Back
Cadwch hi’n lân: Cewynnau, paent a duvets wedi’u rhoi gyda gwastraff gardd mewn camgymeriad

16.07.2020

Diolch enfawr i'n criwiau casglu gwastraff sydd wedi casglu 434 o dunelli hyd yn hyn y mis hwn. 

 

Dychwelodd ein casgliadau gwastraff gardd gwyrdd pythefnosol i'r drefn arferol ddydd Llun 6 Gorffennaf am y tro cyntaf ers dechrau pandemig y coronafeirws ym mis Mawrth.

Fodd bynnag, mae ein criwiau casglu'n adrodd bod cewynnau, paent, duvets, teiars, clustogau a gwydr yn cael eu taflu gyda'r toriadau glaswellt arferol.

Yr eitemau sy'n cael eu rhoi gyda gwastraff gardd gwyrdd mewn camgymeriad gan amlaf yw:

 

  • Gwydr- dylech roi hwn yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd

 

  • Bagiau ailgylchu gwyrdd- dylent fod ar ochr y ffordd i'w casglu, nid yn y bin gwastraff gardd gwyrdd

 

  • Cewynnau- dylent fod mewn bagiaucasgliad hylendid(os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn) neu gyda'ch gwastraff cyffredinol

 

  • Gwastraff bwyd- rhowch hwn yn eich cadi wrth ymyl y ffordd

 

  • Pren- dylid mynd â phren i'ch canolfan ailgylchu yn Ffordd Lamby neu Glos Bessemer.

 

  • Paent- dylid mynd â hwn i'ch canolfan ailgylchu yn Ffordd Lamby neu Glos Bessemer.

 

  • Teiars -dylid mynd â'r rhain i Ffordd Lamby.

 

  • Duvets, clustogau, gobenyddion- dylid mynd â'r rhain i'ch canolfan ailgylchu yn Ffordd Lamby neu Glos Bessemer.

 

  • Teganau a chelfi gardd -dylid rhoi'r rhain yn y Sgipiau Plastig Caled yn eich canolfan ailgylchu leol yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer.

 

Mae ymweliadau â'n Canolfannau Ailgylchu wedi'u cyfyngu i 12 ymweliad y flwyddyn fesul aelwyd. Dim ond unwaith y dydd y cewch ymweld â nhw. Trefnwch eich ymweliad â'r ganolfan ailgylchu  yma.

 

Yr unig eitemau y dylid eu rhoi yn eich gwastraff gardd gwyrdd yw dail, toriadau glaswellt, toriadau planhigion/blodau a brigau/canghennau bach.

 

Mae ein criwiau casglu gwastraff yn gwneud gwaith gwych sy'n sicrhau bod gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau'n effeithlon ar yr adeg hon.

 

Gweler manylion eich dyddiad casglu nesaf  yma.