Back
Pla chwilod duon wedi’i ddarganfod yng nghaffi a siop gludfwyd Heol y Plwca

 16/07/20

Gorchymynnwyd i gwpl priod dalu dros £2,000 yn Llys Ynadon Caerdydd ar 9 Gorffennaf ar ôl i bla chwilod duon gael ei ddarganfod yn eu caffi - Mr Tikka - ar Heol y Plwca y llynedd.

Ar 7 Mai 2019, cynhaliwyd archwiliad hylendid bwyd arferol yn Mr Tikka, 130 Heol y Plwca, sy'n gweithredu fel caffi a busnes cludfwyd gan werthu bagéts, tatws pob a phrydau bwyd cyri.

Pan gyrhaeddodd yr arolygydd y caffi'n ddirybudd, gwelwyd y perchennog, Rubi Begum, yn ysgubo dau bryfyn byw oddi ar y cownter ac roedd powdr gwyn, y credir ei fod yn bryfleiddiad, dros lawr y gegin.

Ffoniodd yr arolygydd y Swyddog Diogelwch Bwyd ar Ddyletswydd yn syth gan ei bod yn amlwg bod pla pryfed yn y caffi a'r busnes cludfwyd.

Pan gyrhaeddodd y Swyddog Bwyd ar Ddyletswydd yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, cynhaliwyd archwiliad llawn a darganfuwyd hyd at 100 o bryfed, yn fyw ac wedi marw; daethpwyd o hyd i fwyd o dan y cownteri ac ar y waliau a darganfuwyd chwilod duon hyd yn oed o dan y byrddau yn yr ardal fwyta lle roedd pobl yn bwyta.

Gofynnwyd i Rubi Begum, perchennog y caffi, am y trefnau glanhau yn y busnes a dywedwyd wrth yr arolygydd fod y llawr yn cael ei lanhau â mop bob dydd. 

Ar ôl dod o hyd i fagl chwilod duon o dan y sinc, gofynnwyd cwestiynau pellach i gadarnhau a oedd ganddynt gontract ar waith gyda chwmni rheoli plâu. Yr ateb a roddwyd gan Rubi Begum oedd y byddai'r manylion hyn yn cael eu cadarnhau gan ei gŵr, Munim Khan, gan mai fe sy'n rheoli'r busnes bwyd o ddydd i ddydd.

Ar ol i'r cwsmeriaid oedd yn weddill adael, caewyd y caffi'n wirfoddol gan fod y chwilod duon Almaenaidd a gafodd eu darganfod yn risg iechyd sylweddol oherwydd y Salmonella sydd ar eu cyrff.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir: "Daeth yr achos hwn i'n sylw trwy archwiliad arferol, gan ei fod yn fusnes bwyd newydd yng Nghaerdydd. Roedd yr hyn a ddarganfuom yn ffiaidd a thrwy fynd â'r mater i'r llys, rydym ni'n anfon neges glir iawn i bob busnes bwyd yn y ddinas na fyddwn yn goddef peidio â bodloni gofynion cyfreithiol. 

"Mae ein swyddogion wedi gweithio'n agos gyda'r busnes i sicrhau bod rhestr o atgyweiriadau a newidiadau wedi'i gyflawni ac maent â chontract gyda chwmni rheoli plâu. Ers hynny, mae archwiliad arall wedi'i gynnal ac yn dilyn yr archwiliad ym mis Mai eleni, mae bellach gan y caffi sgôr hylendid bwyd o 4."

Cafodd Rubi Begum ddirwy o £1,000, a gorchmynnwyd iddi dalu costau o £300 a gordal dioddefwr o £100. Cafodd Munim Khan ddirwy o £500, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £150 a gordal dioddefwr o £50.