o erddi cwrw mwyaf Cymru - yn 15,000 troedfedd sgwâr, mae digon o le i ymbellhau'n gymdeithasol wrth eistedd. Mae bar trwyddedig a hyd at wyth o fasnachwyr bwyd stryd annibynnol (gan gynnwys Dirty Bird, Ffwrnes a Brother Thai), yn nigwyddiadau newydd ‘Bwyd Stryd Cymdeithasol'  warws Y Depo 
  2. Ymlaciwch gyda phaned yn sgwâr mwyaf newydd, a mwyaf trawiadol o bosibl, y ddinas - sef y tir gwyrdd o fewn muriau Castell Caerdydd. Er nad yw'n bosibl mynd i mewn i'r ystafelloedd trawiadol a ddyluniwyd gan Burges ar hyn o bryd, mae modd i chi o hyd amsugno'r awyrgylch a mwynhau'r naws hamddenol gan ymbellhau'n gymdeithasol wrth un o'r byrddau picnic.
  3. Chwilio am antur i anghofio'r cyfnod cloi? Beth am fynd allan ar ddyfroedd Bae Caerdydd ? Gallwch bellach ddringo ar fwrdd nifer o gychod agored, o hen gwch pysgota o Gernyw i gwch cyflym, a mwynhau golygfeydd a'r gwynt yn eich gwallt, wrth i chi fynd ar daith o amgylch yr harbwr mewnol.
  4. Yn poeni am ddiogelwch? Mae'n ddiogel yng Nghaerdydd. Er mwyn cynorthwyo ag ymbellhau cymdeithasol mae system gerdded newydd, amlwg o amgylch canol y ddinas. Ac os ewch chi i un o arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd y ddinas neu'n penderfynu archwilio'r myrdd o stondinau ym Marchnad Caerdydd, byddwch yn dod o hyd i arwyddion yn y fan hon hefyd, felly, gallwch fynd ati i fwynhau'r ddinas - yn dawel eich meddwl eich bod yn fwy ar wahân, ond yr un ddinas yw hi.  A'r ciwiau hynny fuoch chi ynddyn nhw wrth aros i fynd i mewn i'r archfarchnad? Gyda manwerthwyr canol y ddinas hefyd angen cyfyngu ar nifer y cwsmeriaid i weithredu'n ddiogel - maen nhw yng nghanol y ddinas yn ogystal. Ond mae ardaloedd ciwio penodol wedi'u marcio ar y stryd ac mae cynlluniau'n cael eu datblygu i wneud yn siŵr, wrth i chi aros, eich bod yn cael eich gwarchod rhag y gorau a'r gwaethaf o'r tywydd Cymreig.
  5. Mae Caerdydd yn ddinas sy'n llawn o fannau gwyrdd a does yr un ohonynt yn fwy godidog na Pharc Bute. Mae 'calon werdd y ddinas' yn ymestyn o Gastell Caerdydd yng nghanol y ddinas, i'r gogledd ar hyd Afon Taf ac mae'n gartref i fwy na 2000 o goed. Beth am fynd am dro, gan ymbellhau'n gymdeithasol yr un pryd, ar hyd yr afon?  Neu llenwch eich sach gyda phethau da o Farchnad Caerdydd ac ewch am bicnic yn rhywle yn yr 56 hectar o ofod gwyrdd a roddwyd i'r bobl yn 1947 gan bumed Ardalydd Bute.
  6. Am wneud noson ohoni? Gyda gwestai bellach yn gallu cynnig llety hunangynhwysol, mae'n amser gwych i ymroi ychydig i foethusrwydd. Beth am fwynhau noson yng Ngwesty Clayton, gan gynnwys pryd dau gwrs (gyda swigod) a weinir i'ch ystafell, am £95 yn unig? Neu becyn gwasanaeth ystafell yn y Park Plaza?  Gyda llawer o gynigion gwych am lety ar gyfer arhosiad dros nos, mae nawr yn amser gwych i ymweld.
  7. Awydd troi allan am fwyd?  Bydd hi rhai wythnosau eto cyn bod modd bwyta dan do ond mae llawer o opsiynau awyr agored y gellir eu harchebu eisoes.  Os yw bwyd iach, cartref, wedi'i weini ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o gwrw crefft, cwrw go iawn, gwinoedd a gwirodydd at eich dant, gallech roi cynnig ar y Pontcanna Inn ar heol ddeiliog y gadeirlan neu os ydych chi'n gweld eisiau antur dramor eleni, beth am gael eich cludo i ffwrdd gyda choctel neu ddau a blas o Giwba yn Old Havana ar y Stryd Fawr.
  8. Mae'r angen i gynnal ymbellhau cymdeithasol yn golygu y bydd rhai o'r byrddau gorau ym mwytai a chaffis y ddinas i'w gweld mewn ardal eistedd newydd dan do ar Stryd y Castell, sydd wedi'i chau i gerbydau dros dro. Mae'r ardal yn agor ddiwedd mis Gorffennaf a phan fydd hynny'n digwydd, byddwch yn gallu archebu bwyd o amrywiaeth o fwytai i'w ddanfon yn syth i'ch bwrdd - wrth i chi ymlacio gyda diod a golygfa odidog o'r Castell.
  9. Mae croeso cynnes wedi bod yng Nghaerdydd erioed a dyw hynny ddim wedi newid, ond mae 'mannau croeso' swyddogol bellach wrth fynedfeydd i gerddwyr, lle gall ‘llysgenhadon stryd' gynnig diheintyddion dwylo, gwybodaeth am ymweld â'r ddinas yn ddiogel, a mapiau llwybrau cerdded o amgylch y ddinas i ymwelwyr.  Yn y bôn, Yr Un Ddinas, ond yn Ddiogelach.

 

Mae'r ymgyrch "Yr Un Ddinas, Pethau bach yn newid" yn lansio ddydd Gwener, 17 Gorffennaf, a bydd amrywiaeth o weithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol, hysbysebion ar y radio ac arwyddion stryd yn cario sloganau fel:

 

  • Ambell Newid. Yr Un Ddinas.
  • Arwyddion Newydd. Yr Un Ddinas.
  • Pellach Ar Wahân. Yr Un Ddinas. 
  • Yr Un Ddinas. Ond Yn Ddiogelach.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Chaerdydd, gan gynnwys manylion am y newidiadau sydd wedi'u cyflwyno i wella diogelwch yng nghanol y ddinas yn ogystal â gwybodaeth am siopau agored, bwytai ac atyniadau, ewch i croesocaerdydd.com